World Environment Day in a local context – Think Global, Act Local / Diwrnod Amgylchedd y Byd mewn
[Please scroll down for Welsh]
To coincide with World Environment Day, Day 5 of Volunteers Week is all about the environment and conservation. From the smallest to the largest contributions, let’s all say thanks for all the voluntary action that makes the planet a better place. During the day we invite you to share stories with friends, family and co-workers of voluntary action that has supported the environment.
Here @DVSC_Wales we see the big picture and we want to encourage voluntary action and inspire you to think globally, and act locally.
#COVID19 and lockdown has delivered unusual environmental benefits – cleaner air, lower carbon emissions, respite for local wildlife. To many eco activists it has the potential to act as a tipping point.
Greater awareness of the natural world on our doorstep is undoubtedly one of the unexpected gifts of the #COVID19 lockdown as people delight in the simple pleasure of walks in their local area whilst others shielding or self isolating can bring the outside in by paying attention to the wildlife close by.
The Wildlife Trusts’ 30 Days Wild campaign for simple nature activities takes place in June and is already 5 days in. The Wildlife Trust are encouraging people to undertake daily “random acts of wildness” throughout June as part of their campaign to appreciate local nature and benefit from time in green space. Even if that green space during lockdown is your back garden, or a local park.
This year more than half-a-million people nationwide are expected to sign up to the Wildlife Trusts’ 30 Days Wild campaign, which encourages daily activities throughout June to enjoy and appreciate the nature on our doorsteps whilst doing so in a way that complies with social distancing.
The campaign was launched 5 years ago with as many as 1 million people nationwide having voluntarily participated to date. You can download a free digital pack with ideas and wallcharts from the Trust website and seek inspiration on creative ways of engaging with the natural world with lots of community led ideas and initiatives to inspire your voluntary action for the environment on the 30 Days Wild Facebook page.
The benefits of this voluntary participation and immersion in the natural world are well evidenced. A five-year review of 1,000 participants by the University of Derby found people reported positive effects two months after taking part; people’s sense of connectedness with nature rose by 56% with participants rating their health as 30% better. The study also found that those who didn’t feel a connection with nature at the start of the 30 days were the ones who benefitted most from taking part in 30 Days Wild. The research also shows that getting involved in the campaign can have longer lasting consequences encouraging people to get involved.
Closer to home, here in Denbighshire, there is lots of conservation work to get involved in at the local level. There are lots of groups and organisations, local and national, who have volunteering opportunities that might suit. North Wales Wildlife Trust, RSPB and North East Wales Wildlife are three examples. Denbighshire Countryside Service runs a volunteer programme with regular outdoor volunteer activities, from scrub clearance to monitoring sand lizards. Volunteering not only helps our wildlife, but can be a great way of gaining experience to find paid work and to meet like-minded people.
There are plenty of ways you can donate your skills and time to look after wildlife!
If you love your local area and want to get involved in protecting the environment or engage in environmental activity and community gardening then why not contact the local Wildlife trust: www.wildlifetrusts.org/closer-to-nature/volunteer
Opportunities include community gardening, species surveying (such as looking for otters!), caring for nature reserves, plant identification and GPS mapping. You can even run Wildlife Watch groups, which enable young people to discover and explore their local environment. Each Wildlife Trust has a large number of both regular and casual volunteers, amounting to a total of more than 35,000 volunteers across the UK. If you want to get involved why not visit the North Wales Wildlife Trust website to find out the opportunities for volunteering in Denbighshire.
The RSPB also run the Big Garden Birdwatch annual birdwatch. In January, nearly half a million of you counted the birds in your garden. By taking part in the annual Birdwatch you help us find out about how our wonderful garden birds are faring. The results for the last Birdwatch can be found here.
If you want something that is less solitary and more community based then why not visit the Woodland Skills Centre operating in Denbighshire in Bodfari, a social enterprise for over two decades. Outside Lives is another social enterprise start up that has benefitted from DVSC grant funding and support in the last year.
DVSC has recently taken on an allotment in Ruthin to support our Open Doors Club on a Friday afternoon. When lockdown restrictions are eased, we will be promoting Open Doors in the Great Outdoors. So if you are interested in finding out more about this or any other environmental volunteering opportunity let us know and we will try to place you with a volunteer opportunity of your choice.
If you are not based in Ruthin but are interested in becoming a volunteer for the natural world in Denbighshire why not contact a member of our Community Support Service on 01824 702 441, online chat or email gareth@dvsc.co.uk to express your interest and we will see if we can source or place you with a group, organisation or activity close to home in anticipation of further easing of lockdown.
In the meantime on Day 5 of Volunteers' Week give thought to the environment and conserving our beautiful planet.
