Job Vacancy at DVSC: Community Wellbeing Officer – Dementia Aware Additional Information
DVSC is looking for a Community Wellbeing Officer to join our team and contribute to our Wellbeing services.
The post holder will play a key role in helping us to implement our vision, mission and values, by promoting individual and community wellbeing and by ensuring we demonstrate the impact and social value of the work we do.
The successful candidate will ideally have a knowledge, experience and an interest in the third sector, community development, wellbeing (including dementia awareness).
You should have an understanding of co-production and human centred service design and will be excited to creatively develop new ways of working with individuals, and communities (including local businesses) to develop awareness about wellbeing, and the challenges of dementia in particular.
The postholder will support DVSC to act in the role of community enabler empowering individuals, DVSC members, public service partners, local business and the wider community through DVSC’s Dementia Aware Community Led Programme.
The postholder will work as a member of a small programme team, whilst being expected to contribute to DVSC’s Sector Support service and corporate goals.
You will work closely with other members of #teamDVSC including the Marketing and Engagement Officer, Impact and Evaluation Officer, and the Senior Management team on a high profile programme which is enabled thanks to Welsh Government ICF funding.
In your role you will ensure that DVSC’s Community Wellbeing service is proactive and meets programme targets. You will empower individuals and communities and support them in accessing the resources, advice and support they need to enable them to shape and develop themselves and their communities (in line with the Welsh Government’s well-being agenda), and that of our public service partners.
In addition to the services we provide to support our members, and the communities we work with, we are passionate about sharing the lessons we learn with government, and our stakeholders. We want to help drive positive and sustainable social change.
This is a diverse and interesting role and you will need to demonstrate that you are an effective team player with a range of attributes including the ability to foster and maintain effective relationships with a range of internal and external stakeholders.
We are looking for someone who is driven to ensure we make a difference to people's lives and who will play a key role in developing DVSC’s Dementia Aware Community Led Programme.
We are actively seeking to recruit Welsh Language speakers and it will only be in exceptional circumstances that we will appoint someone who is not a Welsh speaker.
If you want to know more about the Community Wellbeing Officer role click here.
The deadline for applications is midday Wednesday 3 June 2019, and interviews will take place on the week beginning 10 June 2019
SWYDDI GWAG YNG NGHYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH:
Swyddog Lles Cymunedol – Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) yn chwilio am Swyddog Lles Cymunedol i ymuno gyda’r tîm a chyfrannu at ein gwasanaethau Llesiant.
Bydd deilydd y swydd yn chwarae rôl allweddol yn ein cynorthwyo ni i weithredu ein gweledigaeth, cenhadaeth a’n gwerthoedd, trwy hybu lles unigolion a chymunedol a drwy sicrhau ein bod ni’n dangos effaith a gwerth cymdeithasol y gwaith rydym ni’n ei wneud.
Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am, profiad o a diddordeb yn y trydydd sector, datblygu cymunedol a llesiant (yn cynnwys ymwybyddiaeth demensia).
Dylech feddu ar ddealltwriaeth am gyd-gynhyrchu a dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion a byddwch yn llawn cyffro i ddatblygu ffyrdd newydd creadigol o weithio gydag unigolion a chymunedau (yn cynnwys busnesau lleol) i ddatblygu ymwybyddiaeth ynghylch llesiant, a heriau demensia yn benodol.
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi CGGSDd i weithredu fel galluogydd cymunedol yn grymuso unigolion, aelodau CGGSDd, partneriaeth gwasanaethau cyhoeddus, busnesau lleol a’r gymuned ehangach trwy raglen CGGSDd, Ymwybyddiaeth Demensia dan arweiniad y Gymuned.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel aelod o dîm rhaglen bychan, a disgwylir iddo/iddi gyfrannu at wasanaeth Cymorth i’r Sector CGGSDd a nodau corfforaethol.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill #tîmCGGSDd, yn cynnwys y Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu, y Swyddog Effaith a Gwerthuso a’r Uwch Dîm Rheoli ar raglen proffil uchel sy’n cael ei galluogi diolch i gyllid Cronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’ch swydd byddwch yn sicrhau bod gwasanaeth Llesiant CGGSDd yn rhagweithiol ac yn bodloni targedau’r rhaglen. Byddwch yn grymuso unigolion a chymunedau ac yn eu cefnogi i gael gafael ar yr adnoddau, cyngor a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i siapio a datblygu eu hunain a’u cymunedau (yn unol ag agenda llesiant Llywodraeth Cymru) ac i ddylanwadu ar ein partneriaid gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ychwanegol at y gwasanaethau a ddarperir gennym ni i gefnogi ein haelodau, a’r cymunedau rydym ni’n gweithio gyda nhw, rydym ni’n angerddol ynghylch rhannu’r gwersi rydym ni’n eu dysgu gyda’r llywodraeth a’n rhanddeiliaid. Rydym ni’n dymuno cynorthwyo i hybu newid cymdeithasol cadarnhaol a chynaliadwy.
Mae hon yn rôl ddiddorol ac amrywiol a bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n aelod effeithiol o dîm gydag ystod o rinweddau yn cynnwys y gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd effeithiol gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.
Rydym ni’n chwilio am rhywun sy’n llawn ymroddiad i sicrhau ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac a fydd yn chwarae rôl allweddol yn datblygu rhaglen CGGSDd Ymwybyddiaeth Demensia dan arweiniad y Gymuned.
Rydym ni’n ceisio recriwtio siaradwyr Cymraeg a dim ond dan amgylchiadau eithriadol y byddwn ni’n penodi rhywun nad yw’n siarad Cymraeg.
Os hoffech chi gael gwybod rhagor am swydd y Swyddog Lles Cymunedol cliciwch yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ddydd Llun, 3 Mehefin 2019, a chynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Mehefin 2019.