top of page
Recent Posts

DVSC’s New Year Greetings from Helen Wilkinson, Chief Executive, DVSC & #TeamDVSC


Scroll down for Welsh

New Year is a time for new resolutions – reflecting on the year that has ended and making plans and resolutions for the future.

So #TeamDVSC wants to give you a heads up on our reflections on the year that ended and our exciting plans for 2020 and beyond!

Reflections on the year that sped by

2019 was an exceptionally busy year for us. We increased our income by 36%, rebuilt our reserves, expanded the services and activities we offer and bounced back after a challenging few years. We also welcomed new team members to our small impactful team and recruited new trustees skilled in business development, committed to community development and to supporting our social enterprise ambition.

We experienced a huge amount of change in a short space of time. It was challenging, exhausting, and inspiring in equal measure. We hope you felt some ripples of change our activities helped catalyse.

Social Enterprise Ambition

2020 is already shaping up to be another exciting year. We hope you will be a part of it and work with us to build a movement for positive change in Denbighshire.

We were delighted to be selected as one of the award winners of the highly competitive Welsh Government’s Foundational Economy Challenge Fund in November 2019. Success in the Challenge Fund is enabling us to launch Ruthin Market Hall as a social enterprise this year. You can find out information about our plans for the Market Hall here and about the engagement events that we are hosting in January and February below.

Whether you are a Ruthin resident, trader, maker, hobbyist, local community business, potential customer, an individual, group, or organisation, engage with us and let’s work together to bring this beautiful Market Hall back to life.

If you are interested in signing up to be a trader or maker or if you want to share your ideas around the Market Hall contact us here.

Food, glorious food

We were thrilled to end 2019 being selected as Public Health Wales’ strategic partner in North Wales for its Food for Life programme.

Community Food Get Togethers that bring people and communities together are going to be very big part of our future with Ruthin Market Hall as our hub and focal point over the next three years. We will also be working with a host of partners to facilitate and inspire community led Get Togethers throughout North Wales. Watch this space!

Jobs, work, volunteer opportunities galore!

DVSC is starting 2020 with a big recruitment campaign thanks to a combination of recent funding success, hard work and thrift. 2019 was the year we worked hard and took care of the pennies to invest in and safeguard our charity for generations to come.

New job opportunities at DVSC in 2020 include:

  • Hwb Innovation Lead

  • Market Hall Support Officer

  • Enterprise and Learning Officer

  • Marketing and Engagement Support Officer

  • Business Development Officer

Success in bringing in new business also means that we are recruiting DVSC Associates for short term project-based opportunities.

We will be sending out more information about the new job opportunities and associate roles very soon.

We also have some great volunteer opportunities linked to Open Doors and our plans for the Market Hall.

If you feel inspired to find out more about us why not come along to our DVSC Recruitment Fair on Tuesday 28 January. Our doors will be open from 9.00am to 4.00pm.

Meet #TeamDVSC, find out more about us, and about the exciting ways of working and connecting with us in 2020.

Enabling and Supporting Denbighshire Change Makers

Our experience in grant fund management and distribution shows that small amounts of money can make a BIG difference – catalysing and enabling community action and encouraging people to go on a journey from awareness to action.

We are starting 2020 by putting funds into the hands of Denbighshire Change Makers. We have 4 Community led Grants open currently - Youth Led Grants, a third round of Dementia Aware Community Led Grants, Learning Disability grants, and funding for wellbeing activities through the Welsh Church Act. The application deadlines for these community led grants is January 20th. You can read the press release here. Information about how to apply for these funding opportunities can be found on our website here. Better still call Mair, our Community Development Officer or Gareth, our #DenbighshireVolunteers Support Officer to get advice and support on 01824 702 441.

We are excited to be launching a third round of our Dementia Aware Community Led Grant Fund, with a call out to change makers across the County to come together and raise awareness about dementia and turn awareness into community led action. We have a great training programme of Dementia Aware courses lined up in March to help people develop their skills and translate greater awareness into action.

