top of page
Recent Posts
Volunteer Voices – Make Your Voice Heard / Lleisiau Gwirfoddolwyr - Sicrhewch fod eich llais yn cael
[Please scroll down for Welsh]
Today we want to hear directly from Volunteers. Using #IVolunteer #DenbighshireVolunteers - let’s tell the world about all the amazing ways you volunteer. We want to hear what difference you are making and what difference volunteering also makes to you.
During the day we are inviting all #DenbighshireVolunteers to share your stories from your perspective about your volunteering journey. We are also asking everyone in Denbighshire to get involved at 8pm as we #ClapforVolunteers to show gratitude to all the volunteers that have contributed to their communities over the past year and for those who have helped during the coronavirus crisis.
Below we give you a taster of some volunteer voices. We will be sharing these on social media so please join in, share and tell your volunteer story and together we can amplify the voices of #DenbighshireVolunteers.
  • Kelly, #DenbighshireVolunteer: 'I like the sharing aspect of volunteering - we've all got something to give'
  • Danny, volunteer delivering and picking up shopping: 'honouring the duty to my fellow human beings'
  • Jayne, volunteer telephone buddy: 'Nice to know I am a source of support for someone on their own, the lady to who I am a telephone buddy said I had brightened her day by calling her'
  • Nigel, volunteer prescription collection: 'great to give back to the community, relieves stress on the NHS, gets me out and about, promotes DVSC in the community'
  • Lavinia, Open Doors Volunteer: 'Open Doors was a way of helping people, unwinding, forgetting your own problems and listening to people. We made it into a fun, calming place. Everyone enjoyed coming there for two hours to relax and forget about their problems'
  • Sam (age 14), young volunteer with Wicked Cinema & Prestatyn Pop Up Theatre: 'Having a paint bush in my hand, like many other volunteers, for the first time and having the responsibility of developing the theatre, felt like quite a responsibility and when finished quite an achievement. The Theatre is now fresh and will encourage more new people to come'
Interested to know more about volunteering during a crisis? f you need a bit of inspiration why not read Tim’s story.
Tim has been one of DVSC’s #COVID19 Volunteer Community Responders helping to power our emergency community support service which makes a real difference to the quality of people’s lives every day in Denbighshire.
If you are inspired by these stories check out these two volunteer opportunities we are promoting as part of our Volunteers Week campaign, we have joined forces with two North Wales organisations who are looking for volunteers in Denbighshire County, both the Red Cross and Cruse Bereavement are searching for volunteers and their opportunities are registered on #DenbighshireVolunteers, Volunteering Wales – Denbighshire platform, ready for you to apply.
British Red Cross are looking for volunteers for medication delivery, Community reserve Volunteers – (CRV).
Interested? Then please follow the link here to the opportunity on the platform, where you can read more about the role and follow the simple steps to apply.
The process takes no more than 10 minutes once complete you will be contacted by British Red Cross directly.
Cruse Bereavement are looking for volunteers for a number of roles, all of which are registered on the platform where you can apply directly and with ease:
If you are already registered with us, but have not yet been placed why not check out these opportunities? If you are not yet registered with us then sign up and then you can find the volunteer opportunity that inspires you!
If these are not for you but you want to find out more contact a member of our Community Support Service on 01824 702 441, online chat or email engagement@dvsc.co.uk. You can tell us about your interests and we can try to find a volunteer opportunity that suits.
Heddiw rydym ni eisiau clywed gan y Gwirfoddolwyr eu hunain, o lygad y ffynnon. Gan ddefnyddio #DwinGwirfoddoli #GwirfoddolwyrSirDdinbych – dywedwch wrth y byd am y ffyrdd gwych rydych chi’n mynd ati i wirfoddoli. Rydym ni eisiau clywed am y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud a pha wahaniaeth mae gwirfoddoli’n ei wneud i chi.
Yn ystod y dydd, rydym yn gwahodd gwirfoddolwyr i rannu eu straeon gwirfoddoli o’u safbwynt nhw. Rydym hefyd yn gofyn i pawb yn Sir Ddinbych i cymeryd rhan am 8yh wrth i ni gymeradwyo fel rhan a'r ymgyrch #ClapIGwirfoddolwyr er mwyn diolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu at eu cymunedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac i'r rheini sydd wedi helpu yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Isod rydym ni’n rhoi blas i chi ar rai straeon gwirfoddolwyr. Byddwn yn rhannu’r rhain ar y cyfryngau cymdeithasol, felly ymunwch gyda ni os gwelwch yn dda, yn rhannu a dweud eich stori gwirfoddoli eich hun a gyda’n gilydd medrwn uchafu lleisiau #GwirfoddolwyrSirDdinbych.
