top of page
Recent Posts

NHS COVID-19 app launches across Wales and England / Ap COVID-19 y GIG yn lansio ledled Cymru a Lloe

[Please scroll down for Welsh]

As part of our service commitment, we share the information below - a joint press release from Welsh Government.

The NHS COVID-19 app launched 24th September across Wales and England and will be an important way to help keep Wales safe.

Welsh Government are encouraging people in Wales to download and use the app because the more people do so the more it will help reduce and manage the spread of COVID.

The app features are:

  • Alert: lets you know the level of coronavirus risk in your postcode district

  • Trace: get alerted if you’ve been near other app users who have tested

  • Check-in: get alerted if you have recently visited a venue where you may have come into contact with coronavirus

  • Symptoms: check if you have coronavirus symptoms and see if you need to order a free test

  • Test: helps you book a test and get your result quickly

  • Isolate: keep track of your self-isolation countdown and access relevant advice

It’s supporting our NHS Wales Test, Trace, Protect service and will work alongside the existing manual contact tracing system.

The app works by logging the amount of time you spend near other app users, and the distance between you, so it can alert you if someone you have been close to later tests positive for COVID-19 – even if you don’t know each other.

The app will advise you to self-isolate if you have been in close contact with a confirmed case. It will also enable you to check symptoms, book a test if needed and get your test results.

Wales’ Health Minister Vaughan Gething said:

"The launch of the NHS COVID-19 app is an important part of Wales’ coronavirus response, supporting the NHS Wales Test, Trace, Protect programme.

"The more people who download and use this app, the more it will help us to prevent the spread of COVID-19. We have worked closely with the app development team to ensure it works seamlessly across Wales and England, providing people with the right advice based on where they live. In Wales, the app will complement our existing contact tracing and testing services and will further support our co-ordinated response to COVID-19 at both a local and national level.

"I strongly encourage everyone in Wales to download and use the app to keep Wales safe."

Whilst the app will be a major support for the contact tracing system, Welsh residents are being reminded to continue to keep Wales safe and prevent the spread of COVID-19 by:

  • Always keeping a distance

  • Washing hands regularly

  • Working from home wherever possible

  • Following local restrictions

  • Following the rules about meeting people

  • Staying at home if you or anyone in your extended household has symptoms.

 

For more information and updates follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube or subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk

​​

 

Fel rhan o'n hymrwymiad gwasanaeth, rydyn ni'n rhannu'r wybodaeth isod - datganiad i'r wasg ar y cyd gan mae Llywodraeth Cymru.

Lansiodd ap COVID-19 y GIG 24 Medi ar draws Cymru a Lloegr a bydd yn ffordd bwysig o helpu i gadw Cymru yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio'r ap oherwydd po fwyaf o bobl sy'n gwneud hynny po fwyaf y bydd yn helpu i leihau a rheoli lledaeniad COVID.

Nodweddion yr ap yw:

  • Olrhain - Cewch rybudd os ydych wedi bod wrth yml defnyddwyr eraill gafodd brawf coronafeirws positif

  • Rhybudd - Cewch wybod lefel y risg yn eich ardal cod post

  • Cofnodi i mewn - Cewch rybudd os ydych wedi bod i rywle lle'r oedd coronafeirws

  • Symptomau - Gwiriwch eich symptomau coronafeirws i weld a oes angen archebu prawf am ddim

  • Prawf- Help gyda bwcio prawf a chanlyniad cyflym

  • Ynysu - Cadw trac ar eich cyfnod hunanynysu a chyngor perthnasol

Mae'r ap yn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru a bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r system olrhain cysylltiadau bresennol.

Mae’r ap yn gweithio drwy gofnodi faint o amser rydych chi’n ei dreulio wrth ymyl defnyddwyr eraill yr ap, a’r pellter rhyngoch chi, fel ei fod yn gallu rhoi gwybod i chi os bydd rhywun rydych chi wedi bod yn agos ato’n profi’n bositif yn ddiweddarach am COVID-19 – hyd yn oed os nad ydych chi’n adnabod eich gilydd.

Bydd yr ap yn eich cynghori chi i hunanynysu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos wedi’i gadarnhau. Bydd hefyd yn galluogi i chi wirio symptomau, trefnu prawf os oes angen, a chael canlyniadau eich prawf.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething:

"Mae lansiad ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o ymateb Cymru i’r coronafeirws, gan ategu’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Po fwyaf o bobl fydd yn lawrlwytho’r ap, y mwyaf y bydd yn ein helpu ni i atal lledaeniad COVID-19.

"Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda thîm datblygu’r ap i sicrhau ei fod yn gweithio’n hwylus ledled Cymru a Lloegr, gan roi cyngor priodol i bobl yn seiliedig ar ble maen nhw’n byw. Yng Nghymru, bydd yr ap yn ategu ein gwasanaethau olrhain cysylltiadau a phrofi presennol a bydd yn rhoi cefnogaeth bellach i’n hymateb cydlynol i COVID-19 ar lefel leol a chenedlaethol.

"Rydw i wir yn annog pawb yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio’r ap i gadw Cymru’n ddiogel."

Er y bydd yr ap yn gymorth mawr i’r system olrhain cysylltiadau, mae trigolion Cymru’n cael eu hatgoffa i barhau i gadw Cymru’n ddiogel ac atal lledaeniad COVID-19 drwy wneud y canlynol:

  • Cadw pellter bob amser

  • Golchi dwylo yn rheolaidd

  • Gweithio o gartref os yw hynny’n bosib

  • Cadw at gyfyngiadau lleol

  • Cadw at y rheolau am gyfarfod pobl

  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.

 

Am fwy o wybodaeth a diweddariadau, dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube neu tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk

​​

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page