Grant funding can be used to pay for individuals or groups to attend these courses. Better still all funds invested in these training courses will be supporting charities and social enterprises to keep on doing great things! That’s what we call a win-win!

Learning, networking, developing, engaging

In 2019 we established a reputation as being one of the smallest but impactful County Voluntary Councils in Wales performing in the top 3 when it comes to influencing and engaging, and hosting learning and events as part of Third Sector Support Wales.

In 2020, we already have a host of events and outreach activities lined up including community engagement events about Ruthin Market Hall. We will continue to host Open Doors every Friday afternoon, are working hard to develop our reputation as an Online Learning Centre through our Digital Fridays FREE training sessions, and continue to host Networks, Funding Fairs, Social Enterprise Support Fairs, community based events, learning, and training opportunities including Dementia Friends Awareness sessions.

You can find our events schedule here. If you want to be kept informed as new events are listed why not like our Eventbrite page and receive event alerts?

In the meantime, here are some key diary markers for the first few months of the year:

  • The next meeting of the Dementia Aware Denbighshire Community Led Network is Thursday 30th January 2020, St Collens Community Hall, Llangollen, 11.00am-1.00pm. The event is FREE and is a great chance to network with other Denbighshire change makers, seek inspiration or share your learning and experience. Book your place here.

  • The next meeting of the Wellbeing Network is Wednesday 26th February 1.00pm-4.00pm at the Naylor Leyland Centre, Ruthin. Book your place here.

  • Our Spring Funding Fair will also be hosted in the Market Hall in Ruthin on Wednesday 25 March 10.00am to 1.00pm. Meet the funders, meet other change makers and network in this wonderful Market Hall. Book your place here.

These are just some teasers. We have events happening every week so please check out our Eventbrite page, the events page of our website and follow us on Twitter, Facebook or LinkedIn.

Being social, encouraging connection and sharing information

In 2020, we will continue to use and develop our social media channels - Twitter, Facebook, Instagram, LinkedIn and YouTube to share timely news and information with you through these. We will also continue to publish our #DenbighshireVolunteers, Wellbeing and Social Enterprise Bulletin along with our Weekly Newsflash to tell you all about the activities hosted at the Naylor Leyland Centre in Ruthin, and the Market Hall, not to mention the other things we’re involved in out and about in Denbighshire.

If you want to submit content for our Weekly Newsflash, Bulletins or for promotion via social media (preferably bilingual content) please email our Marketing and Engagement team, engagement@dvsc.co.uk who are always keen to help and get the message out.

Finally, on behalf of #TeamDVSC, we'd like to wish you a happy, and successful New Year; one which brings us all individual and collective wellbeing. We look forward to building on current relationships, developing partnerships and exploring how we can work more effectively together to build resilient communities through voluntary action and social enterprise.

Let’s work together to support Change Makers and build a movement for positive change in Denbighshire.

 

Cyfarchion y Flwyddyn Newydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych oddi wrth Helen Wilkinson, Prif Weithredwr CGGSDd a #TîmCGGSDd

Mae’r Flwyddyn Newydd yn adeg ar gyfer addunedau newydd – adlewyrchu ar y flwyddyn a fu, a gwneud cynlluniau ac addunedau ar gyfer y dyfodol.

Felly mae #TîmCGGSDd yn dymuno eich hysbysu am ein hadlewyrchiadau am y flwyddyn sydd newydd orffen a’n cynlluniau cyffrous ar gyfer 2020 a thu hwnt!

Adlewyrchu ar y flwyddyn a wibiodd heibio

Roedd 2019 yn flwyddyn eithriadol o brysur i ni. Gwnaethom gynyddu ein hincwm 36%, ailsefydlu ein cronfeydd wrth gefn, ehangu’r gwasanaethau a’r gweithgareddau rydym ni’n eu cynnig a bownsio’n ôl ar ôl blynyddoedd heriol. Gwnaethom groesawu aelodau newydd i’n tîm bach ond effeithiol a recriwtio ymddiriedolwyr newydd â sgiliau datblygu busnes, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu cymunedol a chefnogi ein huchelgais i hybu menter gymdeithasol.

