top of page
Recent Posts

DVSC Events & Activities Volunteers Week 2019 - 1st – 7th June

  • Writer: unknown
    unknown
  • May 15, 2019
  • 13 min read

Message from Helen Wilkinson, DVSC Chief Executive

National Volunteers Week

National Volunteers Week is an annual national campaign which runs from 1-7 June. As part of our contribution to this national campaign, DVSC will be hosting several events and activities in partnership with our members and partners.

Our role is to act as catalysts and to amplify the activities that are taking place across the County. So, we are effectively only as good as the information we receive from you all! So please share your plans with us and let's make this a great big celebration of #DenbighshireVolunteers

On Saturday June 8th, the day after the week-long celebration, DVSC is partnering with Community Heart Productions to organise a volunteer led plastic pick up on the beach in West Rhyl. Together, we are drawing attention to World Ocean Day, the day after Volunteers Week officially comes to an end, because we want to keep the volunteer spirit going.

If you are not able to attend one of our events, you can still be involved. We will be running a social media campaign through Facebook and twitter, @DVSC_Wales to promote Volunteers Week and to do a Social media Shout out for all those #DenbighshireVolunteers who have made a difference in the last 12 months. So please take part in this campaign.

There are several ways in which you can contribute directly to this social media campaign.

  • Participate via social media and take part in @DVSC_Wales weeklong twitter fest using the hashtags #DenbighshireVolunteers #VolunteersWeek or join us for the nationwide celebration on Monday June 3, 11am-noon

  • You can share information about our events and activities as widely as possible through social media, your contacts and your website

  • You can send us information about your events and activities, and we will share your information through social media and websites

  • You can share your own volunteer story on our new website, or you can share your story about how the work of volunteers benefits your group, organisation or society for the better

  • You can also spread the word and encourage people who have volunteered that you know to share their stories on DenbighshireVolunteers.net

  • And finally, if there are volunteers who have made a real difference to your voluntary and community group or organisation over the last year you can nominate them for a Celebratory Shout out by emailing - don@dvsc.co.uk providing name, contact details, and why (in no more than 250 words) their voluntary efforts deserve to be celebrated. If you have a photograph of them to share all the better or you can fill in the form on our website.

So please do join us in celebrating #DenbighshireVolunteers in whichever way you can and if you have an idea or a suggestion for how we can raise the profile of volunteers, and volunteering in Denbighshire during this period (and beyond) do let us know.​

Events & Activities

Saturday & Sunday 1-2 June

How are you celebrating? Send us your pics on social media @DVSC_Wales or DVSC’s facebook page and we will share your good news stories. You can also share your story on our website here

Monday 3 June – 9.30am – 3pm

Level 2 Supporting Volunteers accredited course - This course is provided through the Skills Development Fund Five days - Mondays 9.30-3.00 on: 3rd June, 10th June, 24th June, 1st July and 8th July. At DVSC, Naylor Leyland Centre, Well Street, Ruthin, LL15 1AF

Monday 3 June – 11am-12pm

#VolunteersWeek Launch Party on Twitter - We are flying the flag for #DenbighshireVolunteers by taking part in this nationwide celebration. Why not join us and let’s raise the profile of #DenbighshireVolunteers together?

Monday 3rd – Friday 7th June - 9am – 4pm

Pop in to DVSC’s Volunteer Hub at the Naylor Leyland Centre, Ruthin to get support and advice about your volunteer requirements - Whether you are an individual looking for local volunteering opportunities or an organisation wishing to recruit volunteers – our friendly team will be here to help and support you. We can also show you how to get the most out of our digital tools on DenbighshireVolunteers, Infoengine and even our Funding Wales Portal.

If you cannot pop by, call us on 01824 702441 or email engagement@dvsc.co.uk and we will be happy to help.

Tuesday 4th June - 12pm – 2pm

Join the ICAN Movement for change! - The ICAN Service will support people who would normally be discharged and who may attend Emergency Department regularly, for comfort or the need to speak to someone. DVSC, along with a volunteer and staff member from the ICAN team will be popping up at the Co-Operative Store, Ty Fry Lane, Bodelwyddan, Rhyl, LL18 5TE.

We will be chatting to local residents and asking them to volunteer and get involved by volunteering with the ICAN project at Glan Clwyd Hospital.

If you want to know more or are happy to come along and promote ICAN with us you can find us at the Cooperative Store between 12pm and 2pm.

