Viewing Volunteers Week 2020 - Initial insights and reflections on Volunteers Week 2020 from, Helen,
[Please scroll down for Welsh]
Let’s look back on Volunteers’ Week (and the many weeks prior to this), recognising the incredible contributions volunteers have made to their communities and say the BIGGEST THANK YOU to every single one of you – let’s keep the appreciation flowing.
It’s the 7th day of Volunteers' Week so fittingly on the seventh day, also a Sunday this year, perhaps it is time to rest, and look back reflectively on the week we have had.
This has been a Volunteers' Week like no other due to the #COVID19 pandemic, lockdown and social distancing.
We are really lucky we strengthened our digital prowess in the last year and we continue to test and learn this year. Keep learning with us as we go on this journey together.
This week:
We have come together via Zoom to network, to learn, to share ideas and support each other
We have published 7 blogs on the themes of each day
We have used and been across all our social media channels taking an active part in this nationwide movement for positive change
We have promoted volunteer voices, shared quotes of gratitude and thanks from people who have benefitted from volunteer support
We have promoted our grant opportunities, the learning opportunities available, and provided FREE Easter eggs and a FREE online learning course to our #COVID19 Volunteer Community Responders
We have also thanked and promoted and amplified the great work performed by local groups and organisations, DVSC anchors, and statutory partners such as Denbighshire County Council and Betsi Cadwaladr University Health Board
We have promoted two new volunteer opportunities as part of the #COVID19 Volunteer Community Response we have organised and we look forward to seeing if that promotion has had an impact
We have given #thanks to #DenbighshireVolunteers, and shared thanks from others
We have highlighted the importance of #crisis volunteering, put the spotlight on the #powerofyouth, amplified #volunteervoices, focussed attention on #environmental volunteering and #conservation as part #WorldEnvironmentDay, highlighted the value of skilled volunteers and the benefits of empowering supported volunteering
The young members of #TeamDVSC have had the chance to take over our social media channels giving voice to the #powerofyouth
We started the week with #thanks, and we are ending it with #thanks and we promoted and joined a nationwide #ClapforVolunteers at 8pm on Thursday 4 June, and pushed out content, hosted online events and have hopefully inspired people to action
This week has been about marking the end of a tremendous year for #DenbighshireVolunteers stepping up to do great things. Many people who have volunteered for much of the year have found themselves in the last few months being in receipt of volunteer support. Volunteering is about paying it forward and every voluntary act we take is an investment in ourselves and each other.
Thank you for taking part!
Our #DenbighshireVolunteers Magazine will be published in the coming week - we hope to bring together the impact across the year, and to share stories of the great work being done in the name of #DenbighshireVolunteers and the impact of our digital engagement with you.
Our role is to act as the hub, catalyst, and amplifier of volunteer voices in the County.
All our work is enabled and powered by #DenbighshireVolunteers.
Thank you for stepping up!
Helen Wilkinson, Chief Executive, DVSC
In the meantime check out our little review of the year – through the lens of Volunteers' Week 2019 and Volunteers' Week 2020.
It has been an inspiring and challenging year for DVSC and for #DenbighshireVolunteers.
When we look back and compare this year’s Volunteers' Week activities to last year’s there are marked similarities, and then some really big differences. The landscape of the #COVID19 pandemic being the game change.
Volunteers' Week celebrations in 2019 were super busy and we had lots of activities and lots of positive outcomes, see below. The same has been true for 2020 though the tone - #thanks and #gratitude – has perhaps felt more poignant than ever before.
