News Announcement: COVID-19 Volunteer Community Response
Scroll down for Welsh
Update about our emerging plans in view of the rapid escalation of events linked to COVID-19. DVSC will continue to provide support at this important time in line with our mission and core purpose. In a climate where fear is spreading fast, we want to spread a message of kindness, hope and community spirit. We are heartened by the voluntary action and community spirit through Denbighshire and elsewhere that we are already seeing with online groups forming on Facebook in addition to existing local volunteer groups and third sector organisations. This voluntary action and community spirit is going to be critical in the days, weeks and months that lie ahead. Thank you for stepping up as #DenbighshireVolunteers. We are currently putting in place plans for a COVID-19 Community Volunteers Response working with our local statutory partners, Third Sector Support Wales partners, Welsh Government and the voluntary and community sector in Denbighshire. We will provide an update on our plans later in the week. We are also mobilising to see what funds we can muster to enable volunteer expenses to be paid at this challenging time. Our community grants round will open imminently to support voluntary action. We would be grateful if you share the plans or information that you are aware of with us so we can act as the coordinating hub and guide people to resources and networks close to them. To ensure we collate all necessary information, can you please fill out the form on our website. Alternatively you can email us covid19@dvsc.co.uk or give us a call on 01824 702 441. Following the statement made by the government on Monday, all DVSC events will be cancelled with immediate effect and for the foreseeable future. This includes our Spring Funding Fair scheduled for March 25 and the #DenbighshireVolunteers Third Sector Network meeting planned for April 1st. This will allow us time to focus all our resource on preparing for the COVID-19 Volunteer Community Response. We believe it is important to give people the possibility to share concerns. Therefore our community hub in the heart of Ruthin remains open Monday to Friday 9am to 4pm and we are available to provide support and advice as usual over the phone 01824 702 441 or via email covid19@dvsc.co.uk. We also want to ensure people are enabled to make informed choices so we will be sharing important announcements from Public Health Wales and Betsi Cadwaladr University Health Board through social media - Twitter, Facebook, LinkedIn - and our weekly NewsFlash as appropriate. We advise you to follow Public Health Wales guidance on how to play your role in delaying the spread of the virus and encourage everyone to follow Betsi Cadwaladr University Health Board guidance on what to do if you are presenting symptoms. If in doubt self-isolate. In line with Public Health Wales guidance we advise the elderly and vulnerable and their carers to take all necessary steps to protect themselves and in turn we ask everyone to think how you can best protect the elderly and the vulnerable. DVSC as a charity has been in existence for over twenty years, supporting voluntary action in the communities of Denbighshire. Our small team is committed to working in partnership with all stakeholders to ensure working together we develop a COVID-19 Volunteer Community response that is safe, effective and bolsters community spirit. Let's work together to meet the COVID-19 challenge. If you are young, healthy and fit to volunteer please contact us: covid19@dvsc.co.uk or call 01824 702 441. If you are already organising something or have plans in development (small or large) please contact us. To ensure we collate all necessary information, can you please fill out the spreadsheet. You can then send us the list and information via email covid19@dvsc.co.uk If you have news to share let us know and we will share the information via social media and through our weekly NewsFlash.