Tuesday 4th June – 6.30pm – 8.30pm

Youth Led Grants Celebration event The Hub Denbigh, Smithfield Road, Denbigh, LL16 3RG

Come along to hear about the great initiatives going on in the county to put young people in the lead through DVSC’s Youth Led Grants programme. At this event, we will also be launching the next round of youth led grants, so whether you are a young person or a voluntary and community group, third sector organisation or social enterprise working with young people come along to find out more. Our Sector Support grants team will be on hand to answer any queries you might have.

Wednesday 5th June – 8am – 10am

Dementia Aware Denbigh Business Breakfast - DVSC in partnership with the Federation of Small Business and Mingle is hosting a Business Breakfast. Come along and meet other community businesses to discuss how to be more inclusive.

Find out how small changes can make a big difference to your customers, improving your reputation in the community and event your bottom line! Venue – DVSC, Naylor Leyland Centre, Ruthin, LL15 1AF

Wednesday 5th June – 11am – 1pm

Ageing Well Digital Drop InDVSC in partnership with Digital Communities Wales can support organisations to ensure that their staff and volunteers are skilled digitally to be able to support their clients in their digital needs. The presentation will include examples of our work as well as the future of Digital Communities Wales with our new project beginning on July 1st. There will also be an opportunity for you to have a go on our Virtual Reality headsets that we have been used by us to support people living with dementia.

We can also tell you about digital volunteering, micro volunteering, and show you the great tools on DenbighshireVolunteers.net

The Alzheimer’s Society will also be available with information and advice for anyone affected by any form of dementia.

Pop in between 11am and 1pm, refreshments will be available, at the Naylor Leyland Centre, Well Street, Ruthin, LL15 1AF

Thursday 6th June

DIARY MARKER – time to be confirmed

Dementia Friends Awareness sessions – two sessions for Welsh and English speakers as part of our Dementia Aware Community Led Programme at the Naylor Leyland Centre, Ruthin

You can find out about the impact of our Dementia Aware Community Led grants programme has had in terms of community wellbeing by reading about what the grant recipients got up to and how they made a difference. Our team will also be on hand to provide advice, if after the Dementia Friends Awareness Session, you feel inspired or want to know more about the current grant round.

Thursday 6th June

Promoting the #DenbighshireVolunteers Marketplace - we will be popping up in Ruthin market, and outside supermarkets in Denbigh and Llangollen. We will announce further details on social media.

Friday 7th June -1pm – 3pm

#FridayFeeling - Drop in to ‘Open Doors’ our volunteer led community space - develop skills, build confidence, and meet new people and learn about the five ways to wellbeing – come along and meet the gang for a cuppa, refreshments and a chat. Find out more about Open Doors here

Saturday 8th June - From 10am

Rhyl Beach Clean for World Ocean Day - DVSC has partnered with Community Heart Productions to mark World Ocean Day to keep the volunteer spirit going the day after Volunteers Week 2019 officially ends.

#DVSCVolunteers – DVSC staff will be volunteering their free time. We can walk and talk and tell you about all the great volunteer opportunities in the County as we all do our small bit to keep our beaches and oceans as clean as we can

Meeting point at the VUE Cinema in Rhyl from 10am.

Saturday 8th June – Time TBC

Ruthin Community litter pick - DVSC and Friends of the Earth Ruthin will be holding a Ruthin Community litter pick on Saturday 8th June, time TBC. Families are more than welcome to come and join us. Let’s tidy up our community together and have a little fun whilst doing it.

Other ideas in the pipeline - Follow us on twitter or facebook for news of when this event will be taking place

At some point during Volunteers Week members of the DVSC team will be volunteering with Denbigh in Bloom. Watch out for us on the roundabouts in Denbigh and give us a beep or wave as you pass by.

For more information on any of the above events, please contact:

01824 702 441 or email: don@dvsc.co.uk

Neges oddi wrth Helen Wilkinson, Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr Mae Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr yn ymgyrch genedlaethol flynyddol a gynhelir rhwng 1 a 7 Mehefin. Fel rhan o’n cyfraniad ni i’r ymgyrch genedlaethol hon, bydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn partneriaeth gyda’n haelodau a’n partneriaid. Mae’r daflen amgaeedig yn cynnwys yr holl fanylion.