​​
  • Kelly, #GwirfoddolwrSirDdinbych: ‘Rwy'n hoffi'r agwedd o rannu wrth wirfoddoli - mae gan bob un ohonom rywbeth i'w gynnig’
  • Danny, gwirfoddolwr yn casglu a dosbarthu siopa: Rwy'n anrhydeddu'r ddyletswydd i'm cymdeithas
  • Jayne, cyfaill ffôn gwirfoddol: Braf gwybod fy mod yn cefnogi rhywun sydd yn byw ar ben eu hunain. Dywedoddy ddynes rwyf yn gyfaill ffôn iddi fy mod wedi codi ei chalon wrth ei galw'
  • Nigel, casglwyr presgripsiynau gwirfoddol: Mae’n wych i roi yn ôl i'r gymuned! Mae'n lleddfu straen ar y GIG, yn fy nghael o gwmpas ac yn hyrwyddo CGGSDd yn y gymuned'
  • Lavinia, Gwirfoddolwr Drysau Agored: Roedd Drysau Agored yn ffordd o helpu pobl, dadflino, anghofio'ch problemau eich hun a gwrando ar bobl. Fe wnaethon ni ei wneud mewn lle tawel a hwyliog. Fe wnaeth pawb fwynhau dod yno am ddwy awr i ymlacio'
  • Sam (14), Gwirfoddolwr Ieuentctid gyda Wicked Cinema / Prestatyn Pop Up Theatre: Roedd cael brwsh paent yn fy llaw, fel llawer o wirfoddolwyr eraill, am y tro cyntaf a chael y cyfrifoldeb o ddatblygu’r theatr, yn dipyn o gyfrifoldeb ac ar ôl gorffen yn dipyn o gamp. Mae'r Theatr bellach yn ffres a bydd yn annog mwy o bobl i ddod yno’
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am wirfoddoli yn ystod argyfwng? Os oes arnoch chi angen ychydig o ysbrydoliaeth, darllenwch stori Tim.
Mae Tim wedi bod yn un o Ymatebwyr Gwirfoddol Cymunedol #COVID19 CGGSDd sydd wrth graidd ein gwasanaeth cymorth cymunedol brys sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywydau pobl yn Sir Ddinbych bob dydd
Os ydi’r straeon hyn wedi eich hysbrydoli chi edrychwch ar y ddau gyfle gwirfoddoli rydym ni’n eu hyrwyddo, fel rhan o’n hymgyrch Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym ni’n cydweithio gyda dau fudiad yng ngogledd Cymru sy’n edrych am wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych. Mae’r Groes Goch a Cruse Bereavement yn chwilio am wirfoddolwyr ac mae eu cyfleoedd wedi’u cofrestru ar blatfform #GwirfoddolwyrSirDdinbych, Gwirfoddoli Cymru – Sir Ddinbych, yn barod i chi wneud cais.
​​Mae’r Groes Goch yn chwilio am Wirfoddolwyr Cymunedol Wrth Gefn hefyd i gefnogi gyda danfon meddyginiaethau. Dilynwch y ddolen i’r cyfle hwn yma, lle cewch ddarllen mwy am y rôl a dilyn y camau syml i ymgeisio.
Bydd y broses yn cymryd 10 munud ar y mwyaf, ac unwaith y byddwch wedi’i chwblhau bydd y Groes Goch yn cysylltu gyda chi’n uniongyrchol.
Cruse Bereavement sy’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer nifer o rolau, y cyfan wedi’u ​​cofrestru ar y platfform ac mae’n hawdd i chi wneud cais am y rôl yn uniongyrchol ac yn rhwydd.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda ni, ond heb gael eich gosod eto beth am edrych ar y cyfleoedd hyn? Os nad ydych wedi cofrestru gyda ni eto yna cofrestrwch ac yna gallwch ddod o hyd i'r cyfle i wirfoddoli sy'n eich ysbrydoli!
Os nad ydi’r rhain yn gweddu i chi ond yr hoffech chi ddysgu rhagor mae croeso i chi gysylltu gydag aelod o’n Gwasanaeth Cymorth Cymunedol ar 01824 702 441, sgwrsio ar-lein neu anfon neges e-bost i l engagement@dvsc.co.uk. Cewch ein hysbysu am eich diddordebau chi ac fe wnawn ni geisio dod o hyd i gyfle gwirfoddoli sy’n gweddu i chi.
Archive
Follow us on Instagram.jpg
Join our mailing list
Never miss an update
Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487
bottom of page