Cawsom lawer o newid mewn cyfnod byr. Roedd yn heriol, blinedig ac yn llawn ysbrydoliaeth fel ei gilydd. Gobeithiwn eich bod chi wedi teimlo rhai o’r cylchoedd newid a ysgogwyd gan ein gweithgareddau ni.

Uchelgais Menter Gymdeithasol

Mae 2020 eisoes yn siapio i fod yn flwyddyn gyffrous arall. Gobeithiwn y byddwch chi’n rhan ohoni ac y gwnewch chi weithio gyda ni i greu mudiad er budd newid cadarnhaol yn Sir Ddinbych.

Roeddem ni wrth ein boddau wedi i ni gael ein dewis fel un o’r rhai y dyfarnwyd arian iddynt gan Gronfa Her yr Economi Sylfaenol ym mis Tachwedd 2019. Mae ein llwyddiant gyda’r Gronfa Her yn ein galluogi i lansio Neuadd y Farchnad Rhuthun fel menter gymdeithasol eleni. Cewch ragor o wybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer Neuadd y Farchnad yma ac am y digwyddiadau ymgysylltu y byddwn yn eu cynnal yn Ionawr a Chwefror isod.

P’un ai ydych chi’n byw yn Rhuthun, yn fasnachwr, yn wneuthurwr, yn frwd ynghylch eich hobi, yn fusnes cymunedol lleol, darpar gwsmer, unigolyn, grŵp neu’n fudiad, ymgysylltwch gyda ni a gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i ddod â’r Neuadd Farchnad hon yn ôl i’w gogoniant.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru i fod yn fasnachwr neu wneuthurwr neu os ydych chi am rannu'ch syniadau o amgylch Neuadd y Farchnad, cysylltwch gyda ni yma.

Bwyd, bwyd, bwyd

Roeddem ni wrth ein boddau’n diweddu 2019 yn cael ei dewis fel partner strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru yng ngogledd Cymru ar gyfer y rhaglen Bwyd Doeth am Byth.

Mae digwyddiadau Bwyd Cymunedol sy’n dod â phobl a chymunedau ynghyd yn mynd i fod yn rhan fawr o’n dyfodol ni gyda Neuadd y Farchnad Rhuthun fel ein hwb a chanolbwynt dros y tair blynedd nesaf. Hefyd byddwn yn gweithio gyda llu o bartneriaid i hwyluso ac ysbrydoli cymunedau i ddod at ei gilydd ledled gogledd Cymru. Rhagor o fanylion yn fuan!

Llu o gyfleoedd am swyddi, gwaith a rolau gwirfoddoli!

Mae CGGSDd yn dechrau 2020 gydag ymgyrch recriwtio enfawr diolch i gyfuniad o lwyddiant denu cyllid, gwaith caled a bod yn ddarbodus yn ddiweddar. 2019 oedd y flwyddyn y buom ni’n gweithio’n galed, a gofalu am y ceiniogau i fuddsoddi a diogelu ein helusen am genedlaethau i ddod.

Mae’r cyfleoedd swyddi newydd yn CGGSDd yn 2020 yn cynnwys:

  • Arweinydd Arloesi’r Hwb

  • Swyddog Cymorth Neuadd y Farchnad

  • Swyddog Menter a Dysgu

  • Swyddog Cymorth Marchnata ac Ymgysylltu

  • Swyddog Datblygu Busnes

Mae llwyddiant yn denu busnes newydd hefyd yn golygu ein bod ni’n recriwtio i rolau Cyswllt CGGSDd ar gyfer cyfleoedd tymor byr ar sail prosiectau penodol.

