Wellbeing News (36) - Guest Blog by Sally Baxter (BCUHB): Working together better
Scroll down for Welsh
Over recent months, I’ve been to a number of different discussions with people working within the third sector across North Wales about how we in the Health Board can work better together with you. There are lots of areas of good practice but I’ve also heard about needing to improve what we do and how we do it. The reason why we need to improve? So we can provide better support for people and enable them to live healthier and stay well as far as possible.
On 26th June I was able to spend the afternoon with people from the third sector in Denbighshire, at the DVSC offices in Ruthin. It was amazing to see such a great turn out – there were around 80 people in the room, all prepared to give their time and share their experiences. There were so many good ideas, and complete honesty about where things work well – and where they don’t. The notes of the meeting are being shared by DVSC so you can see all the comments that we captured. What came through strongly, and was consistent with feedback in other areas, was the need for anything we do to be underpinned by some simple but important behaviours – including respect, honesty and trust.
From all the feedback we’re revising the principles which we plan to adopt as a Health Board, and will develop a series of actions to help ensure these are in place. The principles are set out below – if you have views or comments on these, we’d very much welcome your feedback – and also any suggestions as to what we can do to embed the principles. Thank you everyone – I look forward to meeting with you again and seeing what progress we make together.
We will work together to raise awareness and recognition of the role of the sector throughout the Health Board
We will acknowledge representatives of the sector as equal partners in delivering our shared responsibilities to improve well-being and provide care and support
We will ensure open and clear communication, from the operational level to support seamless care and support, up to and including Board level
We will promote collaboration with and within the sector, ensuring effective working through formal partnerships, but also at the frontline in service delivery
We will work to embed co-production in the planning, development and delivery of services, both with the sector and with communities they represent
We will develop the commissioning function with the sector, establishing a commissioning forum to work with health economies in managing the current commissioned services and seeking to identify opportunities for further development
We will work to ensure fair funding processes which recognise the need for clarity in respect of sustainability and stability, but also that commissioned services must continue to address priorities and deliver outcomes
We will work together to agree outcome measures which reflect the need to consider the contribution to social value
We will ensure transparency of accountability and governance, both in commissioning of services from the sector and also in terms of decision-making within the Board.
Sally Baxter, Assistant Director of Health Strategy from BCUHB
The next Wellbeing Network Meeting will be held on Wednesday 23 October 2019 at the DVSC Offices, Naylor Leyland Centre, Well Street, Ruthin LL15 1AF from 1.00pm – 4.00pm.
To confirm your attendance at the Network please follow the Eventbrite link: bit.ly/WellbeingNetworkOctober Alternatively contact Maisie, DVSC’s Marketing and Impact Assistant by emailing maisie@dvsc.co.uk or call her at 01824 709 321
In the meantime, if you wish to be informed of future events please follow our Eventbrite page and this will automatically notify you of upcoming events. Keep connected, and please spread the message about all the great work being done by DVSC, and its members to enhance individual and collective wellbeing in the County.
Best wishes
Blog Gwadd gan Sally Baxter (BIPBC): Cydweithio yn Well
Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod i nifer o drafodaethau gwahanol gyda phobl sy'n gweithio yn y trydydd sector ar draws Gogledd Cymru am sut gallwn ni yn y Bwrdd Iechyd gydweithio'n well â chi. Mae llawer o feysydd arfer da ond rwyf hefyd wedi clywed am yr angen i wella'r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Y rheswm pam fod angen i ni wella? Fel y gallwn ddarparu gwell cefnogaeth i bobl a'u galluogi iddynt fyw yn iachach ac aros yn iach cyn belled â phosibl.
