Wellbeing edition of DVSC’s Newsflash to mark the transition from ‘Wellbeing Week’ to ‘Love Your Lo
Please scroll down for Welsh
Denbighshire County Council and DVSC are collaborating with a social media campaign urging residents to ‘Be Mindful in May’. The campaign is encouraging everyone, particularly the over 70s and those with underlying health conditions, to look after their physical and mental health and wellbeing during these times of uncertainty.
Be Mindful in May
The first week, from May 3rd until 9, was all about Wellbeing and was the inspiration behind this week's Newsflash edition focusing on physical and mental health tips.
Staying at home and reducing contact with others can be difficult and we need to get used to doing things differently which is why the campaign focuses on staying positive, helping to take care of yourself and of course those you care for. The weeks of May are being themed with a host of ideas, and suggestions for home based activities.
10-16 May - ‘Love Your Local Area Week’ aims to highlight the local area and appreciate what’s on your doorstep
17-23 May – ‘Love Reading Week’ starts with lots of inspiration and ideas for reading at home
24-31 May - ‘Your Community Week’ will be celebrating the people and activities in your community during the last week of May.
Practise the Five Ways to Wellbeing every day In last week’s NewsFlash we encouraged everyone to practice the Five Ways to Wellbeing every day! So take receipt of this NewsFlash as time for your weekly check in from #TeamDVSC! Help yourself by helping others
We continue to share daily tips and advice following the launch of Public Health Wales wellbeing campaign across our social media platforms. A new page on their website is jam packed with lots of useful advice for looking after yourself and your family: phw.nhs.wales/howareyoudoing
DVSC will be meeting with Public Health Wales on how we can work more closely together to keep the focus on people’s mental and physical wellbeing over the weeks and months ahead. This meeting is to discuss the development of Public Health Wales’ How are You Doing? campaign and to see how they can work with DVSC and grassroots groups and organisations in the County to get the messages out at the local level. We will update you soon! We will also be zooming in on the impact of #COVID19 on individual and community wellbeing and start to unpack the route to recovery in our Wellbeing Network meeting on Thursday May 28 from 10am until 12pm which we are hosting via Zoom. Register your interest for the Wellbeing Network meeting here. Huw Cook from Public Health Wales will be sharing information about their campaign and looking for feedback. Huw has previously worked in the sector and is now a member of the Public Health Wales Communications team.
Inspiring Volunteer Stories
Pearls of wisdom on the gift of volunteering from our #COVID19 Volunteer Community Responders. We hope their words inspire you and many others throughout the County to register as #DenbighshireVolunteers.
Tim (shopping and prescription collection): “To have been given the opportunity to help other people in this time is a privilege. I am currently on furlough leave from my job and home schooling my amazing children. Volunteering with DVSC has given me a chance to give something of my time to some very special people who need help in our communities. I am so grateful to DVSC and Gareth, their #DenbighshireVolunteers Support Officer, for giving me this opportunity and have been really impressed with their professionalism, speed and care".
Please do have a think about volunteering yourself and playing a part in bringing about a little bit of hope and love to those that really need it – you won’t regret it!
Read his whole story, the inspiring words of other #COVID19 Volunteer Community Responders and much more in our latest Newsflash
If you need support or have questions, do not hesitate to contact #TeamDVSC. You can email us: covid19@dvsc.co.uk, give us a call on 01824 702 441 or chat with us from Monday to Friday 9am-4pm on www.dvsc.co.uk/home
Subscribe for our news updates: www.dvsc.co.uk and follow us on Twitter, Facebook and LinkedIn for updates. If you have news to share let us know: engagement@dvsc.co.uk and we will share the information via social media and through our weekly NewsFlash.
Rhifyn lles o Fflach Newyddion CGGSDd i nodi’r trawsnewidiad o ‘Wythnos Lles’ i ‘Caru Wythnos Eich Ardal Leol’ o Ystyriol ym mis Mai
Mae Cyngor Sir Dinbych a CGGSDd yn cydweithredu i gynnal ymgyrch sy’n annog preswylwyr i fod yn ystyriol ym mis Mai. Mae'r ymgyrch yn annog pawb, yn enwedig pobl dros 70 oed a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol, i edrych ar ôl eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.
Byddwch yn ystyriol ym mis Mai
Roedd yr wythnos gyntaf, rhwng Mai 3ydd a 9, yn ymwneud â Llesiant a dyna oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl rhifyn Fflach Newyddion yr wythnos hon yn canolbwyntio ar awgrymiadau iechyd corfforol a meddyliol. Gall aros gartref a lleihau cysylltiad ag eraill fod yn anodd ac mae angen i ni ddod i arfer â gwneud pethau'n wahanol, a dyna pam mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar aros yn bositif, gan helpu i ofalu amdanoch chi eich hun ac wrth gwrs y rhai rydych chi'n gofalu amdanyn nhw. Bydd themâu ar gyfer pob wythnos ym mis Mai, gyda llu o syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau yn y cartref.
