Sector Support (38) - My first 6 weeks - Fy 6 wythnos gyntaf
The honeymoon period is over and I’m in full swing at DVSC!
Where did I come from? . . . Well I’m a local through and through. I grew up in Denbigh and now live near Ruthin. Before coming to DVSC I was working with Natural Resources Wales as a Conservation Officer. My role involved working alongside landowners of designated sites in Meirionnydd. In my spare time I volunteer with the Friends of the Earth Ruthin Group of which I’m one of the founding members. We grew from nothing and have become a group of individuals dedicated to improving the local environment and bringing about change in my local community.
Then in June I had a baptism into working in the Third Sector!
My official role with DVSC is Sector Development Officer. My brief is to support and develop the sector – voluntary and community groups like the one I am personally involved in, third sector organisations and social enterprises.
My focus is Learning & Development, Governance & Funding Enquiries, Grant Distribution, and Social Enterprise; influencing and engaging our members and partners in these important areas.
I’m based in the Naylor Leyland Centre in Ruthin and I’ve already felt a difference working in my own home town. Walking around town during lunch I’ll often see friends and neighbours, it’s really made me feel like a part of the community once again, something I really missed while commuting to Dolgellau.
I’m sat in reception here which is ideal for the general enquiries service that I help to provide. Lots of our clients come in asking for governance advice, from how to set up a charity to how to become a sustainable business. I have also supported people with finding funding sources and given advice on supporting volunteers.
In my first day here I was lucky to have the opportunity to jump onto the Supporting Volunteers course that ran here for 5 days spread over 6 weeks. It was a course that DVSC facilitated in partnership with Adult Learning Wales and run by Scott Jenkinson at 4:28 Training.
It was a brilliant course, I would recommend it to anyone, and I do . . . If you want to know more, I’ll be blogging about it soon, so look out for that! It was so successful in fact, we’ve decided to run it again in September The course is 5 days, 9:30-3:00 on the 2nd, 9th, 16th and 30th of September and the 7th of October at DVSC, Naylor Leyland Centre, Well St, Ruthin LL15 1AF. You’ll get an NCFE Level 2 qualification at the end of the 5 weeks and you can book your FREE place here.
I love the variety that this job offers and seeing all the incredible things that are happening in the Third Sector in Denbighshire and all across Wales.
One of my many areas of work here is to act as the office Welsh Language Champion.
I joined DVSC as Helen, our Chief Executive, was reviewing and refreshing DVSC’s Welsh Language Statement and Action Plan for the third year running. Helen asked me if I would be willing to step up and be our critical friend and hold all team members at all levels to account for our Welsh Language Statement and Action Plan as we strive to offer an inclusive bilingual service. (I like to think of it as a bit of a Welsh Mascot, cheering on for the language 😊)
I’ve worked with Helen to review, and strengthen our Welsh Language Statement and Action Plan, and met with the Welsh Language Commissioner’s Office for their input; which DVSC has done for the last 3 years. The feedback from them has been really encouraging so far and I’m looking forward to making DVSC a really good example of how a bilingual workplace looks like.
A little taste of the other things I’ve been doing . . .
- Small Charities Week Promotion
- Big Advice Drop-in
- Youth Volunteer Advisor Network
- Gwynt y Mor Grant Panel
- Enterprising Solutions
- Three grant rounds - Welsh Churches Act Fund, Dementia Aware Community Led Grant and Youth Led Grant (which is still open so get your applications in!)
. . . to name but a few!
Looking ahead I’ll be attending the National Eisteddfod with the other CVC’s in North Wales. If you’re about, come over and say hello! The week after that I’ll be at our Summer Funding Fair on the 14th of August, don’t forget to book your place, or give us a call on 01824 702441.
By the end of the month I’ll also be a fully-fledged Dementia Champion and I can begin planning a future Dementia Friends session through the medium of Welsh as part of our #DementiaAware Community Led Programme. .
The team here has been so welcoming and I’m very lucky to be working with such a dedicated and lovely group of people. My first 6 weeks at DVSC have flown by, yet I feel as if I’ve been here for years!
