top of page
Recent Posts
Power of Youth / Grym Ieuenctid
[Please scroll down for English]
Grym Ieuenctid
Mae Diwrnod 3 Wythnos Gwirfoddolwyr yn canolbwyntio ar bobl ifanc a’u grym
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i bobl ifanc ddatblygu sgiliau, hyder a grym personol o oedran ifanc.
Heddiw rydym ni’n edrych ar weithredu cymdeithasol ieuenctid ac rydym ni’n gwneud hynny trwy adrodd stori’r bobl ifanc sy’n ymwneud â’n grantiau dan arweiniad ieuenctid – y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a’r rhai sy’n ysgogi newid!
Pobl ifanc fydd arweinwyr y dyfodol, ond maen nhw hefyd yn arwain ac yn cael effaith mewn cymunedau ledled y sir heddiw. Dewch i gydnabod #GrymIeuenctid!
Heddiw, mae pobl ifanc sy’n gweithio yn @DVSC_Wales – Rhys, Maisie ac Abi – yn cael y cyfle i fod yn gyfrifol am ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, gan rannu a hyrwyddo cynnwys sy’n ysbrydoli, rhoi egni ac yn eu cymell fel pobl ifanc wrth i ni godi proffil gweithgareddau eraill dan arweiniad ieuenctid yn Sir Ddinbych ac yn dathlu grym ieuenctid yn y sir.
"Os ydych chi’n berson ifanc sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Ddinbych ac wedi gwirfoddoli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ymunwch gyda ni, cymryd perchnogaeth o’ch grym a siapio eich dyfodol."
"Ac os ydych chi’n gwybod am berson ifanc sydd wedi gwneud pethau rhagorol yn eu cymuned yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, beth am rannu eich negeseuon yn diolch i’r bobl ifanc sy’n gweithredu yn eu cymunedau i greu newid cadarnhaol."
Heddiw gadewch i ni ganolbwyntio ar bobl ifanc sy’n camu ymlaen. Fel arweinyddion, dylanwadwyr a’r rhai sy’n ysgogi newid!
Darllenwch am ein grantiau dan arweiniad ieuenctid a’r Panel Ieuenctid fu’n penderfynu pwy oedd yn cael eu cyllido a pham yn ystod y 12 mis diwethaf!
Gwirfoddoli Ieuenctid – buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol, dysgu ar gyfer y dyfodol
Lansiodd CGGSDd ddwy rownd o Grantiau dan arweiniad Ieuenctid yn 2019-20, y cyntaf ym Mehefin 2019 a’r ail yn Rhagfyr 2019.
Mae’r grantiau dan arweiniad ieuenctid hyn yn cael eu galluogi gan Lywodraeth Cymru. CGGSDd sy’n rheoli a dosbarthu’r grantiau yn Sir Ddinbych gyda chymorth Panel Ieuenctid dan arweiniad gwirfoddolwyr.
Mae’r gronfa’n agored i grwpiau gwirfoddol a chymunedol a mudiadau trydydd sector sy’n medru gwneud cais am grant o hyd at £2,500 ar gyfer prosiectau a gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid yn Sir Ddinbych.
Yr ymadrodd allweddol ydi ‘dan arweiniad ieuenctid’!
Mae’n rhaid i bobl ifanc fod yn arwain, yn cynnig y syniadau a’r gweithgareddau a chymryd rhan yn eu cynnal neu’n elwa ohonyn nhw. A nhw sy’n arwain ar wneud penderfyniadau pwy sy’n derbyn y grantiau hefyd.
Rhoir blaenoriaeth i brosiectau sy’n bodloni’r meini prawf isod:
1. Y Blynyddoedd Cynnar
2. Gwell Iechyd Meddwl
3. Tai
4. Sgiliau a chyflogadwyedd
5. Gofal cymdeithasol
6. Dadgarboneiddio
Dyfarnwyd y grantiau cyntaf i Youth Shedz Dinbych ar gyfer dau brosiect. Y cyntaf oedd paratoi a rhannu pecynnau gofal ar gyfer pobl ifanc ddigartref gan wirfoddolwyr ifanc unwaith y mis.
