top of page
Recent Posts

Ørsted yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o Gronfa Gymunedol Estyniad Banc Burbo

[Please scroll down for English]


Fis diwethaf dathlodd deuddeg sefydliad o amgylch Bae Lerpwl gan gynnwys yma yn Sir Ddinbych y newyddion eu bod wedi derbyn grantiau fel rhan o’r rownd ddiweddaraf o gyllid Cronfa Gymunedol Banc Burbo Ørsted.


Mae'r dyfarniadau diweddaraf yn mynd â chyfanswm y prosiectau a gefnogir i 160, gyda chyfanswm y cronfeydd a ddyfarnwyd bellach dros £ 1.4 miliwn ers i'r Gronfa gael ei lansio ym mis Mai 2015.


Mae argyfwng byd-eang Covid-19 wedi golygu bod cefnogaeth grant yn bwysicach nag erioed, angen a gydnabuwyd gan Ørsted yn ôl ym mis Mehefin 2020 pan wnaethant gyhoeddi newidiadau dros dro i feini prawf cymhwysedd y Gronfa i annog ceisiadau i gefnogi cymunedau trwy'r argyfwng ac ar y ffordd i adferiad. Bydd y llacio meini prawf dros dro yn dal i fod mewn grym erbyn y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau ym mis Ebrill 2022.


Mae'r rhestr lawn o sefydliadau y dyfarnwyd grantiau iddynt o dan rownd ddiweddaraf y Gronfa Budd Cymunedol fel a ganlyn:


  • Bocsys Teganau KidsOut, Arfordir Gogledd Cymru a Lloegr – £960

  • Canolfan Gristnogol Stryd Sussex, Y Rhyl – £20,000

  • Parth Ieuenctid Cilgwri, Prosiect Allgymorth Liscard – £14,000

  • Canolfan ‘Reach Mens’ CBC – £4,160

  • Clwb Bowlio Llanelwy – £2,000

  • Canolfan Cwnsela a Therapi Merswy, Gogledd Cilgwri – £4,950

  • Ymddiriedolaeth Osborne – £8,320

  • Cymdeithas Hosbis St Joseph – £4,918

  • Elusen Venus – £16,000

  • Mencap Lerpwl a Sefton – £14,000

  • Ymddiriedolaeth Jon Egging – £4,996

  • Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Y Rhyl – £19,819


Dywedodd Stuart Barnes, Prif Weithredwr Parth Ieuenctid Cilgwri: “Mae pobl ifanc yn arbennig wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan Cofid ac mae gwaith ieuenctid ar hyn o bryd yn holl bwysig. Rydym yn hynod ddiolchgar i Ørsted am y gefnogaeth a fydd yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith yn ardal Liscard, gan ddarparu amrywiaeth o weithgareddau cadarnhaol i bobl ifanc, ond yn bwysicach fyth eu cefnogi i godi dyheadau, gwella rhagolygon, gwella iechyd a lles a chreu y fersiwn orau posib ohonynt eu hunain.”


Dywedodd Imran Nawaz, Cynghorydd Rhanddeiliaid a Rheolwr Cronfa Budd Cymunedol ar gyfer Ørsted: “Wrth i’r rhanbarth barhau i ddelio ag effeithiau Covid, mae mawr angen cymorth ariannol ar gyfer prosiectau cymunedol. Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillwyr diweddaraf y grantiau a chroesawu grwpiau a sefydliadau lleol eraill i ymgeisio ar gyfer y rownd nesaf, sy’n cau ym mis Ebrill. Mae’n wych gweld yr ymroddiad anhygoel gan yr holl ymgeiswyr ac edrychwn ymlaen at weld y prosiectau hyn yn datblygu dros y misoedd nesaf.”


Y dyddiad cau ar gyfer y rownd ariannu nesaf yw 13 Ebrill 2022.


I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa a sut i wneud cais, cliciwch yma


Bob blwyddyn am oes ddisgwyliedig fferm wynt alltraeth Estyniad Burbo Bank o 25 mlynedd, bydd tua £225,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol, a fydd o fudd i’r ardal leol.

 

Am fwy o wybodaeth a diweddariadau, dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube neu tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk

 

Ørsted announces latest round of community grants through its Burbo Bank Extension Community Fund



Twelve organisations around Liverpool Bay are celebrating the news that they have been awarded grants as part of the latest round of funding from Ørsted’s Burbo Bank Extension Community Fund.


The latest awards take the total number of projects supported to 160, with total funds awarded now standing at over £1.4 million since the Fund launched in May 2015.


The global Covid-19 emergency has meant grant support is more important than ever, a need which was acknowledged by Ørsted back in June 2020 when they announced temporary changes to the Fund’s eligibility criteria to encourage applications to support communities through the crisis and on the road to recovery. The temporary criteria relaxations will still be in place for the next application deadline in April 2022.


The full list of organisations awarded grants under the latest round of the Community Benefit Fund are as follows:


  • KidsOut, North Wales and English Coast Toy Boxes – £960

  • Sussex Street Christian Centre, Rhyl – £20,000

  • Wirral Youth Zone, Liscard Outreach Project – £14,000

  • The Reach Mens Centre CIC – £4,160

  • St. Asaph Bowling Club – £2,000

  • Mersey Counselling and Therapy Centre, North Wirral – £4,950

  • The Osborne Trust – £8,320

  • St Joseph’s Hospice Association – £4,918

  • Venus Charity – £16,000

  • Mencap Liverpool & Sefton – £14,000

  • Jon Egging Trust – £4,996

  • West Rhyl Young People’s Project – £19,819

Stuart Barnes, Chief Executive at Wirral Youth Zone said: “Young people in particular have been significantly impacted by Covid and never has youth work been more important. We are incredibly grateful to Ørsted for the support which will enable us to build on work in the Liscard area, providing young people with a range of positive activities, but more importantly support them to raise aspirations, enhance prospects, improve health and wellbeing and become the best possible versions of themselves.”


Imran Nawaz, Stakeholder Advisor & Community Benefit Fund Manager for Ørsted, said: “As the region continues to deal with the impacts of Covid, funding support for community projects is much needed. We are delighted to announce the latest grant winners and welcome other local groups and organisations to apply for the next round, which closes in April. It’s fantastic to see the incredible dedication from all the applicants and we look forward to seeing these projects take shape over the coming months.”


The closing date for the next funding round is 13 April 2022.


For more information about the Fund and how to apply, please click here


Each year for the expected 25 year lifetime of the Burbo Bank Extension offshore wind farm, approximately £225,000 will be made available for community projects, which will benefit the local area.

 

For more information and updates follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube or subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk


Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

bottom of page