Wellbeing News (37) - The Clinic, Ruthin – Re-location of Services and Re-development of Ruthin Hosp
Scroll down for Welsh
Below you can read the update on the re-development of Ruthin Hospital as presented during our Third Sector Stakeholder Network Meeting held on the 17th April 2019 at the Naylor Leyland Centre.
A new update will be presented at our Wellbeing Network Meeting on Wednesday 23rd October.
Representation
Representatives of the following organisations, attended:
BCUHB; BCUHB Stakeholder Group; Red Cross; Epilepsy Action Cymru; Macmillan; Carers Trust (North Wales) Dementia Services; Ruthin Hospital League of Friends; Nurses in the Community; Citizens Advice Bureau; Community Health Council; Integrated Autism; Vale of Clwyd Stroke Communication Support; Ruthin Town Council; Vale of Clwyd Mind; Denbighshire Social Services; North Wales Citizens Panel.
People with a specific interest in Chronic Pain, Parenting, Families and Children and Dental Services also attended.
Introduction
Representatives of third sector organisations were invited via DVSC and BCUHB Engagement Networks and social media and bilingual posters in various local public venues.
Light refreshments were provided and delegates worked around tables, with a BCUHB representative on each table to facilitate the discussion. Copies of the site plans were available for viewing.
The site plan now includes the potential to provide a dedicated space for Third Sector services as part of the Ruthin Hospital re-development.
The session aimed to gather the following information
What is happening in the Community currently?
Where is it happening?
How could we connect?
What are the opportunities at the new development?
What’s the extra value?
Who are the partners?
What do we need to take this forward?
Delegates were also offered the opportunity to record any further suggestions, or comments and other ideas, utilising Post-it notes on a flipchart.
Current Situation
A previous audit revealed that there are no Third Sector services presently provided at Ruthin Hospital, apart from the League of Friends Tea Bar. There is insufficient space for groups on site at the moment, or even for an information stand.
However, there are numerous active groups within the Ruthin area, although access to suitable venues can prohibit the development or expansion of local services.
Summary Feedback
Health and Wellbeing
The re-development provides an opportunity to promote health and wellbeing. Examples included the provision of oral health education, community champions and navigators, and public health messages, such as seasonal flu campaigns, and breast and bowel screening. Also working with initiatives such as the Farming Community Network (FCN), targeting both physical and mental health of the farming community, e.g, offering blood pressure checks and the opportunity for a supportive conversation about mental health.
There is also an opportunity to develop alternative therapies and arts and crafts working in partnership with existing organisations in the community, such as Vale of Clwyd Mind.
Groups
Groups such as dementia support, Vale of Clwyd Stroke Association and Chronic Pain Groups are provided in Denbigh, Mold or Connah’s Quay, but not currently in Ruthin, mainly due to a lack of suitable accommodation, which means that patients and families are travelling considerable distances. These groups are regularly attracting between 10 – 50 people.
There is a real demand for bookable rooms for informal support groups for patients and families, particularly carers and those with chronic mental and physical health conditions. British Red Cross, Crossroads, Carers Trust, Epilepsy Action Cymru, Chronic Pain, Macmillan, Stroke Association and Bereavement Support were all examples of groups looking for accessible venues to set up groups in the Ruthin area.
Access and Travel
Transport, especially from the villages and surrounding rural areas can also be a barrier to people accessing services.
Several organisations reflected that they are currently taking services out to patients own homes, because of a lack of suitable venues, but would prefer to provide services from a central site, where possible, which is more time-efficient and builds independence and reduces social isolation.
There is an opportunity to link with the Community Car Scheme, and the Open Doors group, has already made links with the Community Car Scheme in Corwen. Public transport is particularly important, and the proposed bus stop and footpath from Rhos Street is welcomed, although the preferred option is that the buses come onto the hospital site.
