Sector Support (40) - Cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd Community Benefit Fund
Scroll down for English
Beth yw Cronfa Budd Brenig Wind Ltd?
Mae Cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd yn gronfa 25 mlynedd er budd y cymunedau yn ac o amgylch Fferm Wynt Brenig. Mae’r fferm wynt wedi’i lleoli yn ardal Cyngor Cymunedol Nantglyn a ward etholiadol Llanrhaeadr yng Nghinmeirch yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae’r gronfa wedi’i sefydlu gan ddatblygwyr y fferm wynt, Brenig Wind Limited.
Mae’r datblygwyr, Brenig Wind LImited, wedi gosod 16 tyrbin a phob un ohonynt yn 2.35MW, a fydd yn darparu cyfanswm capasiti o 37.6MW ac mae’n ymrwymedig i dalu cronfa budd cymunedol o £3000/MW â chyswllt i’r Mynegai Prisiau Manwerthu
o fis Ebrill 2009.
Daeth Brenig Wind Limited yn weithredol ar 30ain Mawrth 2019 a bydd y gronfa flynyddol yn dechrau ar tua £4055/MW, sy’n gyfwerth â £152,468 y flwyddyn am hyd at 25 mlynedd. Bydd y gronfa’n cael ei dosbarthu i gymunedau a chyrff lleol at ddibenion amgylcheddol, economaidd gymdeithasol ac addysgol. Bydd y gronfa ar gael o 2019 ymlaen.
Comisiynwyd Cadwyn Clwyd gan Brenig Wind Limited i gynnal ymgynghoriad cymunedol, i sefydlu a gweinyddu Cronfa Budd Cymunedol ar gyfer Brenig Wind Ltd. Diben y gronfa budd cymunedol yw darparu buddiannau i’r cymunedau sy’n cynnal ac sy’n byw gyda, ac o amgylch y fferm wynt.
Mae dau categori grant ar gael:
grantiau bychain o hyd at £10,000, a
grantiau mawr o £10,000 i £50,000.
Pa fath o brosiect y gellir ei ariannu?
Mae blaenoriaethau’r gronfa yn rhesymol eang ac yn adlewyrchu’r meysydd a restrir isod:
Trafnidiaeth gymunedol
Mynediad at wasanaeth
Cefnogaeth i weithgareddau cymdeithasol cymunedol
Cynhwysiant Digidol (e.e. band eang, cwmpas ffonau symudol)
Mynediad at gyflogaeth (e.e. drwy weithio gartref neu gysylltiadau trafnidiaeth gwell)
Datblygu a chefnogi mentrau cymdeithasol (e.e. siop gymunedol, tafarn gymunedol) ar yr amod eu bod yn cael eu cynnal ar sail ddielw
Datblygu a chefnogi partneriaethau busnes lleol (e.e. grwpiau twristiaeth, grwpiau amaethyddol, cynhyrchwyr bwyd lleol) ar yr amod y gallant arddangos budd clir i’r gymuned ehangach
Cynnal a gwella amgylchedd naturiol yr ardal er budd y gymuned
Cynnal a gwella ansawdd amgylchedd adeiledig yr ardal (gan gynnwys treftadaeth)
Cefnogi a datblygu'r sector twristiaeth / hamdden lleol
Cefnogi mentrau’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
Cefnogi ynni adnewyddadwy ar raddfa fach wedi’i arwain gan y gymuned yn yr ardal
Prosiectau ynni effeithlon sydd o fudd i’r gymuned ehangach
Prosiectau ysgol e.e. clybiau ar ôl ysgol, gweithgareddau chwaraeon ac yn y blaen.
Yr Ardal o Fudd
Bydd yr ardal o fudd yn canolbwyntio ar y rhai sydd agosaf at y safle a’r cymunedau gwledig hynny sydd agosaf i’r safle ddylai fod y prif fuddiolwyr. Bydd cymunedau o fewn radiws o 10 cilomedr o Fferm Wynt Brenig yn ffurfio’r ardal o fudd. Gallai prosiectau yn ardal allanol y radiws o 15 cilomedr gael eu cefnogi, fodd bynnag, byddai angen i’r rhai yn y radiws allanol allu dangos yn glir sut y gallant fod o fudd yn yr ardal fewnol.