10-16 Mai - ‘Wythnos Caru eich Ardal Leol’ y nod ydi tynnu sylw at eich ardal leol a gwerthfawrogi’r hyn sydd ar garreg eich drws
17-23 Mai - ‘Wythnos Caru Darllen’ sy’n dechrau gyda llu o ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer darllen adref
24-31 Mai - ‘Wythnos Cymunedol’ a fydd yn dathlur bobl a’r gweithgareddau yn eich cymuned chi yn ystod wythnos olaf Mai
Defnyddio’r Pum Ffordd at Lesiant bob dydd
Yn Fflach Newyddion yr wythnos diwethaf roeddem ni’n annog pawb i ddefnyddio’r Pum Ffordd at Lesiant bob dydd! Felly gofynnwn i chi ystyried derbyn y Fflach Newyddion hwn fel #TîmCGGSDd yn gwirio eich llesiant yn wythnosol! Helpwch eich hun trwy helpu eraill.
Rydym ni’n parhau i rannu cynghorion dyddiol yn dilyn lansio ymgrych llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws ein platfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae tudalen newydd ar eu gwefan yn llawn o gyngor defnyddiol ynghylch gofalu amdanoch chi eich hun a’ch teulu: icc.gig.cymru/sutwytti
Bydd CGGSDd yn cyfarfod gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch sut y medrwn ni weithio’n agosach i barhau i ganolbwyntio ar lesiant corfforol a meddyliol pobl dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Bydd y cyfarfod hwn yn trafod datblygiad ymgyrch Sut wyt ti? Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweld sut y medrwch chi weithio gyda CGGSDd a grwpiau a mudiadau llawr gwlad yn y sir i ledaenu’r neges ar y lefel leol. Byddwn yn rhoi diweddariad i chi’n fuan! Byddwn yn rhoi’n sylw ar effaith #COVID19 ar lesiant unigol a chymunedau hefyd, ac yn dechrau ystyried y llwybr i adferiad yn ein cyfarfod Rhwydwaith Llesiant ddydd Iau, 28 Mai, rhwng 10am a 12pm, y byddwn yn ei gynnal trwy gyfrwng Zoom. Cofrestrwch eich diddordeb yn y Rhwydwaith Llesiant yma. Bydd Huw Cook o Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rhannu gwybodaeth am eu hymgyrch ac gofyn am adborth. Mae Huw wedi gweithio’n y sector yn flaenorol a bellach mae’n aelod o dîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ysbrydoliaeth o straeon gwirfoddolwyr
Rhannu doethineb rhoi trwy wirfoddoli gan ein Ymatebwyr Gwirfoddol yn y Gymuned i #COVID19. Gobeithiwn y gwnaiff eu geiriau nhw eich hysbrydoli chi a llawer o rai eraill ledled y sir i gofrestru fel #GwirfoddolwyrSirDdinbych. Tim (siopa a chasglu presgripsiynau): “Mae cael y cyfle i helpu pobl eraill yn ystod y cyfnod hwn yn fraint. Rydw i ar gyfnod ffyrlo o’m swydd ac yn addysgu fy mhlant anhygoel gartref. Mae gwirfoddoli gyda CGGSDd wedi rhoi cyfle i mi roi o’m hamser i rai pobl arbennig iawn sydd angen help yn ein cymunedau. Rydw i mor ddiolchgar i CGGSDd a Gareth, eu Swyddog Cymorth #Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych, am roi’r cyfle hwn i mi ac mae eu proffesiynoldeb, gweithredu cyflym a’u gofal wedi gwneud argraff fawr arna’ i".
Meddyliwch am wirfoddoli eich hun a chwarae rhan yn dod ag ychydig o obaith a chariad i’r rhai sydd ei wir angen – wnewch chi ddim difaru!
Darllenwch ei stori gyfan, geiriau ysbrydoledig Ymatebwyr Gwirfoddol yn y Gymuned eraill #COVID19 a llawer mwy yn ein Fflach Newyddion diweddaraf.
Os oes angen cefnogaeth arnoch neu os oes gennych gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â #TeamDVSC. Gallwch anfon e-bost atom: covid19@dvsc.co.uk, rhoi galwad i ni ar 01824 702 441 neu sgwrsio â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener 9 am-4pm ar www.dvsc.co.uk/home
Tanysgrifiwch am ein diweddariadau newyddion: www.dvsc.co.uk a dilynwch ni ar Trydar, Facebook a LinkedIn i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os oes gennych chi unrhyw newyddion i’w rannu, gadewch i ni wybod ac fe wnawn ni rannu’r wybodaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein Fflach Newyddion wythnosol.