In 2019, we undertook a variety of events and engaged volunteers at various events across Denbighshire and some of the learning we took from last year has put us in a strong position this year:
All DVSC staff took part in promoting the events for Volunteers' Week on social media, prompting volunteers to share their good new stories on Facebook, Twitter and Instagram
Volunteer involving organisations were offered the opportunity to gain a level 2 qualification through our ‘Supporting Volunteers’ course. This 5 week course run in partnership with Adult Learning Wales had a total of 9 people attending from local organisations including:
Vale of Clwyd mind
Book of You
Denbigh Town Council
NSPCC Childline
Helen, our Chief Executive, Vanessa, our Engagement and Marketing Officer, and our Jobs Growth Wales Business Support Assistant, Maisie took part in the #VolunteersWeek launch party on Twitter. This was a nationwide celebration to raise the profile of #DenbigshireVolunteers
The Naylor Leyland Centre, our community hub in the heart of Ruthin was open and we welcomed perspective volunteers and volunteer involving organisations to come along and ask for advice and support on their volunteering requirements. We also offered help with our digital tools including DenbighshireVolunteers, Infoengine and the Funding Wales portal. Again, this was promoted on the various DVSC platforms
On the 4th June we popped up at the Co Operative supermarket in Bodelwyddan to help promote and raise awareness about Betsi Cadwaladr University Health Board’s ICAN initiative and their volunteering opportunities at Glan Clwyd Hospital based in Bodelwyddan. I CAN Centres provide an alternative to formal hospital-based assessment and care for people experiencing low level social and mental health difficulties outside of usual working hours. Prior to lockdown, I CAN Centres are open every evening between the hours of 7pm-2am with the two flagship ICAN hubs in Rhyl and Prestatyn officially launched literally weeks before lockdown. Our pop up initiative proved to be quite successful; 7 community members enquired about the volunteering roles and were given the relevant information and we signed up one local person to become an I CAN volunteer
We held a Youth Led Grants Celebration on the evening of the 4th June at The Hub in Denbigh to launch the next round of grants. The team provided grant information, application forms, youth panel information and membership/supporter information and a discussion was had about the learning from the first wave of youth led grants with presentations from young people about what they did. A total of 10 outside organisations attended as well as DVSC team members, and young people themselves
On Wednesday 5th June DVSC hosted a Dementia Aware Denbigh Business Breakfast in partnership with the Federation of Small Business and Mingle for Business, to discuss how to become more inclusive. This was a small but perfectly formed group with 8 people coming along including Jayne Goodrick – Dementia Advocate, Dilwyn Jones – Dementia Friendly Denbigh and Councillor Arwel Roberts
DVSC in partnership with Digital Community Wales held an event on the 5th June that showcased their virtual reality headsets used to support people with Dementia. There was also information about digital volunteering, micro volunteering and there was an opportunity to see the tools available on DenbighshireVolunteers.net. The Alzheimer’s Society were also present with advice and support for people living with dementia, their carers’ and family members that they provide including information on becoming Dementia Friendly. There was poor turnout at this event which was a great shame but there was fantastic coverage and promotion on social media
Two DVSC staff set up a pop volunteering hub at the local Co-Operative Supermarket in Ruthin, offering information on volunteering opportunities in the local area. There was also information on how to become a member/supporter of DVSC
‘Open Doors’ Drop In – During Volunteers Week Open Doors was open as usual for people to pop in for a cuppa and a chat. There was the opportunity to find out more about the various volunteering opportunities available locally and to receive support if needed. 7 people attended and 1 gentleman was supported by our Open Doors volunteer Lavinia to find relevant volunteering opportunities in the local area
On Saturday 8th June, DVSC staff took part in
the Rhyl Beach Clean for World Ocean Day in partnership with Community Heart Productions. In spite of high winds and rain 12 people volunteered including 2 children under the age of 16 and the Rhyl Mayor
There was also a Ruthin Community litter pick – DVSC joined Friends of the Earth Ruthin to tidy up the local community together – Families and four legged friends were welcomed. DVSC staff and 6 volunteers took part
In total DVSC engaged with 357 community members throughout Volunteers Week 2019
Through direct mail shots to our stakeholders and engagement through social media we reached many more!
Last year we did some test and learn and tried out some new things.
What worked well?
We experimented and tried out some new ways of engaging (physical pop ups and some new ways of using social media) – some worked, some less so but we learnt so it was a good experience all around – we have continued to take a test and learn approach into this year 2020 Volunteers' Week
The Supported Volunteers accredited course proved to be extremely popular, so much so we are planning another course and will be taking this online in partnership by September 2020
Asking people to book through Eventbrite worked well and allowed us to monitor our numbers – since Volunteers' Week last year, all events except our Open Doors drop in on Friday, have been taken online – the development of our digital prowess in 2019 put us in a strong position when it came to planning for digital delivery of Volunteers' Week in 2020 due to lockdown, social distancing and the #COVID19 pandemic
The Dementia Aware Business Breakfast was well attended – This could have been due to the fact that we had held the Dementia Aware Community Led Programme launch event on the 22nd May which was still very fresh in people’s minds
The Pop Up hub with ICAN was a success, with 7 people engaging and asking for further information – this could be because we used a venue that was in close proximity to the hospital where the volunteers were required
Taking a whole organisation, whole team approach, worked well embedding ownership at all levels, with the whole DVSC team involved in promoting Volunteers' Week and volunteering themselves - #teamwork – we have continued this approach in 2020 and had a youth takeover of our social media channels on Wednesday as part of the #PowerofYouth theme. Watch out for more activities like this in the future – as it allows us to meet, speak and engage diverse audiences and it is good for building skills, confidence and leadership potential amongst our younger team members. Watch this space!
In 2019 we worked in partnership with a number of organisations and projects, some for the first time, such as:
Vale of Clwyd Mind
I CAN
Community Heart Productions
Friends of the Earth
Mingle for Business
Adult Learning Wales
Alzheimer’s Society
Digital Communities Wales
Keep Wales Tidy
In 2020, we have taken our partnership working and collaboration to a whole new level! This is really great news for us and for the communities we are all working to support! #TeamDenbighshire #WorkingTogether
We will be telling you more about the impact of our 2020 Volunteers' Week in our magazine in the coming week.
Watch this space!
If last week's stories have inspired you to volunteer, contact our Community Support Team on 01824 702 441, engagement@dvsc.co.uk or better still register your interest in volunteering directly on #DenbighshireVolunteers.
Sign up for free and become a member of DVSC. Join a movement for positive change in Denbighshire and help conserve planet earth for future generations!
Subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk and follow us and follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube.
Gadewch i ni edrych yn ôl ar Wythnos y Gwirfoddolwyr (a'r wythnosau lawer cyn hyn), gan gydnabod y cyfraniad anhygoel mae gwirfoddolwyr wedi’i wneud yn eu cymunedau a dweud DIOLCH O GALON wrth bob un ohonoch chi – daliwch ati i rannu’ch gwerthfawrogiad.
Dyma seithfed diwrnod Wythnos Gwirfoddolwyr eleni felly mae’n addas, ar y seithfed diwrnod sydd hefyd yn ddydd Sul eleni, cymryd seibiant ac edrych yn ôl ar ein wythnos.
Mae hon wedi bod yn Wythnos Gwirfoddolwyr heb ei thebyg oherwydd y pandemig #COVID19, y cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol.
Rydym ni’n ffodus iawn ein bod ni wedi cryfhau ein gallu digidol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rydym ni’n parhau i ddysgu a phrofi hyn. Daliwch ati i ddysgu gyda ni wrth i ni fynd ar y daith hon gyda’n gilydd.
Yr wythnos hon:
Rydym ni wedi dod at ein gilydd trwy gyfrwng Zoom i rwydweithio, dysgu, rhannu syniadau a chefnogi ein gilydd
Rydym ni wedi cyhoeddi 7 blog, un bob diwrnod ar thema’r diwrnod
Rydym ni wedi defnyddio a chael ein gweld ar draws ein holl sianelau cyfryngau cymdeithasol yn cymryd rhan weithgar yn yr ymgyrch genedlaethol hon er budd newid cadarnhaol
Rydym ni wedi hyrwyddo lleisiau gwirfoddolwyr a rhannu dyfyniadau gwerthfawrogiad a diolch gan bobl sydd wedi elwa o gymorth gwirfoddolwyr
Rydym wedi hyrwyddo ein cyfleoedd grantiau, y cyfleoedd dysgu sydd ar gael, a darparu wyau Pasg AM DDIM a chwrs dysgu ar-lein AM DDIM i’n Gwirfoddolwyr Cymunedol #COVID19
Rydym ni hefyd wedi diolch a hyrwyddo a thynnu sylw at y gwaith rhagorol gan grwpiau a mudiadau lleol, grwpiau angori CGGSDd a phartneriaid statudol fel Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Rydym ni wedi hyrwyddo dau gyfle gwirfoddoli newydd fel rhan o’r Ymateb Gwirfoddol yn y Gymuned i #COVID19 a drefnwyd gennym ni, ac edrychwn ymlaen i weld a fydd hyrwyddo hynny wedi cael effaith
Rydym ni wedi #diolch i #WirfoddolwyrSirDdinbych, a rhannu diolchiadau gan eraill
Rydym ni wedi tynnu sylw at bwysigrwydd #gwirfoddoli mewn argyfwng, pwysleisio #grymieuenctid, chwyddo #lleisiaugwirfoddolwyr, rhoi sylw i #wirfoddoli amgylcheddol a #chadwraeth fel rhan o #Ddiwrnod Rhyngwladol yr Amgylchedd a phwysleisio gwerth gwirfoddolwyr sgiliedig a buddion gwirfoddoli a gefnogir gan gyflogwyr
Mae aelodau ifanc #TîmCGGSDd wedi cael y cyfle i reoli ein sianelau cyfryngau cymdeithasol gan leisio #grymieuenctid
Fe wnaethom ni ddechrau’r wythnos gyda #diolch, ac rydym ni’n ei orffen gyda #diolch. Gwnaethom ni hyrwyddo a chymryd rhan mewn #Clapi’rGwirfoddolwyr nos Iau, 4 Mehefin, am 8pm a rhannu newyddion, cynnal digwyddiadau ar-lein ac ysbrydoli pobl i weithredu, gobeithio
Mae’r wythnos hon wedi bod ynghylch cofnodi diwedd blwyddyn wych i #WirfoddolwyrSirDdinbych yn camu ymlaen i weithredu’n rhagorol. Mae llawer o bobl sydd wedi gwirfoddoli trwy gydol y flwyddyn wedi canfod eu hunain yn derbyn cymorth gwirfoddolwyr yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gwirfoddoli yn ymwneud â rhoi a derbyn, ac mae pob gweithred wirfoddol a dderbyniwyd yn fuddsoddiad ynom ni ein hunain a’n gilydd.
Diolch yn fawr iawn i chi am gymryd rhan!
Bydd ein Cylchgrawn #GwirfoddolwyrSirDdinbych yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf – gobeithiwn gyfleu effaith cyfraniad gwirfoddolwyr trwy gydol y flwyddyn a rhannu straeon am y gwaith gwych a wnaed yn enw #GwirfoddolwyrSirDdinbych ac effaith ein hymgysylltu digidol gyda chi.
Ein rôl ni yw bod yn hwb, catalydd a chwyddwr lleisiau gwirfoddolwyr ledled y sir.
Mae ein holl waith yn cael ei alluogi a’i rymuso gan #WirfoddolwyrSirDdinbych.
Diolch yn fawr iawn i chi am gamu ymlaen!
Helen Wilkinson, Prif Weithredwr, CGGSDd
Yn y cyfamser edrychwch ar ein hadolygiad cryno o’r flwyddyn – trwy gyfrwng Wythnos Gwirfoddolwyr 2019 ac Wythnos Gwirfoddolwyr 2020.
Bu’n flwyddyn llawn ysbrydoliaeth a heriau i CGGSDd a #GwirfoddolwyrSirDdinbych.
Pan rydym ni’n edrych yn ôl ac yn cymharu gweithgareddau Wythnos Gwirfoddolwyr eleni gyda rhai’r llynedd mae yna nifer o bethau’n debyg, ond rhai gwahaniaethau mawr hefyd. Mae pandemig #COVID19 wedi newid pethau’n ddirfawr.
