Press Release (22) - DVSC’S Exciting plans for Ruthin Market Hall
Scroll down for Welsh
DVSC is delighted to share some great news.
In October, DVSC signed the license to operate Ruthin Market Hall on Market Street with Denbighshire County Council. And this week Welsh Government announced that DVSC was one of the successful award winners of the Foundational Economy Challenge Fund to help us on our social enterprise journey.
Helen Wilkinson, Chief Executive at DVSC says: “We are very excited to bring this Grade 2 listed building back to life after the retirement of the license holders earlier this year. This is a key opportunity for us to help support inclusive economic growth in Ruthin and the outlying area and provide a platform to engage the local community, artisans, voluntary groups, Third Sector Organisations, social enterprises and local businesses.”
The Market Hall will be run as a Social Enterprise and DVSC intends to host a regular market involving makers, artisans, artists, local business and the voluntary and community sector. The space will also be available for hire for pop up events and activities.
Helen Wilkinson explains: “We want to work with and inspire local people as we go on this exciting journey. We are looking to develop our plans in partnership with local people, so we are planning one or two public engagement events before Christmas. Then, in the new year, we will test run a couple of concepts, as we ask for more input from the public during further engagement events. If all goes to plan, we hope that the Market Hall will formally launch in Spring.”
A first brainstorm about the Market Hall is planned during the Co-Production Workshop DVSC is holding next Monday 18th November at the Naylor Leyland Centre. Keep an eye on our social media platforms (Twitter, Facebook and LinkedIn) and follow our Eventbrite page to be notified of future public engagement events.
If you are interested in getting involved and want to volunteer by offering your time or skills please contact Mair, DVSC’s Volunteering and Wellbeing Development Officer or Gareth, #DenbighshireVolunteers Support Officer, engagement@dvsc.co.uk or call 01824 702 441.
Better still pop in to meet us in person at the Naylor Leyland Centre, Well Street, Ruthin from 08.30am to 4.00pm Monday to Friday.
People can also get involved in Open Doors activities – which take place on Fridays from 1.00pm till 3.00pm at the Naylor Leyland Centre. Open Doors participants will be showcasing some of their work at one of our public engagement events in the Market Hall before Christmas. DVSC looks forward to welcoming everyone to this great building and to hearing people’s views.
You can see Helen’s interview with Welsh Government colleagues on our YouTube Channel.
Notes to Editors
About DVSC
Denbighshire Voluntary Services Council’s mission is to build resilient communities through voluntary action, and social enterprise, provide excellent support for stakeholders, and to be an influential voice in Denbighshire and North Wales.
DVSC is the membership body for volunteers, voluntary and community groups, third sector organisations and social enterprises in Denbighshire.
DVSC works closely with North Wales CVCs, and is a member of the Wales-wide network of CVCs which in partnership with the Wales Council of Voluntary Associations (WCVA) forms the partnership that makes up Third Sector Support Wales.
As well as connecting volunteers and volunteering organisations with each other, DVSC offer valuable support and networking opportunities. DVSC’s sector support services provide information and advice on relevant funding opportunities, training offers and governance best practice.
To make sure you are kept up to date when funding opportunities are available make sure to subscribe to our mailing list by following the link - Subscribe for News Updates & Bulletins.
For further information contact Helen Wilkinson, DVSC’s Chief Executive, helenw@dvsc.co.uk, 01824 702 441 or 07713 997 075 Or Vanessa Van Lierde, Marketing and Engagement Officer vanessa@dvsc.co.uk, 01824 709 321
Follow us on Twitter (@DVSC_Wales), Instagram (@dvsc_denbighshire) and like our DVSC Facebook page. To be notified of events, follow our Eventbrite page. You can also find us on You Tube & LinkedIn.
Datganiad i’r wasg - Cynlluniau cyffrous CGGSDd ar gyfer Neuadd Farchnad Rhuthun
Mae CGGSDd yn falch iawn o rannu newyddion gwych.
Ym mis Hydref, llofnododd CGGSDd y drwydded i weithredu Neuadd Farchnad Rhuthun ar Stryd Y Farchnad gyda Chyngor Sir Dinbych. Ac yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod CGGSDd yn un o enillwyr gwobrau llwyddiannus Cronfa Her yr Economi Sylfaenol i'n helpu ar ein taith menter gymdeithasol.
Meddai Helen Wilkinson, Prif Weithredwr CGGSDd: “Rydym yn gyffrous iawn i ddod â'r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn yn ôl yn fyw ar ôl ymddeoliad deiliaid y drwydded yn gynharach eleni. Mae hwn yn gyfle i ni helpu cefnogi twf economaidd cynhwysol yn Rhuthun a'r ardal gyfagos a darparu llwyfan i ymgysylltu â'r gymuned leol, crefftwyr, grwpiau gwirfoddol, Sefydliadau Trydydd Sector, mentrau cymdeithasol a busnesau lleol.”
Bydd Neuadd y Farchnad yn cael ei rhedeg fel Menter Gymdeithasol ac mae CGGSDd yn bwriadu cynnal marchnad reolaidd sy'n cynnwys gwneuthurwyr, crefftwyr, artistiaid, busnesau lleol a'r sector gwirfoddol a chymunedol. Bydd y lle hefyd ar gael i'w logi ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.
Eglurai Helen Wilkinson: “Rydyn ni eisiau gweithio gyda phobl leol a'u hysbrydoli wrth i ni fynd ar y siwrnai gyffrous hon. Rydyn ni'n edrych i ddatblygu ein cynlluniau mewn partneriaeth â phobl leol, felly rydyn ni'n cynllunio un neu ddau o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd cyn y Nadolig. Yna, yn y flwyddyn newydd, byddwn yn arbrofi syniadau, wrth i ni ofyn am fwy o fewnbwn gan y cyhoedd drwy ddigwyddiadau ymgysylltiad pellach. Y gobaith yw bydd Neuadd y Farchnad yn lansio'n ffurfiol yn y Gwanwyn.”
Mae’r sesiwn tanio syniadau cyntaf am Neuadd y Farchnad ar y gweill yn ystod y Gweithdy Cyd-dynnu i gydgynhyrchu y mae CGGSDd yn ei gynnal ddydd Llun nesaf 18fed Tachwedd yng Nghanolfan Naylor Leyland. Cadwch lygad ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook a LinkedIn) a dilynwch ein tudalen Eventbrite i gael gwybod am ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd yn y dyfodol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ac eisiau gwirfoddoli trwy gynnig eich amser neu sgiliau, cysylltwch â Mair, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli a Lles CGGSDd neu Gareth, Swyddog Cymorth #GwirfoddolwyrSirDdynbich, engagement@dvsc.co.uk neu ffoniwch 01824 702 441. Gwell byth bysa galw heibio i gwrdd â ni'n bersonol yng Nghanolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun rhwng 08.30yb a 4.00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall pobl hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau Drysau Agored - a gynhelir ar ddydd Gwener rhwng 1.00yp a 3.00yp yng Nghanolfan Naylor Leyland. Bydd cyfranogwyr Drysau Agored yn arddangos peth o'u gwaith yn un o'n digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd yn Neuadd y Farchnad cyn y Nadolig. Mae CGGSDd yn edrych ymlaen at groesawu pawb i'r adeilad gwych hwn ac i glywed barn pobl.
Gallwch weld cyfweliad Helen â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar ein Sianel YouTube.
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â CGGSDd
Cenhadaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yw adeiladu cymunedau cydnerth trwy weithrediad gwirfoddol, a menter gymdeithasol, darparu cefnogaeth ragorol i randdeiliaid, a
bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru.
Mae CGGSDDd yw'r corff aelodaeth ar gyfer gwirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol.
Mae CGGSDd yn gweithio'n agos gyda CGS Gogledd Cymru, ac mae'n aelod o'r rhwydwaith o’r CGS ledled Cymru sydd, mewn partneriaeth â Chyngor Cymdeithasau Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn ffurfio'r bartneriaeth sy'n rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Yn ogystal â chysylltu gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddoli â'i gilydd, mae CGGSDd yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr. Mae gwasanaethau cymorth sector CGGSDd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd cyllido perthnasol, cynigion hyfforddi ac arfer gorau llywodraethu.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd cyfleoedd cyllido ar gael, gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i'n rhestr bostio trwy ddilyn y ddolen - Tanysgrifiwch am Ddiweddariadau Newyddion a Bwletinau.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Helen Wilkinson, Prif Weithredwr DVSC, mailto: helenw@dvsc.co.uk, 01824 702 441 neu 07713 997 075 Neu Vanessa Van Lierde, Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu vanessa@dvsc.co.uk, 01824 709 321.
Dilynwch ni ar Twitter (@DVSC_Wales), Instagram (@dvsc_denbighshire) a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. I gael gwybod am ddigwyddiadau, dilynwch ein tudalen Eventbrite. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube & LinkedIn.
![endif]--![endif]--