top of page
Recent Posts

#SundayRead - North Wales Regional Equality Network (NWREN)

[Please scroll down for Welsh]

In 2000 the North Wales Regional Equality Network (NWREN) was established as the race equality body for North Wales, with support from the Commission for Racial Equality (since replaced by the EHRC). NWREN has been working in the fields of education, housing, criminal justice and employ­ment but, most importantly, working for equality, racial justice and against racism and discriminat­ion across North Wales. Over the years NWREN has received financial support from a range of funding agencies, including the Big Lottery and Carnegie, Welsh Government, ESF and the North Wales local authorities. With the aid of North Wales Police we obtained our own office building in Penmaenmawr.

The Covid-19 epidemic has highlighted the impact of racism because when everything else is accounted for – deprivation, employment, exposure, pre-existing health condition etc, the ethnic minority population suffers more than others both in infection rates and death. Evidence shows the constant fear and anxiety that derives from the experience of unrelenting racism creates stresses that undermine wellbeing and contribute to illness and early death.

The televised murder of George Floyd in the USA has led to worldwide mobilisation against police violence, and to injustice and discrimination in general. In the UK we have our own recent horror stories; the Grenfell Tower disaster, the outrageous treatment of the Windrush generation and, of course, the continued lack of minority faces in key institutions.

People in North Wales often seem to believe that ‘race relations’ happen somewhere else - in big cities, or England perhaps. This is far from the truth. NWREN has encountered racial hostility and abuse across the region and found alarming levels of extreme racist beliefs among year seven pupils. Many incidents do not come to light because people do not trust the authorities to deal effectively with the issues. Meanwhile in North Wales, as elsewhere, monuments to the ‘heroes’ of Empire remind minorities of their history and status. Do we ever stop to ask how extremely offensive these monuments can be that people risk their health in mobilising against them?

Calls for racial justice are often seen as threats of black supremacy, just as men fear that demands for gender equality mean women ‘taking over’. But demanding that a knee is taken off your neck is hardly a threat to the person who is holding you down.

NWREN works across the whole of North Wales, scattered settlements with small populations have even fewer (and therefore more exposed) minority populations. Serving these areas is harder than working in Wrexham or Bangor but we have worked successfully in helping people overcome their isolation and, for example enabling the health board and other public agencies to reach out to isolated minority people – many of whom themselves provide important services to the public locally.

NWREN supports agencies and individuals coping with the current crisis, but it does not hesitate to challenge whenever and wherever the ugly face of racism is seen or its consequences encountered.

NWREN are looking for #volunteers to become Board Members. Interested and want to know more? Visit our #DenbighshireVolunteers platform to find out more about the opportunity and apply. ⬇️⬇️ https://bit.ly/NWRENOpp

 

Sefydlwyd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2000 fel y corff cydraddoldeb hiliol ar gyfer Gogledd Cymru, gyda chefmogaeth y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (wedi’i ddisodli gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddarach). Mae’r Rhwydwaith wedi bod yn gweithio ym meysydd addysg, tai, cyfiawnder troseddol a chyflogaeth ond, yn bwysicaf oll, yn gweithio dros gydraddoldeb, cyfiawnder hiliol ac yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu ar draws Gogledd Cymru. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi derbyn cymorth ariannol gan ystod o asiantaethau cyllido dros y blynyddoedd, yn cynnwys y Loteri Fawr ac Ymddiriedolaeth Carnegie, Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac awdurdodau lleol Gogledd Cymru. Gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru cawsom ein swyddfa ein hunain ym Mhenmaenmawr.

Mae’r epidemig Covid-19 wedi tynnu sylw at effaith hiliaeth oherwydd, pan fo popeth arall wedi’i ystyried – amddifadedd, cyflogaeth, dod i gysylltiad gyda’r feirws, cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac ati – mae’r boblogaeth leiafrif ethnig yn dioddef mwy nag eraill o ran cyfraddau heintio a marwolaeth. Dengys tystiolaeth fod yr ofn a’r pryder parhaus sy’n deillio o’r profiad o hiliaeth diderfyn yn creu straen sy’n tanseilio llesiant ac yn cyfrannu at salwch a marwolaeth gynnar.