Ein rôl yw gweithredu fel catalydd a lledaenu’r neges am y gweithgareddau sy’n digwydd ledled y sir. Felly, rydyn ni gystal â’r wybodaeth rydym ni’n ei derbyn gennych chi! Felly rhannwch eich cynlluniau gyda ni, os gwelwch yn dda, i wneud hwn yn ddathliad mawr gwych o gyfraniad #GwirfoddolwyrSirDdinbych

Ddydd Sadwrn, 8 Mehefin, y diwrnod ar ôl yr wythnos o ddathliadau, bydd CGGSDd yn bartner gyda Community Heart Productions i drefnu casglu sbwriel plastig oddi ar y traeth yng ngorllewin y Rhyl. Gyda’n gilydd byddwn yn tynnu sylw at Ddiwrnod Môr y Byd, y diwrnod ar ôl i Wythnos Gwirfoddolwyr ddod i ben yn swyddogol, am ein bod ni am gadw’r ysbryd gwirfoddoli’n weithgar.

Os nad yw’n bosibl i chi ddod i un o’n digwyddiadau ni, mae’n bosibl i chi gymryd rhan mewn ffordd arall. Byddwn yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng Gweplyfr a Thrydar, @DVSC_Wales, i hyrwyddo Wythnos Gwirfoddolwyr a rhoi cydnabyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i’r holl #GwirfoddolwyrSirDdinbych sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly cymrwch ran yn yr ymgyrch hon, os gwelwch yn dda.

Mae nifer o ffyrdd i chi gyfrannu’n uniongyrchol i’r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yma. Bydd ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol yn dathlu gwaith #GwirfoddolwyrSirDdinbych yn cael ei chynnal rhwng 1 Mehefin a 7 Mehefin

  • Cymryd rhan trwy’r cyfryngau cymdeithasol a chymryd rhan yng ngŵyl Trydar wythnos o hyd ar @DVSC_Wales gan ddefnyddio’r hashnodau #GwirfoddolwyrSirDdinbych ac #WythnosGwirfoddolwyr neu dewch i ymuno gyda ni ar gyfer y dathliad cenedlaethol ddydd Llun, 3 Mehefin, 11am tan hanner dydd

  • Cewch rannu gwybodaeth am ein digwyddiadau a’n gweithgareddau mor eang â phosibl trwy’r cyfryngau cymdeithasol, eich cysylltiadau chi a’ch gwefan

  • Cewch anfon gwybodaeth atom ni am eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau chi, a gwnawn rannu eich gwybodaeth trwy ein rhwydweithiau, ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefannau

  • Cewch rannu eich stori wirfoddoli eich hun ar ein gwefan newydd, neu cewch rannu eich stori am sut mae gwaith gwirfoddolwyr o fudd i’ch grŵp, mudiad neu eich cymdeithas chi - http://gwirfoddolwyrsirddinbych.net/rhannwch-eich-stori-chi/

  • Mae croeso i chi ledaenu’r neges ac annog pobl rydych chi’n eu hadnabod sydd wedi gwirfoddoli i rannu eu straeon ar ein gwefan http://gwirfoddolwyrsirddinbych.net/rhannwch-eich-stori-chi/

  • Ac yn olaf, os oes gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch grŵp gwirfoddol neu gymunedol neu eich mudiad chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cewch eu henwebu i’w henwi i ddathlu eu cyfraniad trwy anfon neges e-bost i office@dvsc.co.uk gan nodi’r enw, manylion cyswllt a pham mae eu hymdrechion gwirfoddol yn haeddu cael eu dathlu (mewn dim mwy na 250 o eiriau). Os oes gennych chi lun ohonynt i’w rannu gorau oll, neu cewch lenwi’r ffurflen ar ein gwefan yma - http://gwirfoddolwyrsirddinbych.net/rhannwch-eich-stori-chi/

Felly ymunwch â ni i ddathlu #GwirfoddolwyrSirDdinbych ym mha bynnag fodd posibl, ac os oes gennych chi syniad neu awgrym sut y medrwn ni godi proffi gwirfoddolwyr, a gwirfoddoli, yn Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod hwn (a thu hwnt), gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Digwyddiadau a Gweithgareddau

Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 1- 2 Mehefin

Sut ydych chi’n dathlu? Anfonwch eich lluniau atom ni trwy’r cyfryngau cymdeithasol @DVSC_Wales neu dudalen Gweplyfr CGGSDd a gwnawn rannu eich straeon newyddion chi. Mae croeso i chi rannu eich stori ar ein gwefan yma

Dydd Llun 3 Mehefin - 9.30am - 3pm

Cwrs achrededig Cefnogi Gwirfoddolwyr Lefel 2 - Darperir y cwrs hwn trwy'r Gronfa Datblygu Sgiliau Pum diwrnod - Dydd Llun 9.30-3.00 ar: 3 Mehefin, 10 Mehefin, 24 Mehefin, 1 Gorffennaf ac 8 Gorffennaf. Yn CGGSDd, Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF

Dydd Llun 3 Mehefin – 11am - 12pm

#PartiLansioWythnosGwirfoddolwyr ar Trydar – Rydym ni’n chwifio’r faner i dynnu sylw at #GwirfoddolwyrSirDdinbych trwy gymryd rhan yn y dathliad cenedlaethol hwn. Beth am ymuno gyda ni a chodi proffil #GwirfoddolwyrSirDdinbych gyda’n gilydd?

