top of page
Recent Posts
Press Release - Welsh Government Stakeholder Briefing
Scroll down for Welsh
CORE NARRATIVE as of 16 JULY 2020
  • There are around 130,000 people in Wales who are at high risk of developing serious illness if they are exposed to coronavirus (COVID-19). Those identified as being in this extremely vulnerable group were asked to shield by the Chief Medical Officer in Wales to protect themselves from the Coronavirus.
  • On the 01 June, those shielding in Wales were advised that they could leave their houses and go outdoors for exercise and to meet up with people from another household.
  • Following on from this - and in line with advice to the wider population - those shielding were advised that from the 06 July they could form an extended household.
  • These changes reflected the latest evidence which showed that the number of people with coronavirus in Wales had gone down. A greater understanding of the virus also showed that it is not so easily spread outside.
  • In his most recent review, the Chief Medical Officer for Wales has indicated that, should prevalence of coronavirus continue to fall in our communities he will be able to pause his advice to those who are shielding. The lower the chance of catching the virus in our communities, the safer it will be for those who have been shielding to gradually get back to their day-to-day life.
  • The Chief Medical Officer for Wales has made this decision in line with Chief Medical Officers across the other UK nations; recognising that shielding was put in place to protect those at the most significant risk of harm at a time when prevalence of the coronavirus in our communities was rising.
  • That situation has now changed. Shielding can cause its own harms; it can have an effect on mental and physical health and it is important we do not ask people to shield for any longer than is necessary. We must focus on helping those who have shielded to make steps toward returning to the lives they lived before shielding.
  • From 16 August, advice to those shielding will be paused. This means that people in the shielded group will be advised they can return to school or work – where their workplace is Covid-secure. They can go out to the shops, as long as they can maintain a physical distance of 2 metres or 3 steps.
  • Those in the shielding group should continue to take particular care to minimise contact with others outside of their extended household. This includes practising strict physical distancing and good hand hygiene. This is the same advice that is already being given to groups at an increased risk from the virus, such as the over 70’s.
  • It is recognised that many who are shielding will be worried about returning to their day-to-day lives and about losing the support that has been available to them. There are a number of weeks still to go before the period of shielding comes to an end which provides individuals, and those who care for or support them, with the opportunity to plan and prepare.
  • As of 14 July, more than 150,000 food boxes have been delivered to people shielding and this support will remain in place until 16 August. Priority online food delivery slots are available for shielding people and will remain in place beyond the 16 August.
  • The national prescription delivery service will continue until 30 September for those who need it.
  • The shielded patients list will remain in place and available should we need to ask anyone to shield again in future.
  • From 16th August onwards, the Chief Medical Officer for Wales will continue to review the risks for shielded patients as the physical distancing advice is reviewed for the general population. The shielding group will follow the same advice given to those at an increased risk from the virus.
  • It is important to recognise that these changes for those who have been shielding are significant. For those who have remained at home at all times the differences in the outside world which have evolved swiftly over the last few months will be unfamiliar.
  • As a community, we must appreciate those around us who are transitioning back to their pre-shielding life and we should support them to do so.
  • This means asking all citizens to please keep to the rules. Maintain a physical distance to support those around us who may just be getting used to the outdoors once more.
Read the full briefing document here: https://bit.ly/WGStakeholderBrief
NARATIF CRAIDD – GWARCHOD 16 GORFFENNAF 2020
  • Mae gan tua 130,000 o bobl yng Nghymru risg uchel o ddatblygu salwch difrifol os ydynt dod i gysylltiad â'r coronafeirws (COVID-19). Gofynnodd Prif Swyddog Meddygol Cymru i'r rheini yn y grŵp hwn sy’n cynnwys pobl eithriadol o agored i niwed warchod er mwyn diogelu eu hunain rhag y coronafeirws.
  • Ar 1 Mehefin, cynghorwyd y rheini yng Nghymru sy'n gwarchod y gallent adael eu cartrefi i fynd allan i ymarfer corff, ac i gwrdd â phobl o aelwyd arall.
  • Yn dilyn hyn, ac yn unol â'r cyngor a roddwyd i'r boblogaeth ehangach - dywedwyd y gallai'r rheini oedd yn gwarchod greu aelwyd estynedig o 6 Gorffennaf ymlaen.
  • Roedd y newidiadau hyn yn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf a oedd yn dangos bod nifer y bobl â'r coronafeirws yng Nghymru wedi gostwng. Wrth feithrin gwell dealltwriaeth o'r feirws, dangoswyd nad oedd yn lledaenu mor hawdd yn yr awyr agored.
  • Yn ei adolygiad diweddaraf, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru y bydd yn gallu atal ei gyngor i'r rheini sy'n gwarchod, os bydd nifer yr achosion o'r coronafeirws yn parhau i ddisgyn yn ein cymunedau. Y lleiaf o siawns sydd i ddal y feirws yn ein cymunedau, y mwyaf diogel fydd i'r rheini sydd wedi bod yn gwarchod ddychwelyd yn raddol at eu bywydau dyddiol.
  • Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi gwneud y penderfyniad hwn ar y cyd â Phrif Swyddogion Meddygol gwledydd eraill y DU; gan gydnabod bod y cyngor i warchod wedi’i roi er mwyn diogelu'r rheini oedd â'r risg fwyaf o niwed ar y pryd, pan oedd nifer yr achosion o'r coronafeirws yn ein cymunedau yn cynyddu.
  • Bellach, mae'r sefyllfa honno wedi newid. Mae gwarchod yn gallu arwain at ffactorau niweidiol yn ei hun; gall gael effaith ar iechyd meddyliol a chorfforol, ac mae'n bwysig nad ydym yn gofyn i bobl warchod eu hunain am gyfnod mwy nag sy'n angenrheidiol. Rhaid i ni ganolbwyntio ar helpu'r rheini sydd wedi bod yn gwarchod i gymryd camau tuag at ddychwelyd i'w bywydau fel yr oeddent cyn y cyfnod gwarchod.
  • O 16 Awst ymlaen, bydd y cyngor i'r rheini sy'n gwarchod yn cael ei rewi. Mae hyn yn golygu y bydd y bobl yn y grŵp sy'n gwarchod yn cael cyngor y gallant ddychwelyd i'r ysgol neu i'r gwaith - pan fo'r gweithle yn ddiogel o ran COVID. Gallant fynd i siopau, cyhyd â'u bod yn cadw pellter corfforol o 2 fetr neu 3 cham.
  • Dylai'r rheini yn y grŵp gwarchod barhau i fod yn hynod o ofalus er mwyn sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosibl gydag eraill y tu allan i'w haelwyd estynedig. Mae hyn yn cynnwys cadw pellter corfforol a hylendid dwylo da. Dyma'r un cyngor â roddir eisoes i grwpiau sydd â risg uwch pe baent yn dal y feirws, megis pobl dros 70 oed.
  • Rydym yn deall y bydd nifer o bobl sy'n gwarchod yn poeni am ddychwelyd at eu bywydau dyddiol, ac am golli'r gefnogaeth sydd wedi bod ar gael iddynt. Mae sawl wythnos eto tan y bydd y cyfnod gwarchod yn dod i ben, sy'n rhoi cyfle i unigolion, a'r rheini sy'n gofalu amdanynt ac yn rhoi cymorth iddynt, gynllunio a pharatoi.
  • Hyd at 14 Gorffennaf, mae dros 152,000 o barseli bwyd wedi cael eu dosbarthu i bobl sy'n gwarchod, a bydd y gwasanaeth hwn yn parhau tan 16 Awst. Mae pobl sy'n gwarchod yn cael blaenoriaeth wrth archebu bwyd ar-lein i gael ei ddosbarthu iddynt, a bydd y drefn hon yn parhau ar ôl 16 Awst.
  • Bydd y gwasanaeth cyflenwi presgripsiynau cenedlaethol yn parhau tan 30 Medi i'r rheini sydd ei angen.
  • Bydd y rhestr o gleifion sy'n gwarchod yn cael ei chadw, a bydd ar gael pe bai angen i ni ofyn i unrhyw un warchod eu hunain eto yn y dyfodol.
  • O 16 Awst ymlaen, bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn parhau i edrych ar y risgiau i gleifion sy'n gwarchod, wrth i'r cyngor ynghylch cadw pellter corfforol gael ei adolygu ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Bydd y grŵp sy'n gwarchod yn dilyn yr un cyngor a roddir i'r rheini sydd â risg uwch pe baent yn dal y feirws.
  • Mae'n bwysig cydnabod bod y newidiadau hyn yn sylweddol iawn i'r rheini sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain. I'r rheini sydd wedi aros gartref drwy gydol y cyfnod, bydd y gwahaniaethau yn y byd tu allan sydd wedi newid yn gyflym dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yn anghyfarwydd iawn.
  • Fel cymuned, rhaid i ni werthfawrogi bod rhai pobl o'n hamgylch ni sy'n camu nôl i'w bywydau am y tro cyntaf ers dechrau gwarchod, a dylem eu cefnogi i wneud hynny.
  • Mae hyn yn golygu gofyn i bawb gadw at y rheolau. Dylech gadw pellter corfforol er mwyn helpu'r rheini o'n hamgylch a allai fod yn dechrau ymgyfarwyddo ’r byd tu allan ar ei newydd wedd.
Darllenwch y ddogfen friffio lawn yma: https://bit.ly/LCStakeholderBrief
![endif]--![endif]--
Archive
Follow us on Instagram.jpg
Join our mailing list
Never miss an update
Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487
bottom of page