top of page
Recent Posts

Press Release (24) - Dementia Aware group working towards an inclusive Ruthin thanks to support from

Scroll down for Welsh

Small changes can make a big difference! A combination of community grants, a film screening, open meetings hosted by DVSC at the Naylor Leyland Centre and the passion, goodwill and persistence of Ruthin changemakers is finally paying off.

After a number of meetings, a group of enthusiastic volunteers have taken on the challenge to make Ruthin an inclusive and dementia aware place to live and work. These passionate individuals and change makers will be presenting their ideas at the Ruthin Future Coffee Morning and Afternoon Tea next Saturday 29th February from 10.00am till 4.00pm at the Old Courthouse, Ruthin.

“We initiated local action here in Ruthin with a Business Breakfast last summer”, Helen Wilkinson, Chief Executive of DVSC explains. “Following this we hosted the premiere of the film “Look at Me”. The short documentary made by Book of You, a Ruthin based social enterprise using reminiscence therapy, digital tools and volunteers to empower people living with dementia and their carers, was enabled by our community grants. Their film gave a platform to shopkeepers and small business owners from Ruthin to explain how they strive to be inclusive and shows how their efforts already make a big difference to people living with dementia and the families they are a part of.” You can still watch the film on DVSC’s You Tube channel here.

Dementia Aware Ruthin

Supported by #TeamDVSC and working with the Alzheimer’s Society the Dementia Aware Action Group in Ruthin are looking at ways to raise awareness in the town. You can become a member of the Dementia Friendly Ruthin Facebook group to stay up to date on progress and events.

Helen Wilkinson continues: “Our Dementia Aware Denbighshire Community Led Programme aims to help businesses, organisations, individuals, towns and communities on their journey to become more dementia aware. At our events we invite local change makers but also people with lived dementia experience to come together, raise awareness and take action together. Talking about small changes that make a big difference to those living with dementia can be a real eyeopener, amplified by real life experiences of people diagnosed with dementia and their carers. The key remains to make as many people as we can aware of what they can do. Because every journey starts with a first step. We are really thrilled to be part of enabling change and being part of a movement for community led change here in Ruthin where we are based”.

Ruthin Future

If you want to find out more about Dementia Aware Ruthin’s plans and meet the team of volunteers, why not pop in during the coffee morning / afternoon tea at the Old Courthouse on Saturday 29th February from 10.00am till 4.00pm. Find out how you can book a Dementia Friends Session, how DVSC’s Dementia Aware Denbighshire Community Led Programme can help you and how you can join in, help out or become part of the Dementia Aware Ruthin Action Group. At the event you will also be able to find out about various other active community organisations that help the town tick.

Denbighshire Voluntary Services Council (DVSC) is facilitating Dementia Aware Action Groups across the county as part of DVSC’s Dementia Aware Denbighshire Community Led Programme, enabled by Welsh Government funding.

If you want to be kept informed follow @DVSC_Wales on Twitter or like our Facebook page.


![endif]--

 

Datganiad i’r Wasg (24) - Grŵp Dementia Ymwybodol yn gweithio tuag at Rhuthun gynhwysol diolch i gefnogaeth gan Raglen Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr! Mae cyfuniad o grantiau cymunedol, dangosiad ffilm, cyfarfodydd agored a drefnwyd gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) yng Nghanolfan Naylor Leyland ac angerdd, ewyllys da a dyfalbarhad pobl sydd am sicrhau newid yn Rhuthun yn dwyn ffrwyth yn awr.

Yn dilyn nifer o gyfarfodydd mae criw o wirfoddolwyr brwdfrydig wedi ymgymryd â’r her o wneud Rhuthun yn dref gynhwysol, sy’n ymwybodol o ddementia, i bawb sy’n byw a gweithio ynddi. Bydd yr unigolion brwdfrydig hyn yn cyflwyno eu syniadau ym More Coffi a The Prynhawn Dyfodol Rhuthun ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, rhwng 10.00yb a 4.00yp yn yr Hen Lys, Rhuthun.