Dydd Llun – Dydd Gwener, 3 – 7 Mehefin 9am – 4pm

Galwch heibio Hwb Gwirfoddolwyr CGGSDd yng Nghanolfan Naylor Leyland, Rhuthun, i gael cyngor a chymorth ynghylch eich gofynion gwirfoddolwyr – p’un ai ydych chi’n unigolyn s’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli lleol neu’n fudiad sy’n dymuno recriwtio gwirfoddolwyr – bydd ein tîm cyfeillgar yma i’ch helpu a’ch cefnogi chi.

Hefyd medrwn ddangos i chi sut i gael y mwyaf o’n hadnoddau digidol ar wefan GwirfoddolwyrSirDdinbych, Infoengine a hyd yn oed ein Porth Cyllido Cymru.

Os na fedrwch chi alw heibio, ffoniwch ni ar 01824 702441 neu anfon neges e-bost i engagement@dvsc.co.uk a byddwn yn fwy na bodlon eich helpu chi.

Dydd Mawrth 4 Mehefin 12pm – 2pm

Ymunwch gyda’r symudiad dros newid ICAN – bydd y gwasanaeth ICAN yn cefnogi pobl a fyddai’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty ac a all fod yn dod i’r Adran Damweiniau a Brys yn rheolaidd i gael cysur neu er mwyn siarad gyda rhywun. Bydd CGGSDd, ar y cyd gyda gwirfoddolwr ac aelod o staff o’r tîm ICAN i’w gweld yn siop y Co-Op, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan, Y Rhyl, LL18 5TE.

Byddwn yn sgwrsio gyda thrigolion lleol ac yn gofyn iddyn nhw wirfoddoli a chymryd rhan yn y prosiect ICAN yn Ysbyty Glan Clwyd. Os hoffech chi gael gwybod rhagor, neu os ydych chi’n fodlon dod draw i hyrwyddo ICAN gyda ni, byddwn yn y Co-op rhwng hanner dydd a 2pm.

Dydd Mawrth 4 Mehefin - 6.30pm - 8.30pm

DYDDIAD I’R DYDDIADUR – Hwb Dinbych, Ffordd y Ffair, Dinbych, LL16 3RG

Sesiynau Ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia – dwy sesiwn ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel rhan o’n rhaglen Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned, yng Nghanolfan Naylor Leyland, Rhuthun

Cewch ddysgu am effaith ein rhaglen grantiau Dementia Ymwybodol dan arweiniad y Gymuned o ran llesiant cymunedol trwy ddarllen am yr hyn fu’r rhai wnaeth dderbyn grant yn ei wneud a sut y gwnaethon nhw wneud gwahaniaeth. Hefyd bydd ein tîm wrth law os ydych chi’n teimlo wedi eich hysbrydoli, yn dilyn y sesiwn, neu eisiau gwybod rhagor am y rownd grantiau gyfredol.

Dydd Mercher 5 Mehefin - 8am – 10am

Brecwast Busnes Dinbych Dementia Ymwybodol - mae CGGSDd mewn partneriaeth gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Mingle yn cynnal Brecwast Busnes. Dewch draw i gyfarfod busnesau eraill o’r gymuned i drafod sut i fod yn fwy cynhwysol.

Dysgwch sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’ch cwsmeriaid, gwella eich enw da yn y gymuned a hyd yn oed wella eich elw! Lleoliad - Yn CGGSDd, Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF

Dydd Mercher 5 Mehefin - 11am – 1pm

Sesiwn galw heibio Digidol Heneiddio’r Dda – gall CGGSDd mewn partneriaeth gyda Chymunedau Digidol Cymru gefnogi mudiadau i sicrhau bod eu staff a’u gwirfoddolwyr yn meddu ar y sgiliau digidol i’w galluogi i gefnogi eu cleientiaid gyda’u hanghenion digidol. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys enghreifftiau o’n gwaith yn ogystal â dyfodol Cymunedau Digidol Cymru gyda’n prosiect newydd yn dechrau ar 1 Gorffennaf. Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar ein pensetiau Realiti Rhithwir sydd wedi cael eu defnyddio gennym ni i gefnogi pobl sy’n byw gyda demensia.

