Press Release (23) - DVSC LAUNCHED GRANT PROGRAMMES DURING THEIR WINTER FUNDING FAIR
Scroll down for Welsh
Christmas has come early for change makers, social entrepreneurs, voluntary and community groups and third sector organisations in Denbighshire this year. DVSC launched no less than four grant rounds at their Winter Funding Fair, which took place at the Naylor Leyland Centre in Ruthin last Thursday.
The Dementia Aware Denbighshire Community Led Grants, Welsh Church Act funding for wellbeing initiatives as well as community grants for Learning Disabilities and the Youth Led grant programme opened for business on 12th December with a total up to £23K available. The deadline for applications for all grant programmes is the 20th of January 2020. Match funding from the Welsh Church Act will also be available for projects meeting the fund’s criteria.
To raise the profile of these exciting grant programmes DVSC launched them during its well-attended Winter Funding Fair. At the event DVSC welcomed over 20 voluntary and community groups, social entrepreneurs and Third Sector organisations from Denbighshire. They met with different funders one to one and DVSC staff were at hand to talk them through the grant criteria, answer questions and give examples of best practices.
Dementia Aware Denbighshire Community Led Grant
DVSC is continuing to spread awareness about dementia throughout the County by launching a third round of Dementia Aware Denbighshire grants of between £250 and £2,000.
Helen Wilkinson, Chief Executive at DVSC, explains: “For this third round we have set criteria around place-based activities which can raise awareness about dementia. We are also encouraging collaboration and partnership between organisations and projects that are building community capacity.”
The grants will be open to voluntary and community groups, social entrepreneurs, third sector organisations, social enterprises, small businesses and individuals in Denbighshire. As with the first two rounds a volunteer led Dementia Aware decision-making panel, including people with lived experience, will review the applications and make funding decisions.
Welsh Church Act
The Welsh Church Act Fund, with grants of up to £500 available, supports wellbeing and will be open for both specific applications and match funding. “The aim of the fund is to support voluntary action and local voluntary and community groups in Denbighshire”, Helen says. “Groups can apply for the grants for activities relating to or based in church run premises. Projects battling loneliness and isolation or promoting wellbeing can also be funded through the grants.”
Organisations applying for the Dementia Aware Denbighshire, the Learning Disabilities grants or the Youth Led Grant programme can get match funding from the Welsh Church Act, providing they meet the criteria set for the funding.
Denbighshire Learning Disabilities Grant
Grants of up to £ 1,000 are available for community groups and organisations thanks to the Denbighshire Learning Disabilities programme. Helen elaborates: “It is the first time we will be distributing these funds, for which we have set several criteria. Schemes aiming to integrate people with learning disabilities into mainstream activities, initiatives around progression from child to adult services and projects focussing on raising awareness with employers are just a few of the applications to be eligible for funding.”
Youth Led Grants
The final grant programme that was launched at the Funding Fair is a second round of Youth Led Grant funding. The aim of the Youth Led Grants is to support a range of small volunteering projects and activities, led and carried out by young people which are based around six priority areas identified by Welsh Government.
“The projects that will be awarded funding will be those which have the potential to make the greatest contribution to long-term prosperity and wellbeing”, Helen continues. “So, we encourage applications built around one of the six criteria being early years, better mental health, housing, skills and employability, social care or decarbonisation.” An independent youth led panel will be reviewing the applications.
If you are interested in applying for one of these exciting funding programmes, you can find all necessary information on the DVSC website: www.dvsc.co.uk/grants. Alternatively, you can call Mair, DVSC’s Community Development Officer or Gareth, #DenbighshireVolunteers Support Officer on 01824 702 441. DVSC is supporting all grant applicants with a free organisational health check, increasing each organisation’s chances to get the right funds for their next project.
If you want to find out what the future holds, you can sign up for DVSC’s Spring Funding Fair, to be held on 25th March at the Market Hall in Ruthin. To confirm your attendance for the fair, follow the Eventbrite link: bit.ly/SpringFundingFair2020. More details about the Fair and other exciting events will be announced on DVSC’s social media channels, Twitter and Facebook or you can follow Denbighshire Voluntary Services Council on Eventbrite to be notified of any upcoming events. You can also sign up to DVSC’s Sector Support Bulletin.
Notes to Editors
About DVSC
Denbighshire Voluntary Services Council’s mission is to build resilient communities through voluntary action, and social enterprise, provide excellent support for stakeholders, and to be an influential voice in Denbighshire and North Wales.
DVSC is the membership body for volunteers, voluntary and community groups, third sector organisations and social enterprises in Denbighshire.