Cyhoeddiad Newyddion: Ymateb Cymunedol Gwirfoddol COVID-19
Diweddariad am ein cynlluniau wrth i’r sefyllfa’n gysylltiedig gyda COVID-19 newid yn gyflym. Bydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth yn ystod y cyfnod pwysig hwn, yn unol â’n cenhadaeth a’n diben craidd. Mewn hinsawdd lle mae ofn yn lledaenu’n gyflym, rydym ni am gyfleu neges o garedigrwydd, gobaith ac ysbryd cymunedol. Rydym ni wedi’n calonogi gan y gweithredu gwirfoddol a’r ysbryd cymunedol ledled Sir Ddinbych a mannau eraill rydym ni’n ei weld eisoes gyda grwpiau ar-lein yn ffurfio ar Facebook yn ychwanegol at grwpiau gwirfoddol lleol a mudiadau trydydd sector sy’n bodoli eisoes. Mae’r gweithredu gwirfoddol ac ysbryd cymunedol hwn yn mynd i fod yn hanfodol bwysig yn y dyddiau, wythnosau a’r misoedd o’n blaenau. Diolch yn fawr iawn i chi am gynyddu eich ymdrechion fel #GwirfoddolwyrSirDdinbych. Rydym ni wrthi’n gwneud trefniadau ar gyfer Ymateb Gwirfoddolwyr yn y Gymuned i COVID-19 gan weithio gyda’n partneriaid statudol lleol, partneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru, Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol a chymunedol yn Sir Ddinbych. Byddwn yn darparu diweddariad ynghylch ein cynlluniau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym ni hefyd yn edrych i weld pa gyllid y medrwn ei ddefnyddio i alluogi talu treuliau gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn. Bydd ein rownd grantiau cymunedol yn agor yn fuan i gefnogi gweithredu gwirfoddol. Byddem yn gwerthfawrogi petaech chi’n rhannu’r cynlluniau neu’r wybodaeth rydych chi’n ymwybodol ohonynt gyda ni, fel y medrwn ni weithredu fel y canolbwynt cydlynu a chyfeirio pobl at adnoddau a rhwydweithiau’n agos atyn nhw. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n casglu’r holl wybodaeth sy’n angenrheidiol, llenwch y ffurflen ar ein gwefan. Fel arall gallwch anfon e-bost atom covid19@dvsc.co.uk neu roi galwad i ni ar 01824 702 441. Yn dilyn y datganiad gan y Llywodraeth ddydd Llun, bydd holl ddigwyddiadau CGGSDd yn cael eu canslo ar unwaith am y dyfodol rhagweladwy. Mae hyn yn cynnwys ein Ffair Gyllido Gwanwyn a oedd i’w chynnal ar 25 Mawrth a chyfarfod Rhwydwaith Trydydd Sector #GwirfoddolwyrSirDdinbych a oedd i’w gynnal ar 1 Ebrill. Bydd hyn yn caniatáu amser i ni ganolbwyntio ein holl adnoddau ar baratoi ein Hymateb Gwirfoddol yn y Gymuned i COVID-19. Credwn ei bod yn bwysig rhoi’r cyfle i bobl rannu eu pryderon. Felly bydd ein hwb cymunedol yng nghanol Rhuthun yn parhau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm, ac rydym ni ar gael i ddarparu cymorth a chyngor fel arfer dros y ffôn ar 01824 702 441 neu trwy e-bost, covid19@dvsc.co.uk. Hefyd rydym ni am sicrhau bod pobl yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus, felly byddwn yn rhannu cyhoeddiadau pwysig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr trwy’r cyfryngau cymdeithasol - Trydar, Facebook, LinkedIn – a’n Fflach Newyddion wythnosol, fel bo’n briodol. Rydym ni’n eich cynghori chi i ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch sut i gyflawni eich rôl chi’n oedi lledaeniad y feirws ac yn annog pawb i ddilyn arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch beth i’w wneud os oes gennych chi symptomau. Os ydych chi mewn unrhyw amheuaeth dylech hunan ynysu. Yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym ni’n cynghori pobl hŷn, pobl fregus a’u gofalwyr i ddilyn yr holl gamau angenrheidiol i amddiffyn eu hunain ac ar yr un pryd yn gofyn i bawb ystyried y ffordd orau o ddiogelu’r henoed a’r bregus. Mae CGGSDd wedi bodoli fel elusen sy’n cefnogi gweithredu gwirfoddol yng nghymuned Sir Ddinbych am dros ugain mlynedd. Mae ein tîm bach ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda’r holl randdeiliaid i sicrhau, gyda’n gilydd, ein bod ni’n datblygu Ymateb Gwirfoddol yn y Gymuned i COVID-19 sy’n ddiogel, effeithiol ac sy’n cryfhau’r ysbryd cymunedol. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wynebu her COVID-19. Os ydych chi’n ifanc, yn iach ac yn barod i wirfoddoli, cysylltwch gyda ni ar covid19@dvsc.co.uk neu ein ffonio ni ar 01824 702 441, os gwelwch yn dda. Os ydych chi eisoes yn trefnu rhywbeth neu os oes gennych chi gynlluniau’n cael eu datblygu (mawr neu fach), cysylltwch gyda ni, os gwelwch yn dda. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol, a fyddech chi gystal â llenwi’r daenlen, os gwelwch yn dda. Yna cewch anfon y rhestr a’r wybodaeth atom ni trwy e-bost i covid19@dvsc.co.uk. Os oes gennych chi unrhyw newyddion i’w rannu, gadewch i ni wybod ac fe wnawn ni rannu’r wybodaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein Fflach Newyddion wythnosol.