top of page
Recent Posts

Job vacancy at DVSC/Swydd wag yn CGGSDd

[Please scroll down for Welsh]

​​​​​​​



Exciting times at Denbighshire Voluntary Services Council - we are looking for a new Chief Officer to lead us in 2021 and beyond!


Qualities our DVSC staff and trustees are looking for in their new leader:




If you are interested, consider these four questions:


1. Are you a successful professional who can provide sound Third Sector operational experience, lead and develop a great team?

2. Are you well connected in the Third Sector in Wales and can show how you have been successful in delivering at a strategic and operational level to your local community?

3. Are you passionate about the Third Sector, supporting and influencing your local volunteer community?

4. Are you a warm and caring individual who shows resilience and drive?


If you believe you have something to offer us and want to find out more about our Chief Officer role, then please see our application pack below. For those wanting an informal discussion about the role, then please email our Chair of Trustees, Sandra Donoghue – sandra@dvsc.co.uk



Closing date for applications: Midday Monday 1st March 2021. Interviews will be held on the week commencing the 8th March 2021.


(Any appointment will be made subject to eligibility to work in the UK, DBS checks, provision of supporting references, qualification checks and a clean driving licence.)

 

For more information and updates follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube or subscribe to our news updates at: www.dvsc.co.uk

 

Amser cyffrous yng Nghyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych – rydym ni’n chwilio am Brif Swyddog newydd i’n harwain yn 2021 a thu hwnt!


Y rhinweddau mae staff ac ymddiriedolwyr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn chwilio amdanyn nhw yn eu harweinydd newydd:




Os oes gennych chi ddiddordeb, ystyriwch y pedwar cwestiwn isod:


1. A ydych chi’n weithiwr proffesiynol llwyddiannus sy’n medru darparu profiad gweithredol cadarn yn y Trydydd Sector ac arwain a datblygu tîm gwych?

2. A oes gennych chi gysylltiadau da yn y Trydydd Sector yng Nghymru ac a fedrwch chi ddangos sut rydych chi wedi bod yn llwyddiannus yn cyflawni ar lefel strategol a gweithredol yn eich cymuned leol?

3. A ydych chi’n angerddol ynghylch y Trydydd Sector a chefnogi a dylanwadu ar eich cymuned wirfoddoli leol?

4. A ydych chi’n unigolyn cynnes a gofalgar sy’n dangos cydnerthedd a brwdfrydedd?


Os ydych chi’n credu fod gennych chi rywbeth i’w gynnig i ni ac am ganfod rhagor am eich swydd Prif Swyddog, yna edrychwch ar ein pecyn ymgeisio isod, os gwelwch yn dda. Os ydych chi’n dymuno cael trafodaeth anffurfiol am y swydd mae croeso i chi anfon neges e-bost at Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Sandra Donoghue – sandra@dvsc.co.uk


Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: hanner dydd, ddydd Llun, 1 Mawrth 2021. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Mawrth 2021.


(Gwneir unrhyw benodiad yn ddarostyngedig i’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, derbyn geirdaon, gwirio cymwysterau a thrwydded yrru lân.)


_____________________________________________________________________________________


Am fwy o wybodaeth a diweddariadau, dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube neu tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk



​​

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

bottom of page