Let’s give our thanks to all the eco activists and volunteers around the globe and in Denbighshire who through small and large voluntary actions are playing their part in safeguarding our planet for future generations.
Tuesday, the 9 June is World Ocean Day. Why not take a stroll and reflect on what might inspire you to take action for our planet.
Live Local, Act Local, Think Global!
Sign up for free and become a member of DVSC. Join a movement for positive change in Denbighshire and help conserve planet earth for future generations!
Subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk and follow us and follow us on Twitter @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram and like our DVSC Facebook page. You can also find us on YouTube.
I gyd-fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd, rydym ni’n canolbwyntio ar yr holl wirfoddoli amgylcheddol sy’n digwydd bob dydd. Ymunwch â ni i ddiolch am yr holl waith gwirfoddol, bach a mawr, sy’n gwneud y blaned yn lle gwell. Yn ystod y dydd, rhannwch straeon gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr am wirfoddolwyr sydd wedi cefnogi’r amgylchedd.
Yma yn @DVSC_Wales rydym ni’n gweld y darlun mawr ac rydym ni am annog gweithredu gwirfoddol a’ch hysbrydoli chi i feddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol.
Mae #COVID19 a’r cyfyngiadau symud wedi arwain at fuddion amgylcheddol anarferol – aer glanach, llai o allyriadau carbon a seibiant i fywyd gwyllt lleol. Mae llawer o eco weithredwyr yn ystyried hyn fel y pwynt newid potensial.
Yn ddiamheuaeth mae mwy o ymwybyddiaeth ynghylch byd natur ar garreg ein drws yn un o roddion annisgwyl y cyfnod cyfyngiadau symud oherwydd #COVID19 wrth i bobl fwynhau pleser syml mynd am dro yn eu hardal leol tra bo eraill sy’n hunan ynysu neu’n gwarchod eu hunain yn medru dod â’r tu allan i mewn trwy dalu sylw i fywyd gwyllt yn agos atyn nhw.
Mae ymgyrch 30 Diwrnod Gwyllt yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt sy’n annog gweithgareddau natur syml yn cael ei gynnal ym mis Mehefin, ac rydym ar y pumed diwrnod yn awr. Mae’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn annog pobl i gylfawni “gweithredoedd gwyllt ar hap” trwy gydol mis Mehefin fel rhan o’u hymgyrch i werthfawrogi byd natur lleol ac elwa o dreulio amser mewn gwagleoedd gwyrdd. Hyd yn oed os mai eich gardd gefn ydi’r gwagle hwnnw yn ystod y cyfyngiadau symud, neu barc lleol.
Eleni disgwylir i fwy na hanner miliwn o bobl ledled y wlad i gofrestru ar gyfer ymgyrch 30 Diwrnod Gwyllt yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, sy’n annog gweithgareddau dyddiol trwy gydol Mehefin i fwynhau a gwerthfawrogi’r byd natur ar garreg ein drws tra’n gwneud hynny mewn modd sy’n cydymffurfio gyda chadw pellter cymdeithasol.
Lansiwyd yr ymgyrch 5 mlynedd yn ôl ac mae hyd at filiwn o bobl wedi cymryd rhan yn wirfoddol hyd yma. Cewch lawrlwytho pecyn digidol sy’n cynnwys syniadau a siartiau cofnodi i’w rhoi y wal o wefan yr Ymddiriedolaeth a chael ysbrydoliaeth ynghylch ffyrdd creadigol o ymgysylltu â’r byd naturiol gyda llu o syniadau a mentrau dan arweiniad y gymuned i ysbrydoli eich gweithredu gwirfoddol ar ran yr amgylchedd ar y dudalen Facebook 30 Diwrnod Gwyllt.
Mae tystiolaeth gadarn ynghylch buddion cymryd rhan yn wirfoddol ac ymgolli yn y byd naturiol. Gwnaeth adolygiad pum mlynedd gan Brifysgol Derby ymhlith 1,000 o gyfranogwyr blaenorol ganfod fod pobl yn adrodd am effeithiau cadarnhaol ddeufis ar ôl cymryd rhan; cynyddodd ymdeimlad pobl o gysylltiad gyda natur 56% gyda chyfranogwyr yn nodi bod eu hiechyd 30% yn well. Canfu’r astudiaeth hefyd mai’r rhai nad oedden nhw’n teimlo cysylltiad gyda natur ar ddechrau’r 30 diwrnod oedd y rhai wnaeth elwa fwyaf o gymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt. Dengys yr ymchwil hefyd y gall cymryd rhan yn yr ymgyrch gael canlyniadau tymor hirach, yn annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymgyrchoedd eraill.