Roedd dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr 2019 yn hynod o brysur ac fe wnaethom ni gynnal llu o weithgareddau a chael llawer o ganlyniadau cadarnhaol. Edrychwch isod. Mae’r un peth wedi bod yn wir ar gyfer 2020 ond mae’r tôn - #diolch a #gwerthfawrogiad – wedi teimlo’n fwy ingol nag erioed o’r blaen.
Gwnaethom drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau yn 2019 ac ymgysylltu gyda gwirfoddolwyr ynddyn nhw ledled Sir Ddinbych ac mae peth o’r dysgu o’r llynedd wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa gref ar gyfer eleni:
Gwnaeth holl staff CGGSDd gymryd rhan yn hyrwyddo digwyddiadau Wythnos Gwirfoddolwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac annog gwirfoddolwyr i rannu eu straeon newyddion da ar Facebook, Trydar ac Instagram
Cynigiwyd cyfle i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ennill cymhwyster Lefel 2 trwy ein cwrs ‘Cefnogi Gwirfoddolwyr’. Gwnaeth 9 o bobl o fudiadau lleol ddilyn y cwrs hwn a gynhaliwyd mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, yn cynnwys:
MIND Dyffryn Clwyd
Book of You
Cyngor Tref Dinbych
NSPCC Childline
Gwnaeth Helen, ein Prif Weithredwr, Vanessa, ein Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu a’n Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes, Maisie, gymryd rhan yn y parti lansio #WythnosGwirfoddolwyr ar Trydar. Roedd hwn yn ddathliad cenedlaethol i gynyddu proffil #GwirfoddolwyrSirDdinbych
Roedd Canolfan Naylor Leyland, ein hwb cymunedol yng nghanol Rhuthun, ar agor a gwnaethom groesawu darpar wirfoddolwyr a mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i ddod draw i ofyn am gyngor a chefnogaeth gyda’u gofynion gwirfoddoli. Gwnaethom gynnig cymorth gyda’n pecynnau digidol hefyd, yn cynnwys GwirfoddolwyrSirDdinbych, Infoengine a phorth Cyllido Cymru. Eto, cafodd hyn ei hyrwyddo ar wahanol blatfformau CGGSDd
Roeddem yn archfarchnad Co-op ym Modelwyddan ar 4 Mehefin i gynorthwyo gyda hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch menter I CAN Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Mae Canolfannau I CAN yn darparu dewis amgen i asesiad ffurfiol a gofal ysbyty i bobl sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl a chymdeithasol y tu allan i oriau gwaith arferol. Cyn y cyfyngiadau symud roedd Canolfannau I CAN yn agored rhwng 7pm-2am gyda’r ddau hwb I CAN yn y Rhyl a Phrestatyn wedi’u lansio’n swyddogol ychydig wythnosau cyn y cyfyngiadau symud. Bu ein digwyddiad ni yn eithaf llwyddiannus; gwnaeth 7 aelod o’r gymuned wneud ymholiadau am y rolau gwirfoddoli a rhoddwyd yr wybodaeth berthnasol iddyn nhw ac fe wnaethom ni gofrestru un unigolyn lleol i fod yn wirfoddolwr I CAN