Medrwn ddweud wrthych chi am wirfoddoli digidol, micro wirfoddoli a dangos yr adnoddau gwych ar wefan GwirfoddolwyrSirDdinbych.net

Bydd Cymdeithas Alzheimer ar gael gyda gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gydag unrhyw fath o ddementia.

Galwch heibio rhwng 11am a 1pm – bydd paned ar gael – Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF

Dydd Iau 6 Mehefin

Hyrwyddo Marchnadle #GwirfoddolwyrSirDdinbych – byddwn ym marchnad Rhuthun, a thu allan i archfarchnadoedd yn Ninbych a Llangollen. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dydd Iau 6 Mehefin - 7pm – 9pm

Digwyddiad Dathlu Grantiau dan arweiniad Ieuenctid –

7-9 pm (Rhuthun, Dinbych neu’r Rhyl) – lleoliad i’w gadarnhau

Dewch draw i glywed am y mentrau gwych sy’n digwydd yn y sir i roi pobl ifanc yn y rôl arweiniol trwy raglen Grantiau dan arweiniad Ieuenctid CGGSDd.

Byddwn hefyd yn lansio rownd nesaf y grantiau dan arweiniad ieuenctid yn y digwyddiad hwn, felly os ydych chi’n berson ifanc neu’n grŵp gwirfoddol neu gymuned, mudiad trydydd sector neu’n fenter gymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl ifanc, dewch draw i ddysgu rhagor. Bydd ein tîm grantiau Cymorth i’r Sector wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Dydd Gwener 7 Mehefin - 1pm – 3pm

#GwenerGwych – galwch heibio’r sesiwn ‘Drysau Agored’ – ein lle cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr – cyfle i ddatblygu sgiliau, cynyddu hyder a chyfarfod pobl newydd a dysgu am y pum ffordd at lesiant. Dewch draw i gyfarfod y criw am baned, cacen a sgwrs. Cewch ragor o fanylion am Drysau Agored yma

Dydd Sadwrn 8 Mehefin Dechrau 10am

Glanhau Traeth y Rhyl ar gyfer Diwrnod Môr y Byd – mae CGGSDd wedi llunio partneriaeth gyda Community Heart Productions i ddynodi Diwrnod Môr y Byd a chadw’r ysbryd gwirfoddoli yn weithgar ddiwrnod ar ôl i Wythnos Gwirfoddolwyr 2019 ddod i ben yn swyddogol.

#GwirfoddolwyrCGGSDd – bydd staff CGGSDd yn gwirfoddoli yn eu hamser rhydd. Cawn gerdded a sgwrsio a dweud wrthych chi am yr holl gyfleoedd gwirfoddoli gwych yn y sir wrth i ni i gyd wneud ein rhan fach i gadw’n traethau a’n moroedd mor lân ag y bo modd.

Man cyfarfod, wrth ymyl sinema VUE yn y Rhyl am 10am.

Dydd Sadwrn 8 Mehefin – amser i’w gadarnhau

Cymuned Rhuthun yn casglu sbwriel - bydd CGGSDd a Chyfeillion y Ddaear Rhuthun yn cynnal diwrnod casglu sbwriel yn Rhuthun ddydd Sadwrn, 8 Mehefin, amser i’w gadarnhau. Mae croeso i deuluoedd ddod i ymuno gyda ni. Gadewch i ni dacluso ein cymuned gyda’n gilydd a chael hwyl tra’n gwneud hynny.

Syniadau eraill yn yr arfaeth – Dilynwch ni ar Trydar neu Facebook am fanylion pryd y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal

Ar ryw adeg yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr bydd aelodau tîm CGGSDd yn gwirfoddoli gyda chriw Dinbych yn ei Blodau. Edrychwch amdanom ni ar y cylchfannau yn Ninbych, a chofiwch ganu corn neu godi llaw wrth i chi fynd heibio.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau uchod ffoniwch 01824 702 441 neu anfon neges e-bost at: don@dvsc.co.uk os gwelwch yn dda.

Dilynwch ni ar Trydar @DVSC_Wales a hoffwch ein tudalen Gweplyfr

DVSCDenbighshire

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau uchod, cysylltwch â: 01824 702 441 neu e-bostiwch: don@dvsc.co.uk www.denbighshirevolunteers.net

Comments


Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page