If you’d like to know more about any of the services we provide, or you’d just like to say hello, please don’t hesitate to get in touch. Our number is 01824 702441 or email me at nia@dvsc.co.uk.
I’ll be sending out the Sector Support Bulletin very soon, have a look there to see what else we have going on.
In the meantime, the best way to find out the latest news is to follow us on Social media. You can find us on Twitter @DVSC_Wales, Instagram @DVSC_Denbighshire and our DVSC Denbighshire Facebook page.
Wedi setlo mewn a dysgu anghenion y swydd, dwi rŵan yn barod i gymryd yr awenau!
Beth yw fy nghefndir i? . . . Wel, merch leol ydw i, wedi magu yn Ninbych ac yn byw ger Rhuthun erbyn hyn. Cyn dod i CGGSDd roeddwn yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru fel Swyddog Cadwraeth. Roedd fy rôl yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â thirfeddianwyr o safleoedd dynodedig ym Meirionnydd. Yn fy amser hamdden rwy'n gwirfoddoli gyda Grŵp Cyfeillion y Ddaear Rhuthun; grŵp lle oeddem ni’n un o’r aelodau gwreiddiol. Fe wnaethom ni dyfu o ddim ac rydym wedi dod yn grŵp o unigolion sy'n ymroddedig i wella'r amgylchedd lleol a chreu newid yn ein cymuned.
Yna ym mis Mehefin i’n nghyflwyno i waith yn y Trydydd Sector!
Fy rôl swyddogol gyda CGGSDd yw'r Swyddog Datblygu Sector. Fy mriff yw cefnogi a datblygu'r sector - grwpiau gwirfoddol a chymunedol (yn debyg i’r un dwi’n rhan o yn Rhuthun), sefydliadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol.
Fy ffocws yw Dysgu a Datblygu, Ymchwiliadau Llywodraethu ac Ariannu, Dosbarthu Grantiau, a Menter Gymdeithasol; dylanwadu ar ein haelodau a'n bartneriaid a'u cynnwys yn y meysydd pwysig hyn.
Rwyf wedi lleoli yng Nghanolfan Naylor Leyland yn Rhuthun ac rwyf wedi teimlo gwahaniaeth eithriadol yn gweithio yn fy nghymuned leol. Cerdded o gwmpas y dref yn ystod cinio, byddaf yn aml yn gweld ffrindiau a chymdogion, a dwi’n teimlo fel rhan o’r gymuned unwaith eto, rhywbeth roeddwn i wedi'i golli wrth gymudo i Ddolgellau.
Rwy’n eistedd yn y dderbynfa fan hon, sy'n ddelfrydol ar gyfer y gwasanaeth ymholiadau cyffredinol yr wyf yn helpu i'w ddarparu. Mae llawer o'n cleientiaid yn dod i ofyn am gyngor llywodraethu, o sut i sefydlu elusen i sut i ddod yn fusnes cynaliadwy. Rwyf hefyd wedi cefnogi pobl i ddod o hyd i ffynonellau cyllid ac wedi rhoi cyngor ar gefnogi gwirfoddolwyr.
Yn fy niwrnod cyntaf yma roeddwn i'n ffodus o gael y cyfle i neidio ar y cwrs Cefnogi Gwirfoddolwyr a redodd yma am 5 diwrnod wedi ei ledaenu dros 6 wythnos. Cwrs yr oedd CGGSDd yn ei hwyluso mewn partneriaeth ag Dysgu Oedolion Cymru a'i redeg gan Scott Jenkinson o 4:28 Training.
Roedd y cwrs yn wych, byddwn yn ei argymell i unrhyw un, fel dwi’n gwneud i lot o bobl . . . Os hoffech wybod mwy, byddaf yn blogio amdano'n fuan, felly cadwch lygad am hynny! Roedd mor llwyddiannus mewn gwirionedd, rydym wedi penderfynu ei gynnal eto ym mis Medi. Mae'r cwrs yn 5 diwrnod, 9:30-3:00 ar yr 2il, 9fed, 16eg a 30ain o Fedi a'r 7fed o Hydref yn CGGSDd, Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun LL15 1AF. Byddwch yn cael cymhwyster NCFE Lefel 2 ar ddiwedd y 5 wythnos a gallwch archebu eich lle AM DDIM yma.
Rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth mae'r swydd hon yn ei gynnig ac i weld yr holl bethau anhygoel sy'n digwydd yn y Trydydd Sector yn Sir Ddinbych a phob rhan o Gymru.
Un o nifer o’m meysydd gwaith yma yw gweithredu fel Hyrwyddwr Iaith Gymraeg y swyddfa.
Ymunais â CGGSDd pan roedd Helen, ein Prif Weithredwr, yn adolygu ac adnewyddu Datganiad a Chynllun Gweithredu'r Iaith Gymraeg CGGSDd am y drydedd flwyddyn. Gofynnodd Helen a fyddwn i'n barod i fod yn gyfaill beirniadol a gwneud pob aelod o’r tîm yn atebol i’n Datganiad a Chynllun Gweithredu'r Iaith Gymraeg wrth i ni geisio gwella ein cynnig gwasanaeth dwyieithog cynhwysol. (Hoffwn feddwl amdanaf fy hun fel tipyn o Fasgot Cymreig, yn hyrwyddo'r iaith 😊)
Rwyf wedi gweithio gyda Helen i adolygu, a chryfhau ein Datganiad a Chynllun Gweithredu’r Iaith Gymraeg, a chwrdd â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am eu mewnbwn; fel y mae CGGSDd wedi gwneud am y 3 blynedd diwethaf. Mae'r adborth ganddynt wedi bod yn bositif iawn hyd yn hyn ac rwy'n edrych ymlaen at wneud CGGSDd yn enghraifft dda o sut mae gweithle dwyieithog yn edrych.
Ychydig o flas o'r pethau eraill rydw i wedi bod yn eu gwneud. . .
- Hyrwyddo Wythnos Elusennau Bach
- Sesiwn Galw Heibio Cyngor Mawr
- Rhwydwaith Cynghorwyr Gwirfoddolwyr Ifanc
- Panel Grant Gwynt y Môr
- Datrysiadau Mentrus
- Tair rownd grant - Cronfa Deddf Eglwysi Cymru, Grantiau Gymunedau Dementia Ymwybodol a Grant Dan Arweiniad Pobl Ifanc (sydd ar agor ar hyn o bryd felly rhowch eich cais i mewn!)
. . . i enwi ychydig!
Yn edrych i’r dyfodol byddaf yn eistedd ar stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol eraill yng Ngogledd Cymru. Os ydych chi o gwmpas, dewch draw a dweud s’mai! Yr wythnos ar ôl hynny byddaf yn ein Ffair Ariannu Haf ar 14eg o fis Awst, peidiwch ag anghofio archebu eich lle, neu ffoniwch y swyddfa ar 01824 702441.
Erbyn diwedd y mis byddaf hefyd yn Hyrwyddwr Dementia ac fe alla i ddechrau cynllunio sesiwn Cyfeillion Dementia trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o'n Rhaglen Dan Arweiniad Cymunedol #DementiaAware.
Mae'r tîm yma wedi bod mor groesawgar ag rwy'n ffodus iawn o fod yn gweithio gyda grŵp o bobl mor ymroddgar a garedig. Mae fy 6 wythnos gyntaf yn CGGSDd wedi hedfan heibio, ond eto rwy'n teimlo mod i wedi bod yma am flynyddoedd!
Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r gwasanaethau a ddarparwn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Ein rhif yw 01824 702441 neu anfonwch e-bost ataf yn nia@dvsc.co.uk.
Byddaf yn anfon y Bwletin Cymorth Sector allan yn fuan iawn, edrychwch yno i weld beth arall yr ydym yn ei wneud.
Yn y cyfamser, y ffordd orau i ddarganfod y newyddion diweddaraf yw ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddod o hyd i ni ar Twitter @DVSC_Wales, Instagram @DVSC_Denbighshire a'n tudalen Facebook CGGSDd.