top of page
Recent Posts

PRESS RELEASE (38) - DEMENTIA AWARE GRANT TO SUPPORT DEMENTIA INITIATIVES IN DENBIGHSHIRE

[Please scroll down for Welsh]


May 2022 - DVSC is delighted to announce a new round of Dementia Aware Denbighshire Funding to support activities and initiatives spreading dementia awareness throughout the county.


This grant which has been enabled by funding from the Welsh Government Integrated Care Fund will give Voluntary and Community Groups, Third Sector Organisations, Social Enterprises and Small Businesses (less than 100 employees) who operate in Denbighshire the chance to apply for up to £2,000. Individuals can also apply for grants up to £250.


Grants are available for events, activities and training sessions, which can raise awareness about dementia and encourage people to turn awareness into action and improvement in their communities.


“We have supported a variety of groups across Denbighshire through this grant over the last years. These projects have delivered incredible support to individuals and families living with Dementia. This new grant will allow us to continue to help new and existing initiatives in the county from North to South to continue this great work”, explained Rebecca Bowcott, DVSC Community Wellbeing Officer.


DVSC are operating a rapid grant decision-making process with applications being considered on a rolling basis until funds are disbursed.


To apply for the grant, fill out DVSC’s application for groups and businesses here or for individuals here.

Once you have accessed the document please click File in the top left corner and download to get your modifiable version.


If you want advice and guidance you contact DVSC’s Enterprise & Learning Officer, Rhys@dvsc.co.uk or call him on 01824 702 441.


Notes to Editors


Denbighshire Voluntary Services Council, DVSC, is the County Voluntary Council operating in Denbighshire. Our mission is to build resilient communities through voluntary action and social enterprise, provide excellent support for our members and to be an influential voice in Denbighshire and North Wales.


DVSC is the membership body for individual change makers, volunteers, voluntary and community groups, third sector organisations and social enterprises. Through our work we aspire to enhance individual and community wellbeing. We want to encourage people to live well, and age well.

DVSC works closely with North Wales CVCs, and is a member of the Wales-wide network of CVCs which in partnership with the Wales Council for Voluntary Action (WCVA) forms the partnership that makes up Third Sector Support Wales.


To make sure you are kept up to date when funding opportunities are available subscribe to our mailing list by following the link - Subscribe for News Updates & Bulletins.


For further information contact Tom Barham, Chief Officer, on 01824 702 441 or tom@dvsc.co.uk.

If you want support for volunteers, grants, funding or governance advice please contact DVSC’S Community Support service on 01824 702 441, via email sectorsupport@dvsc.co.uk.


Follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube.


 

For more information and updates follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube or subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk

 

DATGANIAD I'R WASG (38) - GRANT YMWYBYDDIAETH DEMENTIA AR GAEL I GEFNOGI MENTRAU DEMENTIA YN SIR DDINBYCH



Mai 2022 - Mae CGGSDd yn falch o lansio rownd newydd o Gyllid Ymwybyddiaeth Dementia Sir Ddinbych i gefnogi gweithgareddau a mentrau sy'n lledaenu ymwybyddiaeth o ddementia ledled y Sir.


Bydd y grant hwn sydd wedi'i alluogi gan arian o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol, Sefydliadau Trydydd Sector, Mentrau Cymdeithasol a Busnesau bach (llai na 100 o weithwyr) sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych i wneud cais am hyd at £2,000. Gall unigolion hefyd wneud cais am grantiau hyd at £250.


Mae grantiau ar gael ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau a sesiynau hyfforddi, a all godi ymwybyddiaeth am ddementia ac annog pobl i droi ymwybyddiaeth yn gamau gweithredu a gwella eu cymunedau.


“Rydym wedi cefnogi amrywiaeth o grwpiau ar draws Sir Ddinbych drwy’r grant hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r prosiectau hyn wedi darparu cefnogaeth anhygoel i unigolion a theuluoedd sy'n byw gyda Dementia. Bydd y grant newydd hwn yn ein galluogi i barhau i helpu mentrau newydd a phresennol yn y sir o’r Gogledd i’r De i barhau â’r gwaith gwych hwn”, esboniodd Rebecca Bowcott, Swyddog Lles Cymunedol CGGSDd.


Mae CGGSDd yn gweithredu proses benderfynu grantiau cyflym gyda cheisiadau yn cael eu hystyried ar sail dreigl nes bod cronfeydd yn cael eu talu.


I wneud cais am y grant, llenwch gais CGGSDd ar gyfer grwpiau a busnesau yma neu ar gyfer unigolion yma.

Pam fyddwch wedi cyrchu'r ddogfen, cliciwch ar ‘File’ yn y gornel chwith uchaf a'i lawrlwytho i gael eich fersiwn addasadwy.


Os ydych chi eisiau cyngor ac arweiniad, cysylltwch ag aelod tîm Cymorth Cymunedol dwyieithog CGGSDd, rhys@dvsc.co.uk neu ffoniwch ef ar 01824 702 441.


Nodiadau i Olygyddion


CGGSDd yw’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Sirol sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych. Ein cenhadaeth yw creu cymunedau cydnerth trwy weithredu gwirfoddol a mentrau cymdeithasol, darparu cymorth rhagorol i’n haelodau a bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru.


CGGSDd yw’r corff aelodaeth i unigolion, gwirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mudiadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol sydd am greu newid. Ein dyhead yw gwella llesiant unigolion a chymunedau trwy gyfrwng ein gwaith. Rydym ni am annog pobl i fyw’n dda, a heneiddio’n dda.

Mae CGGSDd yn gweithio’n agos gyda Chynghorau Gweithredu Gwirfoddol Sirol eraill Gogledd Cymru, ac mae’n aelod o rwydwaith Cymru gyfan sydd, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn ffurfio’r bartneriaeth sy’n llunio Cefnogi Trydydd Sector Cymru.


Er mwyn gwneud yn siwr eich bod chi’n cael y manylion diweddaraf pan fo cyfleoedd cyllid ar gael, gwnewch yn siwr eich bod yn tanysgrifio i’n rhestr bostio trwy ddilyn y ddolen – Tanysgrifio ar gyfer Diweddariadau Newyddion a Bwletinau.


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda Tom Barham, Prif Swyddog ar 01824 702 441 neu tom@dvsc.co.uk


Os ydych chi eisiau cefnogaeth i wirfoddolwyr, grantiau, cyllid neu gyngor llywodraethu, cysylltwch â gwasanaeth Cymorth Cymunedol CGGSDd ar 01824 702 441, trwy e-bost sectorsupport@dvsc.co.uk neu drwy sgwrs fyw.


Dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube.

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

bottom of page