Roedd yr ail grant ar gyfer prynu offer gwneud ffilmiau i alluogi’r Youth Shedz greu eu fideos eu hunain yn hyrwyddo eu gwaith, prosiectau a gweithgareddu a rheoli eu platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Dyfarnwyd y trydydd grant i brosiect pontio’r cenedlaethau gan Outside Lives, yn gweithio gyda phobl ifanc yn creu blychau diddordeb natur a’u defnyddio mewn sgyrsiau gyda thrigolion cartrefi nyrsio sy’nbyw gyda dementia yn y gobaith o ysgogi atogofion melys a chreu sgwrs. Y bwriad oedd ffilmio’r broses gyfan a chreu profiadau rhith realiti. Yn anffodus fel roedd y prosiect ar fin gweithredu daeth y cyfyngiadau symud oherwydd #COVID19. Ar adeg ysgrifennu hyn roedd Outside Lives yn ystyried ffyrdd o ddarparu’r prosiect ar-lein.
Dyfarnwyd ail rownd y grantiau ym mis Rhagfyr 2019, gyda’r Flying High Trampolining Club yn Ninbych wedi cael cyllid i hyfforddi dau hyfforddwr Iau yng ngham cyntaf cwrs therapi adlamu a defnyddio cyllid i anfon hyfforddwr iau ar gwrs trampolinio lefel 3 a thri hyfforddwr iau arall ar y cwrs lefel 4.
Prosiect arall a dderbyniodd grant dan arweiniad ieuenctid oedd Canolfan Galw Heibio Prestatyn er mwyn creu gardd heddychlon. Cafodd y Theatr Fach gyllid hefyd a gweithio gyda 16 o wirfoddolwyr ifanc am benwythnos cyfan, gan baentio’r cyntedd, glanhau’r toiledau a gosod byrddau a chadeiriau newydd. Gwnaeth hyn wneud y theatr yn fwy deniadol a dysgu sgiliau fel addurno a gweithio mewn tîm i’r gwirfoddolwyr ifanc.
Roedd gweithio fel rhan o dîm yn dda ar gyfer sgiliau cymdeithasol y bobl ifnac a gwnaeth gynyddu eu hyder. Dywedodd Rhian Evans, cydlynydd y Ganolfan Galw Heibio / Wicked Cinema fod y grant dan arweiniad ieuenctid “wedi bod yn wych a’i effaith yn enfawr.”
Felly yn 2019-2020 cyfrannodd y Grantiau Ieuenctid at bump prosiect rhagorol y mae pobl ifanc wedi elwa ohonyn nhw, yn aml rhai o’r bobl ifanc mwyaf difreintiedig.
Ysbrydolwyd y grantiau hyn gan bobl ifanc, penderfynwyd arnyn nhw gan bobl ifanc ac fe wnaethon nhw gynorthwyo i weddnewid bywydau pobl ifanc yn y sir.
Bydd CGGSDd yn lansio ei Grantiau dan arweiniad Ieunctid 2020-2021 yn y misoedd nesaf. Yn y cyfamser rydym ni’n chwilio am fwy o bobl ifanc i ymuno gyda’n Panel Gwirfoddolwyr Ifanc. Ydi hyn yn apelio atoch chi?
RYDYM YN CHWYLIO AM: AELODAU PANEL IEUENCTID
Bu aelodau’r Panel Ieuenctid yn rhan o’r panel gwneud penderfyniadau ar gyfer rownd ddiwethaf y Grantiau dan arweiniad Ieuenctid.
Mae’n bwysig iawn i ni bod pobl ifanc yn medru rhannu eu barn am faterion megis dosbarthu grantiau, rhannu yn y broses o lywio cyfeiriad CGGSDd yn y dyfodol a’r dylanwadu i sicrhau newidiadau maen nhw am eu gweld yn Sir Ddinbych.
Mae manteision cymryd rhan yn cynnwys:
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Profiad o weithio fel tîm
  • Gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc
  • Gwella eich CV
Oes gennych chi ddiddordeb? Cysylltwch â ni trwy e-bostio: sectorsupport@dvsc.co.uk
Power of Youth
Day 3 of Volunteers Week is about young people and their power
For young people volunteering is a great way of developing skills, confidence and personal power from an early age
Today we are placing the spotlight on youth social action and we are doing this by telling you the story of the young people involved in our youth led grants – as decision makers, and change makers!
