top of page
Recent Posts

Youth Volunteering Stakeholder Day - Blog

Please scroll down for Welsh

Gareth, DVSC’s #DenbighshireVolunteers Support Officer, attended the Youth Volunteering Stakeholders Meeting in Llandrindod Wells on 28th November 2019. At the meeting he met and networked with colleagues from Third Sector Support Wales and representatives of numerous Third Sector Organisations from throughout Wales.

A new learning platform on the Third Sector Support Wales website was introduced during the event. The website includes model policies and training information.

Further at the meeting the setup of a task and finish group by the Welsh Assembly Government was announced. The group will assess the effectiveness of the £1.3 million investment in youth led grants. The results of this research should be available in early 2020.

iWill Campaign

An important part of the day was spent discussing the iWill Campaign (iwill.org.uk). The campaign aiming at getting 10-20 year old’s into Social Action finishes in 2020. In Wales, The Welsh Council for Voluntary Action is a lead partner in this campaign.

There have been many successes with IWill Wales:

  • Five new iWill ambassadors created. These included people whose volunteering had involved Mental Health work, access to sports and anti-racism campaigning.

  • 1 in 5 of all new iWill ambassadors in the UK are sports ambassadors.

  • Young people were involved in the judging of nominees for the Welsh Charity Awards.

  • During iWill Week a youth debate was held in Cardiff on climate change and new iWill champions were announced.

Workshop “Interviewing using a mobile phone”

Also at the stakeholder day a workshop on “Effective interviewing using a Mobile Phone” was delivered by ProMo-Cymru. ProMo-Cymru is a registered charity who works with communities through communications, advocacy, cultural engagement, digital and media production.

The main points taken away from the workshop were:

  • Introduce grid lines into the screen when videoing and make sure people’s eyelines are on these. This can be done via camera settings.

  • The rectangle in the middle of the grid is the hot point where eyes travel towards. Items being photographed or recorded should be on the vertical gridlines.

  • When making films or videos it is good to put the phone in airplane mode.

  • When taking photographs people should be to the left or the right of the picture but looking towards the rest of the area in the shot.

  • Think about where the video/photograph will be posted when choosing if the phone should be held horizontally or vertically.

ProMo-Cymru are assisting with an Online Film Festival in partnership with WCVA. The best five films created will be showcased at the Gofod3 Third Sector Conference on 19th March in Cardiff. They are also training people in Film Theory, Pre-production, Film Making and Post-production until March 2020.

If you want to know more about one of the subjects or about Youth Volunteering in general, please get in touch with Gareth, our #DenbighshireVolunteers Support Officer, gareth@dvsc.co.uk or call him on 01824 702 441.

Follow our Eventbrite page if you wish to be informed of any of our future events and this will automatically notify you of upcoming events. You can also connect on Twitter, Facebook, Instagram, LinkedIn or YouTube.

 

Diwrnod Rhanddeiliaid Gwirfoddolwyr Ifanc - Blog

Aeth Gareth, Swyddog Cymorth #GwirfoddolwyrSirDdinbych CGGSDd, i’r cyfarfod Rhanddeiliaid Gwirfoddolwyr Ifanc yn Llandrindod ar 28 Tachwedd 2019. Cyfarfu a bu’n rhwydweithio gyda chydweithwyr o Gefnogi Trydydd Sector Cymru a chynrychiolwyr nifer o fudiadau Trydydd Sector ledled Cymru. Cyflwynwyd platfform dysgu newydd ar wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn ystod y digwyddiad. Mae’r wefan hon yn cynnwys polisïau enghreifftiol a gwybodaeth am hyfforddiant.

Cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen yn y cyfarfod hefyd. Bydd y gweithgor yn asesu effeithiolrwydd y buddsoddiad £1.3 miliwn trwy grantiau dan arweiniad ieuenctid. Dylai canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn fod ar gael yn fuan yn 2020.

Ymgyrch #byddaf

Treuliwyd cyfran bwysig o’r diwrnod yn trafod yr Ymgyrch #byddaf (iwill.org.uk). Mae’r ymgyrch, gyda’r nod o gael pobl ifanc 10 i 20 oed i Weithredu’n Gymdeithasol, yn gorffen yn 2020. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn bartner arweiniol yn yr ymgyrch hon yng Nghymru.

Cafwyd llawer o lwyddiannau gyda #byddaf yng Nghymru:

• Creu pum llysgennad #byddaf newydd. Roedd y rhain yn cynnwys pobl yn gwirfoddoli mewn gwaith iechyd meddwl, mynediad i chwaraeon ac ymgyrchu gwrth-hiliaeth. • Mae 1 o bob 5 o’r holl lysgenhadon #byddaf yn y Deyrnas Unedig yn llysgenhadon chwaraeon. • Bu pobl ifanc yn rhan o’r broses feirniadu enwebeion yng Ngwobrau Elusennau Cymru. • Cynhaliwyd trafodaeth ar newid yn yr hinsawdd yng Nghaerdydd yn ystod wythnos #byddaf, a chyhoeddwyd yr hyrwyddwyr #byddaf newydd.

Gweithdy “cyfweliad yn defnyddio ffôn symudol”

Cynhaliwyd gweithdy yn ystod y diwrnod ar “Gyfweld effeithiol yn defnyddio ffôn symudol” a gyflwynwyd gan ProMo-Cymru. Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebu, eiriolaeth, ymgysylltu diwylliannol a chreu cynhyrchiadau digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Y prif bwyntiau a ddysgwyd yn y gweithdy oedd:

• Defnyddio llinellau grid ar y sgrîn wrth wneud fideo a gwneud yn siwr bod llygaid pobl ar y rhain. Gellir gwneud hyn trwy addasu’r gosodiadau camera. • Y triongl yng nghanol y grid yw’r prif fan y mae llygaid pobl yn cael eu denu ato. Dylai eitemau sy’n cael eu recordio fod ar y llinellau grid fertigol. • Mae’n syniad da rhoi’r ffôn ar y statws ‘mewn awyren’ tra’n gwneud ffilmiau neu fideos. • Wrth dynnu lluniau dylai pobl fod i’r chwith neu’r dde yn y llun ond yn edrych tuag at weddill yr ardal yn y llun. • Meddyliwch am lle bydd y fideo/llun yn cael ei ddangos wrth ddewis a ddylai’r ffôn gael ei ddal yn llorweddol neu’n fertigol.

Mae ProMo-Cymru yn cynorthwyo gyda Gŵyl Ffilm Ar-lein mewn partneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Bydd y pum ffilm gorau a grewyd yn cael eu dangos yng Nghynhadledd Trydydd Sector Gofod3 ar 19 Mawrth yng Nghaerdydd. Maen nhw hefyd yn hyfforddi pobl mewn Theori Ffilm, Agweddau cyn-gynhyrchu, creu ffilm ac ôl-gynhyrchu tan fis Mawrth 2020.

Os ydych chi am gael gwybod rhagor am un o’r pynciau hyn neu am Wirfoddolwyr Ifanc yn gyffredinol, cysylltwch gyda Gareth, ein Swyddog Cymorth #GwirfoddolwyrSirDdinbych, ar gareth@dvsc.co.uk neu 01824 702 441.

Dilynwch ein tudalen Eventbrite os ydych am gael gwybod am unrhyw un o'n digwyddiadau yn y dyfodol, a bydd hyn yn eich hysbysu'n awtomatig am ddigwyddiadau sydd ar ddod neu cysylltwch ar Trydar, Gweplyfr, Instagram, LinkedIn neu YouTube.

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page