DVSC works closely with North Wales CVCs, and is a member of the Wales-wide network of CVCs which in partnership with the Wales Council of Voluntary Associations (WCVA) forms the partnership that makes up Third Sector Support Wales.
As well as connecting volunteers and volunteering organisations with each other, DVSC offer valuable support and networking opportunities. DVSC’s sector support services provide information and advice on relevant funding opportunities, training offers and governance best practice.
To make sure you are kept up to date when funding opportunities are available make sure to subscribe to our mailing list by following the link - Subscribe for News Updates & Bulletins.
For further information contact Helen Wilkinson, DVSC’s Chief Executive, helenw@dvsc.co.uk, 01824 702 441 or 07713 997 075 Or Vanessa Van Lierde, Marketing and Engagement Officer vanessa@dvsc.co.uk, 01824 709 321
Follow us on Twitter (@DVSC_Wales), Instagram (@dvsc_denbighshire) and like our DVSC Facebook page. To be notified of events, follow our Eventbrite page. You can also find us on You Tube & LinkedIn.
Datganiad i’r wasg - RHAGLENNI GRANT CGGSDd WEDI LANSIO YN YSTOD EU FFAIR ARIANNU GAEAF
Mae'r Nadolig wedi dod yn gynnar i wneuthurwyr newid, entrepreneuriaid cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol a chymunedol a sefydliadau'r trydydd sector yn Sir Ddinbych eleni. Lansiodd CGGSDd phedair rownd grantiau yn eu Ffair Ariannu Gaeaf, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Naylor Leyland yn Rhuthun ddydd Iau diwethaf.
Agorodd Grantiau Dementia Ymwybodol Sir Ddinbych, Cronfa Deddf Eglwysi Cymru ar gyfer mentrau lles, yn ogystal â grantiau cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu a'r rhaglen grant dan Arweiniad Ieuenctid ar y 12fed o Ragfyr gyda hyd at £23K ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer pob rhaglen grant yw'r 20fed o Ionawr 2020. Bydd cyllid cyfatebol o Ddeddf Eglwys Cymru hefyd ar gael ar gyfer prosiectau sy'n cwrdd â meini prawf y gronfa.
Er mwyn codi proffil y rhaglenni grant cyffrous hyn, lansiodd CGGSDd nhw yn ystod ei Ffair Ariannu Gaeaf. Yn y digwyddiad croesawodd CGGSDd dros 20 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol, entrepreneuriaid cymdeithasol a sefydliadau'r Trydydd Sector o Sir Ddinbych. Fe wnaethant gyfarfod â gwahanol arianwyr un i un ac roedd staff CGGSDd wrth law i siarad â nhw trwy'r meini prawf grant, ateb cwestiynau a rhoi enghreifftiau o arferion gorau.
Grantiau Cymunedau Dementia Ymwybodol
Mae CGGSDd yn parhau i godi ymwybyddiaeth am ddementia ledled y Sir trwy lansio trydedd rownd o grantiau Dementia Ymwybodol Sir Ddinbych rhwng £250 a £2,000.
Eglura Helen Wilkinson, Prif Weithredwr CGGSDd: “Ar gyfer y drydedd rownd hon rydym wedi gosod meini prawf o amgylch gweithgareddau yn seiliedig ar le a all godi ymwybyddiaeth am ddementia. Rydym hefyd yn annog cydweithredu a phartneriaeth rhwng sefydliadau a phrosiectau sy'n adeiladu gallu cymunedol.”
Bydd y grantiau ar agor i grwpiau gwirfoddol a chymunedol, entrepreneuriaid cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector, mentrau cymdeithasol, busnesau bach ac unigolion yn Sir Ddinbych. Yn yr un modd â'r ddwy rownd gyntaf, bydd panel o wirfoddolwyr Dementia Ymwybodol, gan gynnwys pobl â phrofiad byw, yn adolygu'r ceisiadau ac yn gwneud penderfyniadau cyllido.
Cronfa Deddf Eglwysi Cymru
Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru, gyda grantiau o hyd at £500 ar gael, yn cefnogi lles a bydd ar agor ar gyfer ceisiadau penodol a chyllid cyfatebol. “Nod y gronfa yw cefnogi gweithred wirfoddol a grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol yn Sir Ddinbych”, meddai Helen. “Gall grwpiau wneud cais am y grantiau ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â neu sydd wedi’i leoli mewn adeilad eglwysig. Gellir hefyd ariannu prosiectau sy'n brwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd neu'n hyrwyddo lles trwy'r grantiau."
Gall sefydliadau sy'n gwneud cais am Ddementia Ymwybodol Sir Ddinbych, y grantiau Anableddau Dysgu neu'r rhaglen Grant dan Arweiniad Ieuenctid gael cyllid cyfatebol gan Ddeddf Eglwys Cymru, cyn belled â'u bod yn cwrdd â'r meini prawf a osodwyd ar gyfer y cyllid.