Byddwn yn anfon mwy o wybodaeth am y cyfleoedd gwaith newydd a'r rolau cyswllt yn fuan iawn.

Mae gennym ni gyfleoedd gwirfoddoli gwych hefyd yn gysylltiedg â Drysau Agored a’n cynlluniau ar gyfer Neuadd y Farchnad.

Os ydych chi wedi cael eich hysbrydoli i ddysgu rhagor amdanom ni, beth am ddod draw i Ffair Recriwtio CGGSDd ddydd Mawrth, 28 Ionawr. Bydd ein drysau ar agor rhwng 9.00yb a 4.00yp.

Dewch i gyfarfod #Tîm CGGSDd, dysgu rhagor amdanom ni a’r ffyrdd cyffrous o weithio a chysylltu gyda ni yn 2020.

Galluogi a Chefnogi ysgogwyr newid yn Sir Ddinbych

Mae ein profiad o reoli a dosbarthu cronfeydd grant yn dangos y gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth MAWR – yn gweithredu fel catalydd ac yn galluogi gweithredu cymunedol ac yn annog pobl i fynd ar daith o ymwybyddiaeth i weithredu.

Rydym ni’n dechrau 2020 trwy roi arian yn nwylo Ysgogwyr Newid Sir Ddinbych. Mae gennym ni bedwar Grant dan arweiniad y Gymuned ar agor ar hyn o bryd – Grantiau dan arweiniad Ieuenctid, trydydd rownd y Grantiau Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned, grantiau Anableddau Dysgu a chyllid ar gyfer gweithgareddau llesiant trwy Ddeddf Eglwysi Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y grantiau hyn ydi 20fed Ionawr. Cewch ddarllen y datganiad i’r wasg yma. Mae gwybodaeth sut i wneud cais am y cyfleoedd cyllid hyn i’w chael ar ein gwefan yma. Neu’n well fyth, ffoniwch Mair, ein Swyddog Datblygu Cymunedol, neu Gareth, ein Swyddog Cymorth #GwirfoddolwyrSirDdinbych i gael cyngor a chefnogaeth ar 01824 702 441.

Rydym ni’n llawn cyffro wrth lansio trydedd rownd ein Cronfa Grant Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned, gan alw ar ysgogwyr newid ledled y sir i ddod at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth am ddementia a newid ymwybyddiaeth yn weithredu dan arweiniad y gymuned. Mae gennym ni raglen hyfforddiant wych o ran cyrsiau Dementia Ymwybodol wedi’u trefnu ym mis Mawrth i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a throsi mwy o ymwybyddiaeth yn weithredu.

Gellir defnyddio cyllid grant i dalu i unigolion neu grwpiau ddod ar y cyrsiau hyn. Yn well fyth, bydd yr holl arian a fuddsoddir yn y cyrsiau hyfforddiant hyn yn cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol i ddal ati i wneud pethau gwych! Pawb ar eu hennill yn ein barn ni!

Dysgu, rhwydweithio, datblygu, ymgysylltu

Yn 2019 gwnaethom ni sefydlu enw i’n hunain fel un o’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleiaf ond yn cael y mwyaf o effaith yng Nghymru, wedi ein lleoli ymhlith y tri uchaf o ran dylanwadu ac ymgysylltu a chynnal digwyddiadau a sesiynau dysgu fel rhan o Gefnogi Trydydd Sector Cymru.

Mae gennym ni lu o ddigwyddiadau a gweithgareddau allgymorth wedi’u trefnu ar gyfer 2020 eisoes, yn cynnwys digwyddiadau ymgysylltu gyda’r gymuned ynghylch Neuadd y Farchnad yn Rhuthun. Byddwn yn parhau i gynnal Drysau Agored bob prynhawn Gwener, ac rydym ni’n gweithio’n galed i ddatblygu ein henw da fel Canolfan Ddysgu Ar-lein trwy ein sesiynau hyfforddiant AM DDIM – Dydd Gwener Digidol, a pharhau i gynnal Rhwydweithiau, Ffeiriau Cyllido, Ffeiriau Cefnogi Mentrau Cymdeithasol, digwyddiadau cymunedol a chyfleoedd dysgu a hyfforddiant, yn cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia.

Mae ein rhestr ddigwyddiadau i’w chael yma. Os hoffech chi gael eich hysbysu wrth i ddigwyddiadau newydd gael eu rhestru, beth am hoffi ein tudalen Eventbrite a derbyn hysbysiadau am ddigwyddiadau?

Yn y cyfamser, dyma rai dyddiadau allweddol i’ch dyddiadur yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn:

  • Cynhelir cyfarfod nesaf Rhwydwaith Dementia Ymwybodol Sir Ddinbych dan arweiniad y Gymuned ddydd Iau, 30 Ionawr 2020, yn Neuadd Gymuned Sant Collen, Llangollen, 11.00yb - 1.00yp. Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM ac mae’n gyfle gwych i rwydweithio gydag ysgogwyr newid eraill yn Sir Ddinbych, cael ysbrydoliaeth neu rannu eich profiadau chi. Mae modd bwcio eich lle yma.

  • Cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Llesiant ddydd Mercher, 26 Chwefror, 1.00yp - 4.00yp, yng Nghanolfan Naylor Leyland, Rhuthun. Mae modd bwcio eich lle yma.

  • Bydd ein Ffair Ariannu Gwanwyn yn cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad ddydd Mercher, 25 Mawrth, 10.00yb - 1.00yp. Cyfle i gyfarfod y cyllidwyr, cyfarfod ysgogwyr newid eraill a rhwydweithio yn y Neuadd Farchnad wych hon. Mae modd bwcio eich lle yma.

Mae’r rhain yn rhoi blas o’r arlwy yn unig. Bydd gennym ni ddigwyddiadau bob wythnos, felly gwiriwch ein tudalen Eventbrite, tudalen ddigwyddiadau ein gwefan a dilynwch ni ar Trydar, Gweplyfr neu LinkedIn.

Mudiad cymdeithasol, cysylltiol sy’n rhannu gwybodaeth

Byddwn yn parhau i ddefnydido a datblygu ein sianelau cyfryngau cymdeithasol yn 2020 - Trydar, Gweplyfr, Instagram, LinkedIn ac YouTube i rannu newyddion a gwybodaeth amserol gyda chi. Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi ein Bwletin #GwirfoddolwyrSirDdinbych, Bwletin Llesiant a’n Bwletin Mentrau Cymdeithasol yn ogystal â’n Fflach Newyddion CGGSDd i’ch hysbysu am yr holl weithgareddau a gynhelir yng Nghanolfan Naylor Leyland a Neuadd y Farchnad yn Rhuthun, a’r holl bethau eraill rydym ni’n ymwneud â nhw yn Sir Ddinbych.

Os hoffech chi gyflwyno eitem ar gyfer ein Newyddion Gwib wythnosol, ein Bwletinau neu i’w hyrwyddo trwy’r cyfryngau cymdeithasol, anfonwch e-bost at ein tîm Marchnata ac Ymgysylltu, gyda chynnwys dwyieithog yn fwyaf dymunol, i engagement@dvsc.co.uk. Maen nhw bob amser yn awyddus i gynorthwyo a lledaenu’r neges.

Yn olaf, ar ran #TîmCGGSDd, hoffem ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a llwyddiannus i chi; un sy’n dod â llesiant i ni oll fel unigolion ac ar y cyd. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein perthnasoedd cyfredol, datblygu partneriaethau ac ymchwilio i sut y medrwn ni weithio gyda’n gilydd yn fwy effeithiol i greu cymunedau cydnerth trwy weithredu gwirfoddol a mentrau cymdeithasol.

Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi Ysgogwyr Newid ac adeiladu mudiad er budd newid cadarnhaol yn Sir Ddinbych.

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page