Fe wnaethom ni gynnal Dathliad Grantiau dan arweiniad Ieuenctid gyda’r nos ar 4 Mehefin yn yr Hwb yn Ninbych i lansio rownd nesaf y grantiau. Gwnaeth y tîm ddarparu gwybodaeth am y grantiau, ffurflenni cais, gwybodaeth am y panel ieuenctid a gwybodaeth aelodaeth/cefnogwyr. Cafwyd trafodaeth am yr hyn a ddysgwyd o rownd gyntaf y grantiau dan arweiniad ieuenctid gyda chyflwyniad gan bobl ifanc am yr hyn roedden nhw wedi’i wneud hefyd. Roedd cyfanswm o 10 mudiad allanol yn bresennol yn ogystal ag aelodau tîm CGGSDd a phobl ifanc eu hunain
Ddydd Mercher, 5 Mehefin, cynhaliodd CGGSDd Frecwast Busnes Dinbych sy’n Deall Dementia, mewn partneriaeth gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Mingle for Business, i drafod sut i fod yn fwy cynhwysol. Roedd hwn yn griw bach ond maint perffaith o wyth o bobl yn cynnwys Jayne Goodrick – Eiriolwr Dementia, Dilwyn Jones – Dinbych sy’n Deall Dementia a’r Cynghorydd Arwel Roberts
Cynhaliodd CGGSDd, mewn partneriaeth gyda Chymunedau Digidol Cymru, ddigwyddiad ar 5 Mehefin a oedd yn dangos eu pensetiau rhith realiti a ddefnyddir i gefnogi pobl gyda demetia. Roedd yno wybodaeth am wirfoddoli digidol, meicro wirfoddoli ac roedd cyfle i weld y pecynnau sydd ar gael ar wefan GwirfoddolwyrSirDdinbych.net hefyd. Roedd Cymdeithas Alzheimer yn bresennol gyda chyngor a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd, yn cynnwys gwybodaeth ar statws Ffrindiau Dementia a Deall Dementia. Roedd y presenoldeb yn y digwyddiad yn wael, a oedd yn biti garw, ond cafodd ei hyrwyddo a derbyn sylw rhagorol ar y cyfryngau cymdeithasol
Gwnaeth dau o staff CGGSDd greu stondin galw heibio yn archfarchnad Co-op yn Rhuthun, yn cynnig gwybodaeth ynghylch cyfleoedd gwirfoddoli yn yr ardal leol. Roedd ganddyn nhw wybodaeth ar sut i fod yn aelod/cefnogwr CGGSDd hefyd
Sesiwn galw heibio ‘Drysau Agored’ – roedd Drysau Agored ar agor fel arfer yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr i bobl alw heibio am baned a sgwrs. Roedd cyfle i ddysgu mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli amrywiol ar gael yn lleol a derbyn cymorth os oedd angen. Daeth 7 unigolyn draw a chafodd un dyn gymorth ein gwirfoddolwr Drysau Agored, Lavinia, i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli addas yn yr ardal leol
Ddydd Sadwrn, 8 Mehefin, gwnaeth staff
CGGSDd gymryd rhan yn yr ymgyrch Glanhau Traeth y Rhyl ar gyfer Diwrnod y Môr y Byd mewn partneriaeth gyda Community Heart Productions. Er gwaethaf y glaw a’r gwyntoedd cryfion gwnaeth 12 o bobl wirfoddoli, yn cynnwys dau blentyn dan 16 oed a Maer y Rhyl
Cafwyd sesiwn casglu sbwriel cymunedol yn Rhuthun hefyd – ymunodd CGGSDd gyda Ffrindiau’r Ddaear Rhuthun i dacluso’r gymuned leol gyda’i gilydd. Croesawyd teuluoedd a ffrindiau pedair coes. Gwnaeth staff CGGSDd a 6 gwirfoddolwr gymryd rhan
Gwnaeth CGGSDd ymgysylltu gyda chyfanswm o 357 o bobl yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2019
Gwnaethom gyrraedd llawer mwy trwy negeseuon uniongyrchol i’n rhanddeiliaid ac ymgysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol!
Gwnaethom arbrofi a dysgu y llynedd a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Beth weithiodd yn dda?
