top of page
Recent Posts

Influencing Opportunity (36) -  Health and Care Research Wales - two summer festivals

As part of our commitment to influencing and engaging, we share the information below with you.

If you believe this is a priority area for further discussion at one of DVSC’s network meetings or Membership Forum do let us know.

 

A festival of public involvement and engagement in health and social care research

You are not a guinea pig

Exhibition stand application form

What is it?

For the first time ever, Health and Care Research Wales is hosting two summer festivals of public involvement and engagement in health and social care research in Wales. The free events will run from 12:00 until 16:00 and are open to the public. There will be a number of interactive and family friendly exhibition stands, a family zone with activities for children and a selection of Ted-style talks celebrating research throughout the day.

We are hosting two festivals:

  • 6 July, Storiel, Bangor

  • 27 July, National Museum, Cardiff

Why are they being held?

We want to engage with the public about research and that it takes place in Wales and how important research is to everyone.

We would like visitors to learn how research can make a difference and has already made differences to people’s lives in Wales. It should be about the treatments and care that are available today because of the research that happened yesterday, and how today’s research will provide treatments of tomorrow.

How you can get involved?

We would like to invite you to apply for an exhibition stand.

All exhibitors must have bilingual, interactive, creative, engaging and family friendly stands which should be about experiences, stories and interactions that bring research to life for the visitors.

Please get in contact if you have any questions.

To apply for a free exhibitor space, complete the form below and return it to: Emma Langley Research-involvement@wales.nhs.uk by 16 May 2019.

The organisation’s information provided above may be used in promotional materials.

A 6’ trestle table & 2 chairs will be provided for each stand at each venue. The exhibition areas will be in the Main Hall at the National Museum, Cardiff and in a marquee in the grounds of Storiel, Bangor.

We will provide details about logistics closer to the day.

Please note: these are not fundraising or recruitment events. We will require all exhibitors to complete a risk assessment form.

Don’t forget:

  • to attach your logo to the email

  • to attach this completed form to the email

 

Gŵyl cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol

Dydych chi ddim yn fochyn gini

Ffurflen gais stondinau arddangos

Beth ydyw?

Am y tro cyntaf erioed, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gwesteio dwy ŵyl yr haf yn ymwneud â chynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y digwyddiadau rhad ac am ddim yn rhedeg rhwng 12:00 a 16:00 a byddan nhw ar agor i’r cyhoedd. Bydd yna nifer o stondinau rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd, parth teuluoedd gyda gweithgareddau ar gyfer plant a detholiad o sgyrsiau arddull-TED yn dathlu ymchwil gydol y dydd.

Rydyn ni’n gwesteio dwy ŵyl:

  • 6 Gorffennaf, Storiel, Bangor

  • 27 Gorffennaf, yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Pam eu cynnal?

Rydyn ni eisiau ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn ag ymchwil a’r ffaith ei bod yn mynd rhagddi yng Nghymru, a pha mor bwysig yw ymchwil i bawb.

Bydden ni’n hoffi i ymwelwyr ddysgu am sut y mae ymchwil yn gallu gwneud gwahaniaeth a’i bod eisoes wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru. Dylai hyn edrych ar y triniaethau a’r gofal sydd ar gael heddiw oherwydd yr ymchwil a ddigwyddodd ddoe, ac ar sut y bydd ymchwil heddiw’n darparu triniaethau ar gyfer yfory.

Sut y gallwch chi chwarae rhan?

Bydden ni’n hoffi eich gwahodd i ymgeisio am stondin arddangos.

Mae’n rhaid i bob arddangoswr fod â stondin ryngweithiol, greadigol, gyfeillgar i deuluoedd sy’n bachu sylw, a hynny’n ddwyieithog, gan ganolbwyntio ar brofiadau, straeon ac enghreifftiau o ryngweithio a fydd yn dod ag ymchwil yn fyw i’r ymwelwyr.

Mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

I ymgeisio am ofod rhad ac am ddim i arddangoswyr, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd i: Emma Langley Research-involvement@wales.nhs.uk erbyn 16 Mai 2019.

Mae’n bosibl y caiff y wybodaeth uchod am eich sefydliad ei defnyddio mewn deunyddiau hyrwyddo.

Caiff bwrdd trestl 6′ a 2 gadair eu darparu ar gyfer pob stondin yn mhob lleoliad. Bydd yr ardaloedd arddangos yn y Brif Neuadd yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ac mewn pabell fawr ar diroedd Storiel, Bangor.

Byddwn ni’n rhoi manylion am logisteg yn agosach at y diwrnod.

Sylwch: dydy’r rhain ddim yn ddigwyddiadau codi arian neu recriwtio. Bydd gofyn i bob arddangoswr lenwi ffurflen asesu risg.

Peidiwch ag anghofio:

  • atodi’ch logo at yr e-bost

  • atodi’r ffurflen hon wedi’i llenwi at yr e-bost

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page