top of page
Recent Posts

News Release from Denbighshire Leisure / Datganiad newyddion gan Hamdden Sir Ddinbych

[Please scroll down for Welsh]

As part of our service commitment, we share the information below from Denbighshire County Council.

Denbighshire County Council has published a News Release relating to Festive surprise planned to bring Christmas cheer, following cancellation of annual lights switch on due to Covid-19.

The Christmas Pops concert and Rhyl Christmas Lights switch on have been cancelled to ensure the safety of the public amid the Covid-19 pandemic.

The events, traditionally organised by Denbighshire Leisure Ltd and supported by Rhyl Town Council, have been cancelled to protect the health of everyone involved.

Last year, excited crowds gathered on the high street to see former Coronation Street star Catherine Tyldesley turn on the Christmas lights in Rhyl town centre. The Christmas Pops concert brought in hundreds of party-goers for an evening full of music and entertainment.

Jamie Groves, Managing Director of Denbighshire Leisure Ltd, said: "We have been monitoring government advice closely, and after much discussion and careful deliberation we have arrived at this inevitable conclusion. Our decision has been made in light of the challenges presented by Covid-19, and the continuing expectation of social distancing measures.

"Unfortunately, we feel we would not be able to guarantee the safety of staff, volunteers and visitors attending both of these events, or wish to risk putting additional stress on the emergency services at such a difficult time. The entire Denbighshire Leisure Ltd team are naturally disappointed, but will now set their sights on making next year's events programme better than ever.

Rhyl Mayor Cllr Ellie Chard has given a glimmer of festive cheer to residents and visitors as she has revealed that the town council is working on an alternative event for this year.

Rhyl mayor Cllr Ellie Chard said: "The lights switch on and Christmas Pops concert are usually two of the highlights in Rhyl's festive countdown. But we thoroughly understand and support the reasons for not going ahead this year. Although disappointing, our town will still be lit up and magical throughout the festive period. The town council also has a little something up its sleeve which will bring Christmas cheer to children everywhere, enabling them to enjoy a festive treat from the comfort and safety of their own homes. Watch this space as we'll be releasing details soon."

Note to editors: For further information please contact Angie Platt, Marketing Manager at Denbighshire Leisure Ltd on angie.platt@denbighshireleisure.co.uk

 

For more information and updates follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube or subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk

​​

 

Fel rhan o'n hymrwymiad gwasanaeth, rydyn ni'n rhannu'r wybodaeth isod gan mae Cyngor Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Sir Dinbych wedi cyhoeddi Datganiad Newyddion yn ymwneud â syndod Nadoligaidd sydd wedi'i gynllunio i ddod â hwyl y Nadolig, ar ôl canslo goleuadau blynyddol yn cael eu troi ymlaen oherwydd Covid-19.

Mae cyngerdd Pop Nadolig a chynnau Goleuadau Nadolig y Rhyl wedi’u canslo, i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r digwyddiadau, a drefnir yn draddodiadol gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, gyda chefnogaeth Cyngor Tref y Rhyl, wedi’u canslo i ddiogelu iechyd pawb a oedd ynghlwm wrth y digwyddiadau.

Y llynedd, fe wnaeth tyrfaoedd ymgynnull ar y stryd fawr i weld cyn seren Coronation Street, Catherine Tyldesley, yn cynnau’r goleuadau Nadolig yng nghanol tref y Rhyl. Daeth cannoedd o bobl gyffrous i weld y cyngerdd Pop Nadolig, am noson llawn cerddoriaeth ac adloniant.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym wedi bod yn monitro cyngor y llywodraeth yn agos ac ar ôl llawer o drafodaethau ac ystyriaethau gofalus, rydym wedi dod i’r casgliad anochel hwn. Rydym wedi gwneud ein penderfyniad yn sgil yr heriau a gyflwynwyd gan Covid-19, a’r disgwyliad parhaus o fesurau cadw pellter cymdeithasol.

“Yn anffodus, rydym yn teimlo na fyddem yn gallu sicrhau diogelwch staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn y digwyddiadau hyn, neu’n dymuno rhoi straen ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn ystod cyfnod mor anodd. Mae tîm Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn siomedig iawn wrth gwrs, ond maent bellach yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd rhaglen ddigwyddiadau’r flwyddyn nesaf yn well nag erioed.

Mae Maer y Rhyl, y Cynghorydd Ellie Chard, wedi rhoi ambell lygedyn o hwyl yr Ŵyl i breswylwyr ac ymwelwyr, wrth iddi ddatgelu bod y cyngor tref yn gweithio ar ddigwyddiad amgen ar gyfer eleni.

Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Ellie Chard: “Mae cynnau’r goleuadau a’r cyngerdd Pop Nadolig fel arfer yn ddau uchafbwynt yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn y Rhyl. Ond rydym yn deall yn iawn ac yn cefnogi’r rhesymau dros beidio â’u cynnal eleni. Er ei fod yn siomedig, bydd ein tref yn parhau i gael ei goleuo ac yn hudolus drwy gydol yr Ŵyl. Mae gan y cyngor tref rywbeth bach i fyny ei lawes, a fydd yn dod â hwyl yr Ŵyl i blant ym mhobman, gan eu galluogi i fwynhau rhywbeth Nadoligaidd o gysur a diogelwch eu cartrefi eu hunain. Gwyliwch y gofod a byddwn yn rhyddhau manylion yn fuan.”

Nodyn i olygyddion: I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Angie Platt, Rheolwr Marchnata Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar angie.platt@denbighshireleisure.co.uk.

 

Am fwy o wybodaeth a diweddariadau, dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube neu tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk

​​

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

bottom of page