Ar 26 Mehefin treuliais y prynhawn gyda phobl o fewn y trydydd sector yn Sir Ddinbych yn swyddfeydd DVSC yn Rhuthun. Roedd yn braf gweld cymaint o bobl yno – roedd oddeutu 80 o bobl yn yr ystafell, ac roedd pob un yn barod i roi eu hamser a rhannu eu profiadau. Roedd cymaint o syniadau da, a gonestrwydd llwyr ynghylch ble roedd pethau’n gweithio’n dda – a ble nad ydynt. Mae nodiadau’r cyfarfod yn cael eu rhannu gan DVSC fel y gallwch weld yr holl sylwadau a nodwyd. Yr hyn oedd yn gryf, ac oedd yn gyson ag adborth mewn meysydd eraill, oedd yr angen i unrhyw beth rydym yn ei wneud i gael ei danategu gan ymddygiad syml ond pwysig – gan gynnwys parch, gonestrwydd ac ymddiriedaeth.
O'r holl adborth, rydym yn adolygu'r egwyddorion yr ydym yn bwriadu eu mabwysiadu fel Bwrdd Iechyd, a byddwn yn datblygu cyfres o gamau gweithredu er mwyn sicrhau bod y rhain yn eu lle. Amlinellir yr egwyddorion isod - os oes gennych farn neu sylwadau ar y rhain, byddwn yn croesawu eich adborth - a hefyd unrhyw sylwadau o ran beth allwn ni ei wneud i ymgorffori'r egwyddorion. Diolch i bawb - Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod eto ac i weld pa gynnydd rydym yn ei wneud gyda'n gilydd.
Byddwn yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth a chydnabod rôl y sector drwy'r Bwrdd Iechyd.
Byddwn yn cydnabod cynrychiolwyr o'r sector fel partneriaid cyfartal wrth ddarparu ein cyfrifoldebau a rennir i wella lles a darparu gofal a chefnogaeth.
Byddwn yn sicrhau cyfathrebu agored a chlir o’r lefel weithredol i gefnogi gofal a chefnogaeth ddi-dor hyd at a gan gynnwys lefel Bwrdd.
Byddwn yn hybu cydweithio gyda'r sector ac yn y sector gan sicrhau gweithio drwy bartneriaethau ffurfiol yn effeithiol, ond hefyd ar flaen darpariaeth gwasanaeth.
Byddwn yn gweithio tuag at ymgorffori cyd-gynhyrchu wrth gynllunio gwasanaethau, eu datblygu a'u darparu, gyda'r sector a chymunedau maent yn eu cynrychioli.
Byddwn yn datblygu swyddogaeth comisiynu gyda'r sector, sefydlu fforwm comisiynu i weithio gydag economïau iechyd wrth reoli'r gwasanaethau cyfredol sy'n cael eu comisiynu a cheisio dynodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad pellach.
Byddwn yn ceisio sicrhau prosesau ariannu teg sy'n cydnabod yr angen am eglurder o ran cynaliadwyedd a sefydlogrwydd, ond hefyd rhaid i wasanaethau sydd wedi'u comisiynu barhau i ymdrin â blaenoriaethau a chyflawni canlyniadau.
Byddwn yn cydweithio i gytuno ar fesurau canlyniad a fydd yn adlewyrchu'r angen i ystyried y cyfraniad at werth cymdeithasol
Byddwn yn sicrhau tryloywder atebolrwydd a llywodraethu, o ran comisiynu gwasanaethau o'r sector a hefyd o ran penderfyniadau o fewn y Bwrdd.
Sally Baxter, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth Iechyd o BIPBC
Cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Llesiant ar Ddydd Mercher 23 Hydref 2019, 1pm – 4pm, yn Swyddfeydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun LL15 1AF.
Er mwyn cadarnhau eich presenoldeb yn y cyfarfod Rhwydwaith dilynwch y ddolen Eventbrite: bit.ly/WellbeingNetworkOctober
Neu gysylltu gydag: Maisie Bentley, Cynorthwyydd Marchnata ac Effaith CGGSDd trwy anfon e-bost i maisie@dvsc.co.uk neu ffonio 01824 709 321.
Yn y cyfamser,os yn dymuno cael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol dilynwch ein tudalen Eventbrite a bydd hyn yn eich hysbysu yn awtomatig am ddigwyddiadau sydd ar ddod. Cadwch mewn cysylltiad a lledaenwch y neges am y gwaith rhagorol sy’n cael ei gwneud gan CGGSDd a’i aelodau i well llesiant unigolion a’r gymuned yn y sir.
Dymuniadau gorau