Foundations for the third sector (F4S3)
Scroll down for Welsh
Foundations for the third sector (F4S3) is an induction programme for people who have recently started working in the voluntary sector; new entrants, recent college graduates, those who have made a career change, or volunteered for 18 months or less.
A free pilot course will provide new volunteers and staff with a complete understanding of how the voluntary sector functions and includes:
• Understanding the sector
• Advocacy
• Operations
• Voluntary sector skills
PROGRAMME CONTENT
The programme is made up of four modules, each of which consists of two classroom workshops, two recorded webinars and two live webinars. It has been designed to encourage learners to incorporate the learning from the workshops in their daily work through practical examples, case studies, research, and presentations. As learners complete each level of the programme, they will earn a digital badge.
The course is made up of four one day classroom workshops, followed by four one-hour recorded webinars and four one-hour live webinars. There are also assessments to complete.
Module 1
• Workshop 1: Landscape of the voluntary sector
Thursday 20 January 2022 – Cardiff | 9am to 4pm
• Webinar 1: My organisation within the wider sector
Tuesday 25 January 2022 – Online | 1 hour
Module 2
• Workshop 2: Public policy & advocacy
Thursday 27 January 2022 – Cardiff | 9am to 4pm
• Webinar 2: My organisation’s big advocacy ask
Tuesday 1 February 2022 – Online | 1 hour
Module 3
• Workshop 3 - Professional skills necessary to work in the voluntary sector
Thursday 3 February 2022 – Cardiff | 9am to 5pm
• Webinar 3: My organisation & approaches to operations
Tuesday 8 February 2022 – Online | 1 hour
Module 4
• Workshop 4: Personal skills necessary to work in the voluntary sector
Thursday 10 February 2022 – Cardiff | 9.30am to 5pm
• Webinar 4: My organisation & personal development
Tuesday 15 February 2022 – Online | 1 hour
HOW TO TAKE PART - PILOT STUDY
The pilot training programme will be delivered in Wales during early 2022. To register your interest in the programme please email training@wcva.cymru. Closing date Friday 10 December 2021.
Spaces are limited and will be allocated following the closing date. You will be asked to confirm that you can commit to completing all modules and assessment. You will need to complete assessments before attending the live webinars.
Visit the WCVA website for further information on the F4S3 project.
Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (F4S3)
Rhaglen gynefino yw Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (F4S3) i bobl sydd newydd ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol; newydd-ddyfodiaid, graddedigion coleg diweddar, y rheini sydd wedi newid gyrfa neu wedi gwirfoddoli am 18 mis neu lai.
Bydd cwrs peilot am ddim yn rhoi dealltwriaeth lawn i wirfoddolwyr a staff newydd o sut mae’r sector gwirfoddol yn gweithio a bydd yn cynnwys:
• Deall y sector
• Eiriolaeth
• Gweithrediadau
• Sgiliau sector gwirfoddol
CYNNWYS Y RHAGLEN
Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl, a phob un o’r rhain yn cynnwys dau weithdy ystafell ddosbarth, dwy weminar wedi’u recordio a dwy weminar fyw. Mae wedi’i dylunio i annog dysgwyr i gynnwys yr hyn y byddant yn ei ddysgu yn y gweithdai yn eu gwaith bob dydd drwy enghreifftiau ymarferol, astudiaethau achos, ymchwil a chyflwyniadau. Wrth i ddysgwyr gwblhau pob lefel o’r rhaglen, byddant yn ennill bathodyn digidol.
Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar gweithdy undydd mewn ystafell ddosbarth, gyda phedair gweminar awr o hyd wedi’u recordio a phedair gweminar fyw awr o hyd i ddilyn. Bydd hefyd angen cwblhau asesiadau.
Modiwl 1
• Gweithdy 1: Tirwedd y sector gwirfoddol
Dydd Iau 20 Ionawr 2022 – Caerdydd | 9yb tan 4yp
• Gweminar 1: Fy mudiad o fewn y sector ehangach
Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022 – Ar-lein | 1 awr
Modiwl 2
• Gweithdy 2: Polisi cyhoeddus ac eiriolaeth
Dydd Iau 27 Ionawr 2022 – Caerdydd | 9yb tan 4yp
• Gweminar 2: Gofyniad eirioli mawr fy mudiad
Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022 – Ar-lein | 1 awr
Modiwl 3
• Gweithdy 3 – Sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i weithio yn y sector gwirfoddol
Dydd Iau 3 Chwefror 2022 – Caerdydd | 9yb tan 5yp
• Gweminar 3: Fy mudiad a dulliau gweithredu
Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022 – Ar-lein | 1 awr
Modiwl 4
• Gweithdy 4: Sgiliau personol sydd eu hangen i weithio yn y sector gwirfoddol
Dydd Iau 10 Chwefror 2022 – Caerdydd | 9.30yb tan 5yp
• Gweminar 4: Fy mudiad a datblygiad personol
Dydd Mawrth 15 Chwefror 2022 – Ar-lein | 1 awr
SUT I GYMRYD RHAN – ASTUDIAETH BEILOT
Bydd y rhaglen hyfforddiant peilot yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar ddechrau 2022. I fynegi eich diddordeb yn y rhaglen, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Dyddiad cau: Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyrannu ar ôl y dyddiad cau. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn gallu ymrwymo i gwblhau’r holl fodiwlau a’r asesiad. Bydd angen i chi gwblhau’r asesiadau cyn mynychu’r gweminarau byw.
I gael rhagor o wybodaeth ar brosiect F43S ewch i wefan CGGC.
Opmerkingen