“Fe wnaethom ni ysgogi gweithredu lleol yma yn Rhuthun gyda Brecwast Busnes yr haf diwethaf,” esboniodd Helen Wilkinson, Prif Weithredwr CGGSDd. “Yn dilyn hynny cynhaliwyd dangosiad cyntaf y ffilm “Look at Me”. Cafodd y ffilm ddogfen fer hon, a luniwyd gan Book of You - menter gymdeithasol wedi’i lleoli yn Rhuthun sy’n defnyddio therapi atgofion, offer digidol a gwirfoddolwyr i rymuso pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr - ei galluogi gan ein grant cymunedol. Roedd y ffilm yn rhoi llwyfan i berchnogion siopau a busnesau bach yn Rhuthun esbonio sut maen nhw’n ymdrechu i fod yn gynhwysol ac yn dangos yr ymdrechion a wnaed eisoes i wneud gwahaniaeth mawr i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.” Mae’n bosibl gwylio’r ffilm ar sianel You Tube CGGSDd yma.

Rhuthun Dementia Ymwybodol

Gyda chefnogaeth #TîmCGGSDd ac mewn cydweithrediad gyda’r Gymdeithas Alzheimer mae’r Grŵp Gweithredu Dementia Ymwybodol yn Rhuthun yn edrych ar ffyrdd i gynyddu ymwybyddiaeth yn y dref. Mae croeso i chi ddod yn aelod o grŵp Facebook Rhuthun Dementia Ymwybodol i gael gwybod y diweddaraf am y cynnydd a’r digwyddiadau.

Dywedodd Helen Wilkinson: “Nod ein Rhaglen Sir Ddinbych Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned yw helpu busnesau, sefydliadau, unigolion, trefi a chymunedau ar eu taith i fod yn fwy ymwybodol o ddementia. Rydym ni’n gwahodd pobl sydd am greu newid yn lleol i’n digwyddiad, ynghyd â phobl â phrofiad o fyw gyda dementia, i ddod ynghyd, cynyddu ymwybyddiaeth a gweithredu gyda’i gilydd. Gall siarad am newidiadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sy’n byw gyda dementia fod yn agoriad llygad, wedi’i gefnogi gan brofiadau go iawn pobl wedi cael diagnosis dementia a’u gofalwyr. Y nod allweddol yw gwneud cymaint o bobl ag y bo modd yn ymwybodol o’r hyn y medran nhw ei wneud. Gan fod pob siwrne’n dechrau gyda’r cam cyntaf! Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni’n rhan o alluogi newid ac yn rhan o ymgyrch i newid dan arweiniad y gymuned yma yn Rhuthun, lle rydym ni wedi’n lleoli”.

Dyfodol Rhuthun

Os hoffech chi ddysgu mwy am gynlluniau’r Grŵp Dementia Ymwybodol Rhuthun a chyfarfod y tîm gwirfoddolwyr, beth am alw heibio yn ystod y bore coffi / te prynhawn yn yr Hen Lys ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, rhwng 10am a 4pm. Dewch i ganfod sut i drefnu sesiwn Ffrindiau Dementia, sut y gall Rhaglen Sir Ddinbych Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned eich helpu chi a sut y medrwch chi gymryd rhan, helpu neu ddod yn aelod o Grŵp Gweithredu Dementia Ymwybodol Rhuthun. Bydd cyfle i chi ddysgu mwy am wahanol fudiadau cymunedol gweithgar eraill sy’n sicrhau bod y dref yn hyfyw.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) yn hwyluso Grwpiau Gweithredu Dementia Ymwybodol ar draws y sir fel rhan o Raglen Sir Ddinbych Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned, a alluogwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru.

Os hoffech chi gael eich hysbysu am y datblygiadau diweddaraf dilynwch @DVSC_Wales ar Drydar neu hoffi ein tudalen Facebook.

![endif]--![endif]--

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page