Working Together
This provides an opportunity to work more closely with the Community Resource Teams (CRTs), for Ruthin and surrounding area. The CRT provides care closer to home, and integrates Community Nursing, Therapies, Social Care, Mental Health and Primary Care. The CRT for Ruthin is located at County Hall.
The re-location of one of the GP practices from the Town Centre to the Hospital site, provides an opportunity for “wrap around services” and closer working between primary care and the Third Sector, for example, Macmillan has an education programme for Primary Care, which could be delivered to the GP Cluster, but could also provide specific support for GP trainees, based at the hospital site.
The event also provided the opportunity for representatives to find out about other services in their area, and how to work together. A common theme was that people and families are not “diagnosis specific”, e.g, families may be caring for a grandparent newly diagnosed with dementia, another family member undergoing treatment for cancer, and a child with epilepsy, all of which has an impact on the mental health and wellbeing of the entire family.
A common theme was that Third Sector groups could work more closely together, and with statutory services. For example, the Dementia Co-ordinator for the Carers Trust, visits patients referred by the Older People’s Memory Service with a recent diagnosis of dementia. However, sharing facilities with the Older People’s Memory Service in the re-development would enable the service liaise more closely with BCUHB services, see patients in a familiar setting in the hospital, and develop a hub within Ruthin.
With the expansion of the physiotherapy service in Ruthin Hospital, to include specialisms such as neuro-physiotherapy, there is an opportunity for organisations such as Epilepsy Action Cymru to facilitate neuro-rehabilitation groups to support patients and families in managing their condition and accessing information and support, the nearest groups are currently in Holywell and Abergele.
Denbighshire Voluntary Services Council (DVSC) is ideally placed to support organisations in their training and development and networking. DVSC holds a quarterly health and social care Network meeting in Ruthin.
Informal Contacts and One-to-One Working
Several organisations cited the need for a safe space for a one-to-one conversation with a patient or carer. For example, Macmillan would utilise space for a display stand on a regular basis, but would also welcome the accessible Tea Bar to provide an informal space for a “chat” with an individual who may be concerned about themselves or a family member.
The League of Friends Tea Bar is seen as essential to underpinning the Third Sector services on site, and in particular reducing social isolation and loneliness, providing a focal point for people attending the hospital for appointments themselves, or as a carer or visitor.
Information, Technology and Signposting
It was agreed that not all groups need to be located within the hospital – the re-development provides an opportunity to provide information about services and sign-posting to wider services and support within the community. Information should be available in a variety of formats, including leaflets, interactive screens and TV screens.
Online support via Social Media is increasingly important to people seeking information and peer support.
The re-development provides an opportunity to ensure that the site is “dementia friendly”, with improved signage and reception facilities.
Patients and visitors to the site need a single, accessible, clearly identified, reception point, with information and knowledge about all services on site, including peripatetic services, Third Sector groups and visiting specialists/outpatients.
One delegate asked if there would be a cash machine on site. Cash machines on hospital sites are provided by a private company, and need to be commercially viable.
Multi-Faith Provision, Spiritual and Bereavement Support
The inpatient ward has 27 beds, and provides palliative and end of life care for patients. Spiritual support is provided by local religious organisations, and visiting Ministers. There is no dedicated Chapel or Quiet Room on site for patients, families or staff. However, there are a number of small rooms that could be booked, or shared, such as the Relatives Room, close to the inpatient ward.
There is no dedicated Bereavement Support Service on site. The re-development provides an opportunity for organisations such as Cruse, to provide support to individuals and sign-post to other agencies providing longer term support on site or within the locality.
Next Steps
There was some concern that Community Dental Services (CDS), may not be available from a permanent site in Ruthin, and consideration needs to be given as to how patients from Ruthin access CDS services.
Further / ongoing engagement is needed, including attendance at events such as Ruthin Flower Show in August, and ongoing liaison with North Wales Community Health Council (CHC).