Mae dangos llofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau ar y teledu wedi arwain at brotestio ledled y byd yn erbyn trais gan yr heddlu, ac yn erbyn anghyfiawnder a gwahaniaethu’n gyffredinol. Mae gennym ein straeon hunllefus ein hunain yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar hefyd; trychineb Tŵr Grenfell, triniaeth enbyd y genhedlaeth Windrush ac, wrth gwrs, y parhad yn niffyg wynebau lleiafrifol mewn sefydliadau allweddol.

Yn aml ymddengys bod pobl Gogledd Cymru’n credu bod ‘cysylltiadau hiliol’ yn digwydd yn rhywle arall – mewn dinasoedd mawr, neu’n Lloegr efallai. Ond mae hyn ymhell o’r gwir. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi dod ar draws cam-drin a gelyniaeth hiliol ledled y rhanbarth ac wedi gweld lefelau brawychus o gredoau hiliol eithafol ymhlith disgyblion Blwyddyn 7. Nid yw llawer o ddigwyddiadau’n dod i’r amlwg oherwydd nad yw pobl yn ymddiried yn yr awdurdodau i ymdrin â’r materion yn effeithiol.

Yn y cyfamser, yng Ngogledd Cymru fel mewn mannau eraill, mae cerfluniau i ‘arwyr’ yr Ymerodraeth yn atgoffa pobl leiafrifol o’u hanes a’u statws. A ydym ni’n oedi i ofyn pa mor ofnadwy o ddilornus y gall y cerfluniau hyn fod fel bo pobl yn rhoi eu hiechyd mewn perygl i brotestio yn eu herbyn?

Yn aml mae’r galw am gyfiawnder hiliol yn cael ei weld fel bygythiad goruchafiaeth pobl dduon, yn union fel mae dynion yn ofni bod galw am gydraddoldeb rhwng y rhywiau’n golygu y bydd merched yn ‘cymryd drosodd’. Ond mae gofyn am dynnu penglin oddi ar eich gwddf yn bell o fod yn fygythiad i’r unigolyn sy’n eich dal i lawr.

Mae’r Rhwydwaith yn gweithio ar draws Gogledd Cymru gyfan. Mae gan anheddiadau gwasgaredig gyda phoblogaethau bach lai o boblogaethau lleiafrifol hyd yn oed (sy’n eu gwneud yn fwy agored i’w targedu felly). Mae gwasanaethu’r ardaloedd hyn yn anoddach na gweithio yn Wrecsam neu Fangor ond rydym ni wedi gweithio’n llwyddiannus i helpu pobl oresgyn eu hynysigrwydd a galluogi’r bwrdd iechyd ac asiantaethau cyhoeddus eraill i estyn allan at bobl leiafrifol ynysig, er enghraifft – gyda llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau pwysig i’r cyhoedd yn lleol eu hunain.

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru’n cefnogi asiantaethau ac unigolion sy’n ymdopi gyda’r argyfwng cyfredol, ond nid yw’n oedi cyn herio pryd bynnag a lle bynnag y gwelir wyneb hagr hiliaeth neu ei ganlyniadau.

Cyfle Gwirfoddoli Newydd! Mae NORTH WALES REGIONAL EQUALITY NETWORK LTD yn chwilio am #volunteers i ddod yn Aelodau'r Bwrdd. Oes gennych chi ddiddordeb ac eisiau gwybod mwy? Ewch i'n llwyfan #DenbighshireVolunteers i gael gwybod mwy am y cyfle a gwneud cais. ⬇️⬇️ https://bit.ly/NWRENOpp

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page