Young people aren't just the leaders of the future, they are leading and making an impact in communities all over the county, today. Let's recognise the #PowerOfYouth!
Today, young people working @DVSC_Wales – Rhys, Maisie and Abi - are being given the chance to take over our social media channels, sharing and promoting content that energises, inspires and motivates them as young people as we raise the profile of other youth led activities in Denbighshire and amplify youth power in the County.
"If you are a young person living and working in Denbighshire and you have volunteered in the last year please lean in, own your power and shape your future”
"And if you know a young person who has done great things in their community in the last year, why not share your messages of thanks for the young people taking a stand in their communities to create positive change."
Today let’s shine a light on young people stepping up. As leaders, influencers and change makers!
Read the story of our youth led grants and the Youth Panel that took decisions about who got funded and why over the last 12 months!
Youth Volunteering – investing in future generations, learning for the future
In 2019-20 DVSC launched two rounds of Youth Led Grants; the first in June 2019 and the second in December 2019.
These youth led grants are enabled by Welsh Government funding. DVSC manages and distributes the grants in Denbighshire with the support of a volunteer led Youth Panel.
The fund is open to voluntary and community groups and third sector organisations, who can apply for grants of up to £2500 for youth led volunteering projects and activities in Denbighshire.
The key is in the phrase – youth led!
Young people have to be in the lead, proposing the ideas, and activities and to be involved in doing them or benefitting from them. And they are also put in the lead as decision makers.
Priority is given to projects meeting the following criteria:
1.Early Years
2.Better Mental Health
3.Housing
4.Skills and Employability
5.Social Care
6.Decarbonisation
The first grant funds were awarded to Denbigh Youth Shedz for two projects. The first project was preparing and distributing care packages for young homeless people by young volunteers once a month.
The second grant was used for purchasing film making equipment to enable Youth Shedz to create their own videos promoting their work, projects activities and management of social media.
The third grant was awarded to an intergenerational project from Outside Lives, working with young people creating boxes of interest from nature and using them in conversations, with nursing home residents that live with dementia in the hope of evoking happy memories and conversation. The whole process was to be filmed and virtual reality experiences created. Unfortunately just as the project was about to be delivered, lockdown happened due to #COVID19. At the time of writing Outside Lives were looking at ways they could deliver the project virtually.
The second round of grants, was awarded in December 2019, with the Flying High Trampolining Club in Denbigh awarded funding to train two Junior coaches in the first stage of a rebound therapy course and funding used to send a Junior coach on the level 3 trampolining course and a further three junior coaches on the level 4 course.
Another project to receive Youth Led Grants was the Prestatyn Pop in Centre for the creation of a quiet garden. The Little Theatre, obtained funding and worked with 16 young volunteers over a weekend who painted the foyer area ,cleaned the toilets and installed new tables and chairs. This made the theatre more appealing and taught the volunteers skills such as teamwork and decorating.
For the young people, working as part of a team this was good for their social skills and built their confidence. Rhian Evans, co-ordinator of the Pop-in-Centre / Wicked Cinema said the youth grant “had been wonderful and its impact enormous”.
In 2019-2020 Youth Grants contributed to five wonderful projects that have benefited young people, often some of the most disadvantaged.
These grants were inspired by young people, decided upon by young people and helped transform the lives of young people in the County.
DVSC will be launching its 2020-2021 Youth Led Grants in the next few months. In the meantime we are on the look out for more young people to join our Volunteer Youth Panel. Could this be you?
WANTED: YOUTH PANEL MEMBERS
Our Youth Panel members are involved in the decision-making panel for the Youth Led Grants.
We find it of great importance that young people can share their views on issues such as grant distribution, helping to share DVSC’s future direction and the changes they want to see in Denbighshire.
Benefits of getting involved include:
  • Learn new skills
  • Experience working as a team
  • Making a difference to young people
  • Enhance your CV
Are you interested? Contact us by emailing: sectorsupport@dvsc.co.uk
Archive
Follow us on Instagram.jpg
Join our mailing list
Never miss an update
Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487
bottom of page