The next Wellbeing Network Meeting will be held on Wednesday 23 October 2019 at the DVSC Offices, Naylor Leyland Centre, Well Street, Ruthin LL15 1AF from 1.00pm – 4.00pm.
To confirm your attendance at the Network please follow the Eventbrite link: bit.ly/WellbeingNetworkOctober Alternatively contact Maisie, DVSC’s Marketing and Impact Assistant by emailing maisie@dvsc.co.uk or call her at 01824 709 321
In the meantime, if you wish to be informed of future events please follow our Eventbrite page and this will automatically notify you of upcoming events. Keep connected, and please spread the message about all the great work being done by DVSC, and its members to enhance individual and collective wellbeing in the County.
Best wishes
Y Clinig- Rhuthun- Ail-leoli Gwasanaethau ac Ailddatblygu Ysbyty Rhuthun
Isod gallwch ddarllen y diweddariad ar ailddatblygiad Ysbyty Rhuthun fel y'i cyflwynwyd yn ystod ein Cyfarfod Rhwydwaith Rhandaliad Trydydd Sector a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2019 yng Nghanolfan Naylor Leyland.
Bydd diweddariad newydd yn cael ei gyflwyno yn ein Cyfarfod Rhwydwaith Lles ddydd Mercher 23 Hydref.
Cynrychiolaeth
Bu i gynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol fynychu:
BIPBC; Grŵp Rhanddeiliaid BIPBC; y Groes Goch; Epilepsy Action Cymru; Macmillan; Gwasanaethau Dementia Carers Trust (Gogledd Cymru); Cyfeillion Ysbyty Rhuthun; Nyrsys yn y Gymuned; Canolfan Cyngor ar Bopeth; Cyngor Iechyd Cymru; Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig; Cefnogaeth Cyfathrebu Strôc Dyffryn Clwyd; Cyngor Tref Rhuthun; Mind Dyffryn Clwyd; Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych; Panel Dinasyddion Gogledd Cymru.
Bu i unigolion sydd â diddordeb arbennig mewn Gwasanaethau Poen Cronig, Rhianta, Teuluoedd a Phlant a Gwasanaethau Deintyddol fynychu hefyd.
Cyflwyniad
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o sefydliadau trydydd sector drwy Rwydweithiau Ymgysylltu BIPBC a DVSC, a'r cyfryngau cymdeithasol a phosteri dwyieithog mewn lleoliadau cyhoeddus lleol amrywiol.
Bu i luniaeth ysgafn gael ei ddarparu, a bu i'r rhai a oedd yn bresennol weithio o gwmpas byrddau, gyda chynrychiolydd o BIPBC ar bob bwrdd i hwyluso'r drafodaeth. Roedd copïau o gynlluniau'r safle ar gael i edrych arnynt.
Mae'r cynllun safle yn awr yn cynnwys y posibilrwydd i ddarparu lleoliad penodol ar gyfer gwasanaethau Trydydd Sector fel rhan o ailddatblygiad Ysbyty Rhuthun.
Bu i'r sesiwn anelu at gasglu'r wybodaeth ganlynol-
Beth sy'n digwydd yn y Gymuned ar hyn o bryd?
Ble mae'n digwydd?
Sut gallwn ni gysylltu?
Beth yw'r cyfleoedd yn y datblygiad newydd?
Beth yw'r gwerth ychwanegol?
Pwy yw'r partneriaid?
Beth ydym ei angen er mwyn datblygu hyn?
Cafodd y rhai a oedd yn bresennol y cyfle hefyd i gofnodi unrhyw awgrymiadau pellach, neu sylwadau a syniadau eraill, gan ddefnyddio'r nodiadau Post-it ar y siart troi.
Sefyllfa Bresennol
Fel y bu i archwiliad blaenorol ddatgelu, nid oes unrhyw wasanaethau Trydydd Sector yn cael eu darparu yn Ysbyty Rhuthun ar hyn o bryd, ar wahân i Bar Te Cyfeillion Ysbyty. Nid oes digon o le i grwpiau ar y safle ar hyn o bryd, nac hyd yn oed ar gyfer stondin gwybodaeth.