Yn agosach at adref, yma yn Sir Ddinbych mae llwyth o waith cadwraeth i gymryd rhan ynddo yn lleol. Mae llawer o grwpiau a sefydliadau, lleol a chenedlaethol, sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a allai weddu i chi. Tair enghraifft ydi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, RSPB ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnal rhaglen wirfoddoli gyda gweithgareddau awyr agored rheolaidd hefyd, yn amrywio o glirio prysglwyni i fonitro madfallodd y twyni. Mae gwirfoddoli’n helpu ein bywyd gwyllt ac yn medru bod yn ffordd ragorol o ennill profiad er mwyn cael gwaith cyflogedig a chyfarfod pobl o’r un anian.
Mae digonedd o ffyrdd y medrwch chi gyfrannu eich sgiliau a’ch amser i ofalu am fywyd gwyllt!
Os ydych chi’n caru eich hardal leol ac am gymryd rhan yn gwarchod yr amgylchedd neu weithgaredd amgylcheddol a garddio cymunedol, beth am gysylltu gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt leol: www.wildlifetrusts.org/closer-to-nature/volunteer
Mae’r cyfleoedd yn cynnwys garddio cymunedol, cynnal arolygon rhywogaethau (fel chwilio am ddyfrgwn!), gofalu am warchodfeydd natur, adnabod planhigion a llunio mapiau GPS. Cewch gynnal grwpiau Gwylio Byd Natur hyd yn oed, sy’n galluogi pobl ifanc i ddarganfod a dysgu mwy am eu hamgylchedd leol. Mae gan bob Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt nifer fawr o wirfoddolwyr rheolaidd ac achlysurol, gyda mwy na 35,000 o wirfoddolwyr ar draws y Deyrnas Unedig. Os ydych chi awydd cymryd rhan edrychwch ar wefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i weld y cyfleoedd gwirfoddoli yn Sir Ddinbych.
Mae’r RSPB yn cynnal yr ymgylch gwylio adar ‘Big Garden Birdwatch’ yn flynyddol. Gwnaeth bron i hanner miliwn ohonoch chi gyfri’r adar yn eich gardd ym mis Ionawr. Trwy gymryd rhan yn y cyfnod gwylio adar hwn rydych chi’n ein helpu ni weld beth yw hynt ein hadar gardd gwych. Mae canlyniadau’r cyfnod gwylio adar diwethaf i’w gweld yma.
Os hoffech chi wneud rhywbeth llai unigol a mwy cymunedol, beth am ymweld â’r Ganolfan Sgiliau Coedwig sy’n gweithredu ym Modfari yn Sir Ddinbych fel menter gymdeithasol ers dau ddegawd. Mae ‘Outside Lives’ yn fenter gymdeithasol newydd sydd wedi elwa o gyllid grant a chefnogaeth gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae CGGSDd wedi cymryd cyfrifoldeb am randir yn Rhuthun yn ddiweddar i gefnogi ein Clwb Drysau Agored a gynhelir ar brynhawniau Gwener. Unwaith y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio byddwn yn hyrwyddo Drysau Agored yn yr Awyr Agored. Felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am hyn neu unrhyw gyfle gwirfoddoli amgylcheddol arall, gadewch i ni wybod ac fe wnawn ni geisio eich lleoli gyda chyfle gwirfoddoli o’ch dewis.
Os nad ydych chi’n ardal Rhuthun ond â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr yn y byd naturiol yn Sir Ddinbych, beth am gysylltu gydag aelod o’n Gwasanaeth Cymorth Cymunedol ar 01824 702 441, sgwrsio ar-lein neu anfon neges e-bost i gareth@dvsc.co.uk i fynegi eich diddordeb ac fe wnawn ni geisio eich lleoli chi gyda grŵp, sefydliad neu weithgareddau agos at eich cartref gan obeithio y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio ymhellach yn fuan.
Yn y cyfamser, ar ddiwrnod 5 Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym ni’n meddwl am yr amgylchedd a chadwraeth ein planed hardd.
Gadewch i ni ddiolch i’r holl eco weithredwyr a gwirfoddolwyr ledled y byd ac yn Sir Ddinbych sydd, trwy weithredoedd gwirfoddol bach a mawr, yn chwarae eu rhan yn diogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dydd Mawrth, 9 Mehefin, ydi Diwrnod y Môr y Byd. Beth am fynd am dro ac adlewyrchu ar yr hyn a allai eich hysbrydoli chi i weithredu dros ein planed.
Byw’n lleol, gweithredu’n lleol, meddwl yn fyd-eang!
Cofrestrwch am ddim a dewch yn aelod o CGGSDd. Ymaelodwch gyda mudiad er budd newid cadarnhaol yn Sir Ddinbych a helpu i warchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!
Tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk a dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube.