top of page
Recent Posts

Wellbeing Network - 19th June 2019 - News Update


Thanks to all who attended the Denbighshire Wellbeing Network on 20th June 2019. All presentations, information and website links from the meeting are available here:

Talking Points

The Network is an open meeting for third sector organisations, Denbighshire County Council, other public sector organisations and Betsi Cadwaladr University Health Board to share information on local, regional and national initiatives. It provides an opportunity to raise issues and explore opportunities for joint working and meaningful collaborations.

At the start of the meeting, Julie Pierce, Wellbeing Lead introduced herself as the new Chair of the Wellbeing Network and then proceeded with introductions, which included a few new faces who are always very welcome.

Presentations

Sian Jones, Community Resource Team Coordinator for Ruthin and Corwen gave a presentation on ‘Modernising Social Services’. This included the following key points: -

  • Key aim - to offer patients the opportunity for independent living

  • CRT wants to become more diverse and available to all

  • CRT plans to establish integrated teams across Denbighshire that will work closely with GP practices

  • The teams will be made up of district nurses, community nurses, and occupational therapists to deliver services together

  • Objectives of the service – to have integrated health, wellbeing and social care

Sian finished the presentation with what their next steps will be: -

  • Joint working

  • Communication to be more effective

  • Welcome new ideas

  • Embrace change

  • Maintain the individual’s independence – keep at home

Rod Waterfield – The Woodlands Skills Centre

Rod started his presentation by describing the Woodlands Skills Centre as being run by the community not for profit and that their strapline is ‘Who don’t we see?

Rod went on to discuss that they welcome families, children and children/adults with additional needs. They receive referrals from Mind and from families of children who are not in full time education or that need some stability. Rod explained that when attending the centre, it is a place where you are not told what to do, people are free to roam the woodlands, create something and gain something worthwhile.

Courses and events currently on offer include: -

  • Familiy Days

  • Family Weekends in the woods

  • Family Weed in the woods

  • Mindfulness in the woods

  • Environmental courses for schools

  • Team building events

Celia Lewis – Conwy Connect

Celia introduced Connect Buddies – Connect Buddies buddy up volunteers with individuals that have a learning disability to go to events with them sucha s the theatre, pubs, clubs and music gigs. The project is currently looking for volunteers, if have a few hours a month to spare please follow this link for further information.

As part of the ongoing joint commitment of the Wellbeing Network for everyone to take responsibility for keeping informed, sharing information and encouraging others to get involved:

  • Please like/follow DVSC on social media, @DVSC_Wales, and via our Facebook page, DVSC subscribe to the News Updates and blog. Deadline – Ongoing for everyone

  • If anyone has any specific agenda items for future meeting or wants to deliver a presentation at the next meeting please email –Julie@dvsc.co.uk. Deadline – Ongoing

  • If you have news, information or case studies you want to share, email us – engagement@dvsc.co.uk and we can promote the information via our blog, social media or include in the next edition of the Wellbeing Bulletin. Deadline 11th September 2019.

As the membership body for the third sector in Denbighshire, and the leadership body promoting wellbeing, voluntary action and social enterprise in Denbighshire, we very much welcome your views and opinions on key issues.

We would also love to increase the number of participants attending this Network, so join us and become part of a movement for change in Denbighshire.

The next meeting of the Wellbeing network is 23rd October 2019 at 1pm – 4pm at DVSC Offices, Ruthin, click here to see the draft agenda. Please book via Eventbrite, email engagement@dvsc.co.uk or telephone 01824 702441 to confirm attendance and please encourage others to come along.

In the meantime, keep connected, and please spread the message about all the great work being done by DVSC, and its members to enhance individual and collective wellbeing in the County.

Best wishes

 

Rhwydwaith Llesiant Sir Ddinbych

Dydd Mercher, 20 Mehefin 2019

Diolch i bawb a ddaeth i Rwydwaith Llesiant Sir Ddinbych ar 20 Mehefin 2019. Mae’r holl gyflwyniadau, gwybodaeth a dolenni gwefannau a rannwyd yn y cyfarfod i’w cael yma:

Pwyntiau Siarad

Mae’r Rhwydwaith yn gyfarfod agored i fudiadau trydydd sector, Cyngor Sir Ddinbych, sefydliadau sector cyhoeddus eraill a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rannu gwybodaeth ynghylch mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n darparu cyfle i drafod materion ac ystyried cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd a chydweithredu ystyrlon.

Ar ddechrau’r cyfarfod cyflwynodd Julie Pierce, yr Arweinydd Llesiant, ei hun fel Cadeirydd newydd y Rhwydwaith Llesiant ac yna aeth ymlaen at bawb a oedd yn bresennol yn cyflwyno eu hunain, a oedd yn cynnwys rhai wynebau newydd, a groesawyd yn fawr iawn.