Er hynny, mae nifer o grwpiau gweithredol yn ardal Rhuthun, er y gall mynediad at leoliadau addas rwystro datblygiad gwasanaethau lleol, neu eu hehangu.
Crynodeb o'r Adborth
Iechyd a Lles
Mae'r ailddatblygiad yn darparu cyfle i hyrwyddo iechyd a lles. Mae enghreifftiau yn cynnwys darpariaeth addysg iechyd y geg, hyrwyddwyr a llyw-wyr cymuned, a negeseuon iechyd cyhoeddus, megis ymgyrchoedd ffliw tymhorol, a sgrinio'r fron a'r coluddyn. Hefyd, gweithio gyda mentrau megis Rhwydwaith Cymuned Ffermio (FCN), yn targedu iechyd meddwl a chorfforol y gymuned ffermio, e.e. cynnig profion pwysedd gwaed, a'r cyfle am sgwrs gefnogol am iechyd meddwl.
Mae cyfle hefyd i ddatblygu therapïau amgen a chelf a chrefft gan weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau presennol yn y gymuned, megis Mind Dyffryn Clwyd.
Grwpiau
Mae grwpiau megis cefnogaeth dementia, Cymdeithas Strôc Dyffryn Clwyd, a Grwpiau Poen Cronig yn cael eu darparu yn Ninbych, yr Wyddgrug neu Cei Connah, ond nid yn Rhuthun ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd diffyg lleoliad addas, sy'n golygu fod cleifion a theuluoedd yn teithi’n bell iawn. Mae'r grwpiau hyn yn denu rhwng 10- 50 o unigolion yn rheolaidd.
Mae gwir alw am ystafelloedd y mae modd eu llogi ar gyfer grwpiau cefnogi anffurfiol i gleifion a theuluoedd, yn enwedig gofalwyr a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol cronig. Roedd Y Groes Goch Brydeinig, Crossroads, Carers Trust, Epilepsy Action Cymru, Poen Cronig, Macmillan, Cymdeithas Strôc a Chefnogaeth mewn Profedigaeth yn enghreifftiau o grwpiau sy'n chwilio am leoliadau hygyrch i sefydlu grwpiau yn ardal Rhuthun.
Mynediad a Theithio
Gall cludiant, yn enwedig o'r pentrefi ac ardaloedd gwledig cyfagos fod yn rhwystr rhag unigolion gael mynediad at wasanaethau.
Bu i sawl sefydliad fyfyrio eu bod yn mynd â gwasanaethau i gartrefi cleifion ar hyn o bryd, oherwydd diffyg lleoliadau addas, ond y byddai'n well ganddynt ddarparu gwasanaethau o safle canolog, lle bo'n bosibl, sy'n fwy effeithlon o ran amser, ac yn adeiladu annibyniaeth ac yn lleihau unigedd cymdeithasol.
Mae cyfle i gydweithio gyda'r Cynllun Ceir Cymuned, ac mae'r grŵp Drysau Agored eisoes wedi gwneud cysylltiadau â'r Cynllun Ceir Cymuned yng Nghorwen. Mae cludiant cyhoeddus yn bwysig iawn, ac mae'r orsaf fysus a'r llwybr arfaethedig o Stryd Rhos yn cael eu croesawu, er mai'r opsiwn a ffafrir yw bod y bysus yn dod ar safle'r ysbyty.
Gweithio gyda'n Gilydd
Mae hyn yn rhoi'r cyfle i weithio'n fwy agos â'r Timau Adnoddau Cymuned, ar gyfer Rhuthun a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r CRT yn darparu gofal yn agosach at y cartref, ac yn integreiddio Nyrsio Cymuned, Therapïau, Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl a Gofal Cychwynnol. Mae'r CRT ar gyfer Rhuthun wedi'i leoli yn Neuadd y Sir.