Bydd angen i’ch cais ddangos sut mae eich prosiect yn creu budd arwyddocaol i gymunedau yn yr ardal o fudd ar gyfer y gronfa sy’n radiws o 10 cilomedr o’r safle.
Dadlwythwch y ffurflenni cais am grantiau bach a grantiau mawr.
Dylid anfon ceisiadau grant wedi’u cwblhau at brenig@cadwynclwyd.co.uk erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 11eg Tachwedd 2019.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Sector CGGSDd, Nia Baker ar sectorsupport@dvsc.co.uk neu ffoniwch 01824 702441 neu cysylltwch â Cadwyn Clwyd drwy’r e-bost brenig@cadwynclwyd.co.uk.
Angen cefnogaeth gyda Chyllid neu Lywodraethu? Gallwn ni helpu, cysylltwch â sectorsupport@dvsc.co.uk neu ffoniwch 01824 702441. Allwch hefyd edrych ar yr ystod o daflenni gwybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael ar ein gwefan.
What is the Brenig Wind Ltd. Community Benefit Fund?
Brenig Wind Ltd. Community Benefit Fund is a 25-year fund for the benefit of communities in and around the Brenig Windfarm. The windfarm is located in the Community Council area of Nantglyn and the electoral ward of Llanrhaeadr
yng Nghinmeirch within Denbighshire County Council. The fund has been set up by the windfarm developers, Brenig Wind Limited.
The developers, Brenig Wind Limited have installed 16 turbines each of 2.35MW, giving a total installed capacity of 37.6MW and is committed to paying a community benefit fund of £3000/MW index linked to RPI from April 2009.
Brenig Windfarm became operational on 30th March 2019 and the annual fund will start at about £4055/MW, which equates to £152,468 per annum in total for up to 25 years. The fund is to be distributed to local communities and bodies for environmental, socio-economic and educational purposes. The fund will be available from 2019 onwards.
Cadwyn Clwyd has been commissioned by Brenig Wind Limited to undertake community consultation, to set up and administer the Community Benefit Fund for Brenig Wind Ltd. The purpose of the community benefit fund is intended to provide benefits to the communities hosting and living with and around the windfarm.
There are two grant categories available:
a small grant of up to £10,000, and
a large grant of £10,000 to £50,000.
What type of project can be funded?
The priorities of the fund are reasonably broad and reflect the areas listed below:
Community transport
Access to services
Support for community social activities
Digital Inclusion (e.g. broadband, mobile coverage)
Access to employment (e.g. through working from home or better transport links)
Developing and supporting social enterprises (e.g. community shop, community pub) provided they are run not for profit
Developing and supporting local business partnerships (e.g. tourism groups, agriculture groups, local food producers) provided they can demonstrate a clear benefit to the wider community
Maintain and improve the area’s natural environment for community benefit
Maintain and improve the quality of the area’s built environment (including heritage)
Support and develop the local tourism / recreation sector
Support for Welsh language and culture initiatives
Support for community-led small-scale renewable energy in the area
Energy efficiency projects which benefit the wider community
School projects e.g. after school clubs, sport activities etc
The Area of benefit
The area of benefit will focus around those closest to the site with those rural communities which are closest to the site should be the primary beneficiaries. Communities within 10km radius from Brenig Windfarm will form the area of benefit. Projects in the outer area of 15km radius may be supported, however those in the outer radius would be required to clearly demonstrate how they can benefit communities in the inner area.
Download the application forms for small grants and large grants.
Completed grant applications should be sent to brenig@cadwynclwyd.co.uk by the closing date of Monday 11th November 2019.
For more information contact DVSC Sector Development Officer, Nia Baker, at sectorsupport@dvsc.co.uk or by phoning 01824 702441 or contact Cadwyn Clwyd by emailing brenig@cadwynclwyd.co.uk.
Need some support with Funding or Governance? We can help, just contact sectorsupport@dvsc.co.uk or call 01824 702441 or take a look at the range of useful information sheets available on our website.
![endif]--