Cyflwyniadau

Sian Jones, Cydlynydd Tîm Adnoddau Cymunedol Rhuthun a Chorwen – cyflwyniad ar ‘Foderneiddio Gwasanaethau Cymdeithasol’. Roedd hyn yn cynnwys y pwyntiau allweddol a ganlyn:-

  • Nod allweddol – cynnig cyfle i gleifion fyw’n annibynnol

  • Mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol eisiau bod yn fwy amrywiol ac ar gael i bawb

  • Mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn bwriadu sefydlu timau integredig ar draws Sir Ddinbych a fydd yn gweithio’n agos gyda meddygfeydd

  • Bydd y timau’n cynnwys nyrsys ardal, nyrsys cymuned a therapyddion galwedigaethol a fydd yn darparu gwasanaethau gyda’i gilydd

  • Amcanion y gwasanaeth – cael gwasanaethau iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol integredig

Gorffennodd Sian y cyflwyniad trwy amlinellu beth fydd eu camau nesaf:-

  • Gweithio ar y cyd

  • Cyfathrebu’n fwy effeithiol

  • Croesawu syniadau newydd

  • Croesawu newid

  • Cynnal annibyniaeth yr unigolyn – eu cadw yn eu cartref

Rod Waterfield – Y Ganolfan Sgiliau Coetir

Dechreuodd Rod ei gyflwyniad trwy ddisgrifio’r Ganolfan Sgiliau Coetir fel un sy’n cael ei chynnal gan y gymuned ar sail nid er elw, ac is-bennawd y Ganolfan yw ‘Pwy nad ydym ni’n eu gweld?’

Aeth Rod ymlaen i ddweud eu bod yn croesawu teuluoedd, plant a phlant/oedolion ag anghenion ychwanegol. Maen nhw’n derbyn atgyfeiriadau gan Mind a gan deuluoedd plant nad ydyn nhw mewn addysg amser llawn neu y mae arnyn nhw angen peth sefydlogrwydd. Esboniodd Rod, pan fo pobl yn ymweld â’r ganolfan does neb yn dweud wrthych chi beth i’w wneud, rydych chi’n rhydd i grwydro, creu rhywbeth ac ennill rhywbeth gwerth chweil.

Mae’r cyrsiau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd yn cynnwys:-

  • Diwrnodau i’r teulu

  • Penwythnosau i’r teulu yn y coed

  • Wythnos i’r teulu yn y coed

  • Meddylgarwch gofalgar yn y coed

  • Cyrsiau amgylcheddol i ysgolion

  • Digwyddiadau creu tîm

Celia Lewis – Cyswllt Conwy

Cyflwynodd Celia y cynllun Bydis Cyswllt, sy’n cysylltu gwirfoddolwyr gydag unigolion ag anabledd dysgu i fynd i ddigwyddiadau gyda nhw fel mynd i’r theatr, tafarn, clwb neu gig cerddoriaeth. Mae’r prosiect yn chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd. Os oes gennych chi ychydig o oriau sbâr bob mis, dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth.

Fel rhan o’r ymrwymiad ar y cyd parhaus i bawb sy’n rhan o’r Rhwydwaith Llesiant gymryd cyfrifoldeb am hysbysu ein gilydd, rhannu gwybodaeth ac annog eraill i gymryd rhan:

  • Hoffwch/dilynwch Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ar y cyfryngau cymdeithasol, @DVSC_Wales, a thrwy ein tudalen Gweplyfr, DVSC a thanysgrifio i’r diweddariadau newyddion a’r blog. Dyddiad cau – parhau i bawb

  • Os oes gan unrhyw un unrhyw eitemau agenda penodol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, neu’n dymuno gwneud cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf anfonwch neges e-bost i engagement@dvsc.co.uk os gwelwch yn dda. Dyddiad cau – parhaus

  • Os oes gennych chi newyddion, gwybodaeth neu astudiaethau achos rydych chi’n dymuno eu rhannu, anfonwch neges e-bost i engagement@dvsc.co.uk a medrwn hyrwyddo’r manylion trwy ein blog, ein cyfryngau cymdeithasol neu ei gynnwys yn rhifyn nesaf y Bwletin Llesiant. Dyddiad cau – 11 Medi 2019.

Fel y corff aelodaeth i’r trydydd sector yn Sir Ddinbych, a’r corff arweinyddiaeth sy’n hyrwyddo llesiant, gweithredu gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yn Sir Ddinbych, rydym ni’n croesawu eich barn ar faterion allweddol yn fawr iawn.

Hoffem gynyddu nifer y cyfranogwyr sy’n dod i’r Rhwydwaith hwn, felly ymaelodwch gyda ni a dod yn rhan o symudiad er newid yn Sir Ddinbych.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Llesiant ar 23 Hydref 2019, 1pm – 4pm, yn Swyddfeydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Rhuthun. Cliciwch yma i weld yr agenda ddrafft. Cewch drefnu lle trwy Eventbrite, e-bost i engagement@dvsc.co.uk neu ffonio 01824 702441 i gadarnhau eich presenoldeb ac anogwch eraill i ddod draw hefyd, os gwelwch yn dda.

Yn y cyfamser, cadwch mewn cysylltiad a lledaenwch y neges am y gwaith rhagorol sy’n cael ei gwneud gan CGGSDd a’i aelodau i well llesiant unigolion a’r gymuned yn y sir.

Dymuniadau gorau

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page