Mae ail-leoli un o'r meddygfeydd o Ganolfan y Dref i safle'r ysbyty, yn darparu'r cyfle ar gyfer "gwasanaethau cofleidiol" a chydweithio agosach rhwng gofal cychwynnol a'r Trydydd Sector, er enghraifft, mae gan Macmillan raglen addysg ar gyfer Gofal Cychwynnol, a allai gael ei darparu i'r Clwstwr Meddygon Teulu, ond gallent hefyd ddarparu cefnogaeth benodol i Feddygon Teulu dan hyfforddiant hefyd, ar safle’r ysbyty.
Bu i'r digwyddiad ddarparu'r cyfle hefyd i gynrychiolwyr gael gwybodaeth am wasanaethau eraill yn eu hardal, a sut i weithio gyda'i gilydd. Thema gyffredin yw nad yw unigolion a theuluoedd yn "benodol o ran diagnosis". e.e. efallai y bydd teuluoedd yn gofalu am nain neu daid sydd newydd gael diagnosis o ddementia, aelod arall o'r teulu sy'n cael triniaeth ar gyfer canser, a phlentyn sydd ag epilepsi, gyda bob un ohonynt yn cael effaith ar iechyd meddwl a lles y teulu cyfan.
Thema gyffredin oedd y gallai grwpiau Trydydd Sector weithio'n agosach gyda'i gilydd, a gyda gwasanaethau statudol. Er enghraifft, mae'r Cydlynwyr Dementia ar gyfer Carers Trust, yn ymweld â chleifion a gyfeirir gan y Gwasanaeth Cof Pobl Hŷn sydd â diagnosis diweddar o ddementia. Er hynny, byddai rhannu cyfleusterau gyda'r Gwasanaeth Cof Pobl Hŷn yn yr ailddatblygiad yn galluogi'r gwasanaeth i weithio’n agosach gyda gwasanaethau BIPBC, i weld cleifion mewn lleoliad cyfarwydd yn yr ysbyty, a datblygu hwb yn Rhuthun.
Gyda'r gwasanaeth ffisiotherapi yn ehangu Ysbyty Rhuthun, i gynnwys arbenigeddau megis niwro-ffisiotherapi, mae cyfle i sefydliadau megis Epilepsy Action Cymru i hwyluso grwpiau niwro-adferiad i gefnogi cleifion a theuluoedd i reoli eu cyflwr, a chael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth, mae'r grwpiau agosaf ar hyn o bryd yn Nhreffynnon ac Abergele.
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych mewn lle delfrydol i gefnogi sefydliadau gyda'u hyfforddiant, a datblygiad a rhwydweithio. Mae DVSC yn cynnal cyfarfod Rhwydwaith
iechyd a gofal cymdeithasol chwarterol yn Rhuthun.
Cysylltiadau Anffurfiol a Gweithio Un i Un
Bu i sawl sefydliad nodi'r angen am leoliad diogel ar gyfer sgwrs un i un gyda chleifion neu ofalwyr. Er enghraifft, byddai Macmillan yn defnyddio'r lleoliad i roi stondin arddangos yn rheolaidd, ond byddent hefyd yn croesawu'r Bar Te hygyrch i ddarparu lle anffurfiol ar gyfer "sgwrs" gydag unigolion sydd o bosibl yn poeni amdanynt eu hunain neu aelod o'r teulu.
Mae Bar Te Cyfeillion Ysbyty yn cael ei ystyried yn hanfodol fel sylfaen i'r gwasanaethau Trydydd Sector ar y safle, ac yn enwedig i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gan ddarparu canolbwynt i unigolion sy'n dod i apwyntiadau ysbyty ar eu pen eu hunain, neu fel gofalwr neu ymwelydd.
Gwybodaeth, Technoleg a Chyfeirio
Cytunwyd nad oes angen i bob grŵp gael ei leoli yn yr ysbyty- mae'r ailddatblygiad yn darparu cyfle i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfeirio at wasanaethau ehangach a chefnogaeth yn y gymuned. Dylai'r wybodaeth fod ar gael mewn sawl fformat, yn cynnwys taflenni, sgriniau rhyngweithiol a sgriniau teledu.
Mae cefnogaeth ar-lein drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol yn gynyddol bwysig i unigolion sydd eisiau gwybodaeth a chymorth i gymheiriaid.
Mae'r ailddatblygiad yn darparu cyfle i sicrhau bod y safle yn "gyfeillgar o ran dementia", gyda gwell arwyddion a chyfleusterau derbynfa.
Mae cleifion ac ymwelwyr i'r safle angen derbynfa hygyrch, sydd wedi'i dynodi’n glir, gyda gwybodaeth am yr holl wasanaethau ar y safle, yn cynnwys gwasanaethau peripatetig, grwpiau Trydydd Sector ac arbenigwyr/cleifion allanol sy'n ymweld.
Gofynnodd un oedd yn bresennol a fyddai peiriant twll yn y wal ar y safle. Mae peiriannau twll yn y wal yn cael eu darparu gan gwmni preifat, a bydd angen iddynt fod yn fasnachol hyfyw.
Darpariaeth Aml-grefydd, Cefnogaeth Ysbrydol ac mewn Profedigaeth
Mae gan y ward cleifion mewnol 27 gwely, ac mae’n darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes i gleifion. Mae cefnogaeth ysbrydol yn cael ei darparu gan sefydliadau crefyddol lleol, a Gweinidogion sy'n ymweld. Nid oes Capel nac Ystafell Ddistaw benodol ar y safle i gleifion, teuluoedd na staff. Er hynny, mae nifer o ystafelloedd bach y gellir eu llogi, neu eu rhannu, megis yr Ystafell i Berthnasau, yn agos at y ward cleifion mewnol.
Nid oes Gwasanaeth Cefnogaeth Profedigaeth penodol ar y safle. Mae'r ailddatblygiad yn rhoi cyfle i sefydliadau megis Cruse, ddarparu cefnogaeth i unigolion, a chyfeirio at asiantaethau eraill gan ddarparu cefnogaeth yn y tymor hir ar y safle neu yn yr ardal leol.
Camau Nesaf
Roedd ychydig o bryder na fyddai Gwasanaethau Deintyddol Cymuned (CDS), o bosibl ar gael o safle parhaol yn Rhuthun, ac mae angen ystyried sut mae cleifion o Ruthun yn cael mynediad at wasanaethau CDS.
Mae angen ymgysylltu ymhellach / yn barhaus, yn cynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau megis Sioe Flodau Rhuthun ym mis Awst, a chysylltu'n barhaus â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Llesiant ar Ddydd Mercher 23 Hydref 2019, 1pm – 4pm, yn Swyddfeydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun LL15 1AF.
Er mwyn cadarnhau eich presenoldeb yn y cyfarfod Rhwydwaith dilynwch y ddolen Eventbrite: bit.ly/WellbeingNetworkOctober
Neu gysylltu gydag: Maisie Bentley, Cynorthwyydd Marchnata ac Effaith CGGSDd trwy anfon e-bost i maisie@dvsc.co.uk neu ffonio 01824 709 321.
Yn y cyfamser,os yn dymuno cael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol dilynwch ein tudalen Eventbrite a bydd hyn yn eich hysbysu yn awtomatig am ddigwyddiadau sydd ar ddod. Cadwch mewn cysylltiad a lledaenwch y neges am y gwaith rhagorol sy’n cael ei gwneud gan CGGSDd a’i aelodau i well llesiant unigolion a’r gymuned yn y sir.
Dymuniadau gorau