Grant Anabledd Dysgu
Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol drwy Anableddau Dysgu Sir Ddinbych. Mae Helen yn ymhelaethu: “Dyma'r tro cyntaf y byddwn yn dosbarthu'r cronfeydd hyn, ac rydym wedi gosod sawl maen prawf ar eu cyfer. Rhai o’r ceisiadau bydd yn gymwys i’r cyllid bysa rhai sy'n anelu at integreiddio pobl ag anableddau dysgu i weithgareddau prif ffrwd, mentrau sy'n ymwneud â symud ymlaen o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth gyda chyflogwyr.”
Grantiau dan arweiniad Ieuenctid
Y rhaglen grant olaf a lansiwyd yn y Ffair Ariannu roedd yr ail rownd o gyllid Grant dan Arweiniad Ieuenctid. Nod y Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yw cefnogi ystod o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli bach, dan arweiniad a chyflawnir gan bobl ifanc sydd wedi'u seilio ar chwe maes blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
“Y prosiectau y bydd yn cael eu cyllido bydd y rhai sydd â’r potensial i wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a lles tymor hir”, mae Helen yn parhau. “Felly rydym yn annog ceisiadau sydd wedi'u hadeiladu o amgylch un o'r chwe maen prawf sef blynyddoedd cynnar, gwella iechyd meddwl, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gofal cymdeithasol neu ddatgarboneiddio.” Bydd panel annibynnol dan arweiniad ieuenctid yn adolygu'r ceisiadau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ceisio am un o'r rhaglenni cyllido cyffrous hyn, gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth angenrheidiol ar wefan CGGSDd: www.dvsc.co.uk/grants. Fel arall, gallwch ffonio Mair, Swyddog Datblygu Cymunedol CGGSDd neu Gareth, Swyddog Cymorth #GwirfoddolwyrSirDdinbych ar 01824 702 441. Mae CGGSDd yn cefnogi pob ymgeisydd grant gyda gwiriad iechyd sefydliadol am ddim, gan gynyddu siawns pob sefydliad i gael yr arian cywir ar gyfer eu prosiect nesaf.
Os ydych chi eisiau darganfod mwy am gyllido sydd ar gael, gallwch gofrestru ar gyfer Ffair Ariannu Gwanwyn CGGSDd, a gynhelir ar 25ain Mawrth yn Neuadd y Farchnad yn Rhuthun. I gadarnhau eich presenoldeb yn y ffair, dilynwch y ddolen Eventbrite: bit.ly/SpringFundingFair2020. Cyhoeddir mwy o fanylion am y Ffair a digwyddiadau cyffrous eraill ar sianeli cyfryngau cymdeithasol CGGSDd, Trydar a Gweplyfr neu gallwch ddilyn Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ar Eventbrite i gael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod. Gallwch hefyd gofrestru ar Fwletin Cymorth Sector CGGSDd.
Nodiadau i Olygyddion
Manylion am Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd)
Cenhadaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yw adeiladu cymunedau cydnerth trwy weithredu gwirfoddol a menter gymdeithasol, darparu cefnogaeth ragorol i randaliad, a bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru.
CGGSDd yw'r corff aelodaeth ar gyfer gwirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol yn Sir Ddinbych.
Mae CGGSDd yn gweithio'n agos gyda CGSs Gogledd Cymru, ac mae'n aelod o'r rhwydwaith o CGSs ledled Cymru sydd, mewn partneriaeth â Chyngor Cymdeithasau Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn ffurfio'r bartneriaeth sy'n rhan o Gymorth Trydydd Sector Cymru.
Yn ogystal â chysylltu gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddoli â'i gilydd, mae CGGSDd yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr. Mae gwasanaethau cymorth sector CGGSDd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd cyllido perthnasol, cynigion hyfforddi ac arfer gorau llywodraethu.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd cyfleoedd cyllido ar gael gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i'n rhestr bostio trwy ddilyn y ddolen - Tanysgrifiwch am Ddiweddariadau Newyddion a Bwletinau.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Helen Wilkinson, Prif Weithredwr CGGSDd, helenw@dvsc.co.uk, 01824 702 441 neu 07713 997 075 Neu Vanessa Van Lierde, Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu vanessa@dvsc.co.uk, 01824 709 321
Dilynwch ni ar Twitter (@DVSC_Wales), Instagram (@dvsc_denbighshire) a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. I gael gwybod am ddigwyddiadau, dilynwch ein tudalen Eventbrite. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube & LinkedIn.
![endif]--![endif]--