Fe wnaethom ni arbrofi a rhoi cynnig ar rai ffyrdd newydd o ymgysylltu (ffyrdd newydd o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a stondinau dros dro) – gweithiodd rhai’n dda, ac eraill ddim cystal, ond fe wnaethom ni ddysgu felly roedd yn brofiad da i bawb – ac rydym ni wedi parhau gyda’r dull arbrofi a dysgu yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2020
Bu’r cwrs achrededig Cefnogi Gwirfoddolwyr yn boblogaidd iawn, gymaint felly fel ein bod ni’n trefnu cwrs arall a byddwn yn cynnig hwn ar-lein mewn partneriaeth erbyn Medi 2020
Gwnaeth gofyn i bobl bwcio eu lle mewn digwyddiadau trwy Eventbrite weithio’n dda a chaniatáu i ni fonitro ein niferoedd – ers Wythnos Gwirfoddolwyr y llynedd mae’r holl ddigwyddiadau ac eithrio ein sesiynau galw heibio Drysau Agored ar ddydd Gwener wedi mynd ar-lein – sy’n adlewyrchu’r cynnydd yn ein gallu digidol yn 2019 wnaeth ein rhoi ni mewn sefyllfa gref wrth gynllunio ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr digidol yn 2020 oherwydd y cyfyngiadau symud, cadw pellter cymdeithasol a phandemig #COVID19
Roedd presenoldeb da yn y Brecwast Busnes Dementia Ymwybodol – gallai hyn fod wedi bod oherwydd y ffaith ein bod ni wedi cynnal digwyddiad lansio Cymunedau Dementia Ymwybodol ar 22 Mai a oedd yn parhau yn ffres ym meddyliau pobl
Roedd y stondin dros dro I CAN ym Modelwyddan yn llwyddiant gyda saith o bobl yn holi am ragor o wybodaeth – gallai hyn fod oherwydd ein bod ni wedi defnyddio lleoliad a oedd yn agos at yr ysbyty lle’r oedd angen y gwirfoddolwyr
Gwnaeth mabwysiadu dull sefydliad cyfan, tîm cyfan, weithio’n dda wrth wreiddio perchnogaeth ar bob lefel, gyda’r tîm CGGSDd cyfan yn ymwneud â hyrwyddo Wythnos Gwirfoddolwyr a gwirfoddoli eu hunain - #gwaithtîm – rydym ni wedi parhau gyda’r dull hwn yn 2020 a gwnaeth ein staff ifanc gymryd cyfrifoldeb am ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher fel rhan o’r thema #GrymIeuenctid. Byddwch yn barod am ragor o weithgareddau fel hyn yn y dyfodol – gan ei fod yn caniatáu i ni gyfarfod, sgwrsio ac ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd amrywiol ac mae’n dda ar gyfer cynyddu sgiliau, hyder ac arweinyddiaeth ymhlith aelodau ieuengaf ein tîm. Gwyliwch y gofod hwn!
Gwnaethom weithio mewn partneriaeth gyda nifer o fudiadau a phrosiectau yn 2019, rhai am y tro cyntaf, yn cynnwys:
MIND Dyffryn Clwyd
I CAN
Community Heart Productions
Ffrindiau’r Ddaear
Mingle for Business
Addysg Oedolion Cymru
Cymdeithas Alzheimer
Cymunedau Digidol Cymru
Cadwch Gymru’n Daclus
Rydym ni wedi symud gweithio mewn partneriaeth a chydweithredu i lefel gwbl newydd yn 2020! Mae hyn yn newyddion rhagorol i ni ac i’r cymunedau rydym ni oll yn gweithio i’w cefnogi! #TîmSirDdinbych #Gweithiogyda’nGilydd
Byddwn yn dweud rhagor am effaith ein Wythnos Gwirfoddolwyr 2020 wrthych chi yn ein cylchgrawn Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych yn ystod yr wythnos nesaf.
Gwyliwch y gofod hwn!
Os yw straeon yr wythnos diwethaf wedi’ch hysbrydoli chi i wirfoddoli, cysylltwch gyda’n Tîm Cymorth Cymunedol ar 01824 702 441, engagement@dvsc.co.uk neu’n well fyth cofrestrwch eich diddordeb mewn gwirfoddoli yn uniongyrchol ar wefan #GwirfoddolwyrSirDdinbych. .
Cofrestrwch am ddim a dewch yn aelod o CGGSDd. Ymaelodwch gyda mudiad er budd newid cadarnhaol yn Sir Ddinbych a helpu i warchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!
Tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk a dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube.