top of page
Recent Posts

Influencing Opportunity (30) - Cymru Older People’s Alliance [COPA] is looking for a Nominated Trust

As part of our commitment to influencing and engaging, we share the information below with you.

If you believe this is a priority area for further discussion at one of DVSC’s network meetings or Membership Forum do let us know.

 

Registered Charity (No. 1174518)

Advert to fill post of Nominated (Co-opted) Trustee (North Wales)

Cymru Older People’s Alliance [COPA] is looking for a Nominated Trustee from North Wales for its Board.

• Are you passionate about getting the voice of Older People heard? • Would you be interested helping to develop and promote good practice on the engagement of Older People? • Would you like to infuence policy and practice concerning current and future Older People? • Could you help to challenge age discrimination and assist the promotion of the rights of Older People?

If the answer to these questions is ‘Yes’ please consider applying for this Trustee vacancy

Introduction

The Board of Cymru Older People’s Alliance (COPA) have agreed that as a matter of priority, its nominated or co-opted trustee vacancy should be filled by someone from North Wales to maintain our geographical balance in Board membership. Nominated or co-opted trustees are a separate category of Trustee. They are required to provide knowledge, skills and experience in respect of ageing and the age sector that the Elected Trustees do not have (or do not sufficiently possess). For example, expertise in running a charity, about age and ageing policy and professional practice, service delivery, finance, law etc. We are not looking to appoint a current member of an Older People’s Forum or Group unless they also have these additional attributes since there is already an election process for Trustees from that background. The decision to appoint a co-opted Trustee is a matter entirely for the Board to take to provide additional capacity and meet their requirements. Nominated or co-opted Trustees are appointed for a period of 3 years and can be re-appointed by the Board for a further period of 3 years.

This is a vital role for COPA as it continues to make progress as a new Registered Charity for older people run by older people. We have a new agenda to forge a more coherent and impactful voice at the national level in Wales for older people’s fora and groups in every local authority area. As well as ensuring all parts of Wales are fully represented on COPA, the Board are also keen to implement its policy on the Welsh language in a practical manner.

The Role

The functions and duties of charity trustees are set out in law. The COPA constitution says:

The charity trustees shall manage the affairs of the Charitable Incorporated Organisation (CIO) [i.e. COPA] and may for that purpose exercise all the powers of the CIO. It is the duty of each charity trustee:

(a) to exercise his or her powers and to perform his or her functions as a trustee of the CIO in the way he or she decides in good faith would be most likely to further the purposes of the CIO; and

(b) to exercise, in the performance of those functions, such care and skill as is reasonable in the circumstances having regard in particular to:

(i) any special knowledge or experience that he or she has or holds himself or herself out as having; and

(ii) if he or she acts as a charity trustee of the CIO in the course of a business or profession, to any special knowledge or experience that it is reasonable to expect of a person acting in the course of that kind of business or profession. For more information on being a charity trustee see https://www.gov.uk/guidance/charity-trustee-whats-involved

Skills and Experience

The individual that we are seeking to recruit for this post will ideally have:

• A good knowledge, expertise, understanding and recent experience of policy, practice and/or services for older people and of the age sector in North Wales; • Skills and experience of working with a Charity, Board, Committee or Group to improve the lives of older people; • Excellent communication skills both orally and in writing and have good IT skills • The ability to speak and write in Welsh (Desirable)

Candidates who wish to be considered should submit a Personal Statement of no more than 500 words and CV including all contact details to Steve Milsom, Chair of COPA milsoms@sky.com by 23.00 on 13 May 2019. Interviews will be held in June 2019. A final decision on appointment will be made as soon as possible thereafter.

If you have any queries about this advert please contact Steve Milsom on milsoms@sky.com or 07966312672

For more information on COPA and its aims and objectives see - www.copacharity.com


 

Elusen Gofrestredig (Rhif: 1174518)

Hysbyseb i lenwi swydd Ymddiriedolwr Enwebedig (Cyfetholedig) (Gogledd Cymru)

Mae Cynghrair Pobl Hŷn Cymru [COPA] yn chwilio am Ymddiriedolwr Enwebedig o Ogledd Cymru i wasanaethu ar ei Fwrdd.

• A ydych chi'n teimlo'n angerddol am sicrhau y gwrandewir ar lais Pobl Hŷn? • A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn helpu i ddatblygu a hyrwyddo arfer dda ar ymgysylltiad Pobl Hŷn? • A hoffech chi ddylanwadu ar bolisïau ac arferion sy'n ymwneud â Phobl Hŷn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? • A allech chi helpu i herio gwahaniaethu ar sail oedran a chynorthwyo gyda hyrwyddo hawliau Pobl Hŷn?

Os mai'r ateb i'r cwestiynau hyn yw 'Ie', ystyriwch wneud cais am y swydd wag Ymddiriedolwr hon

Cyflwyniad

Mae Bwrdd Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA) wedi cytuno y dylid llenwi ei swydd wag ymddiriedolwr enwebedig neu gyfetholedig fel mater brys gan rywun o Ogledd Cymru er mwyn cynnal ein cydbwysedd daearyddol o ran aelodaeth y Bwrdd. Mae ymddiriedolwyr enwebedig neu gyfetholedig yn gategori gwahanol o Ymddiriedolwr. Mae gofyn iddynt ddarparu'r wybodaeth, sgiliau a phrofiad o ran heneiddio a'r sector oedran nad oes gan yr Ymddiriedolwyr Etholedig (neu nad ydynt yn meddu arno'n ddigonol). Er enghraifft, arbenigedd mewn rhedeg elusen, ynglŷn ag oedran a pholisi heneiddio ac arfer broffesiynol, darparu gwasanaeth, cyllid, y gyfraith etc. Nid ydym yn awyddus i benodi aelod presennol o Fforwm neu Grŵp Pobl Hŷn oni bai bod ganddynt y priodoleddau ychwanegol hyn gan fod proses ethol yn bodoli eisoes i Ymddiriedolwyr o'r cefndir hwnnw. Mae'r penderfyniad i benodi Ymddiriedolwr cyfetholedig yn fater i'r Bwrdd yn gyfan gwbl i ddarparu gallu ychwanegol a bodloni eu gofynion. Penodir Ymddiriedolwyr enwebedig neu gyfetholedig am gyfnod o 3 blynedd a gallant gael eu hail-benodi gan y Bwrdd am gyfnod pellach o 3 blynedd.


Mae hon yn rôl hanfodol i COPA wrth iddo barhau i wneud cynnydd fel Elusen Gofrestredig newydd i bobl hŷn gan bobl hŷn. Mae gennym agenda newydd i fagu llais mwy cydlynol sy'n cael mwy o effaith ar lefel genedlaethol yng Nghymru ar gyfer fforymau a grwpiau pobl hŷn ym mhob ardal awdurdod lleol. Yn ogystal â sicrhau bod bob rhan o Gymru yn cael ei chynrychioli'n llawn yn COPA, mae'r Bwrdd hefyd yn awyddus i weithredu ei bolisi'r iaith Gymraeg mewn modd ymarferol.


Y Swydd

Mae swyddogaethau a dyletswyddau ymddiriedolwyr elusennau wedi'u nodi mewn cyfraith. Dywed cyfansoddiad COPA:

Bydd ymddiriedolwyr yr elusen yn rheoli materion y Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) [h.y. COPA] a gallant, at y diben hwnnw, weithredu holl bwerau'r CIO. Dyletswydd pob ymddiriedolwr elusen yw:

(a) gweithredu ei ph/bwerau ei hun a pherfformio ei swyddogaethau fel ymddiriedolwr y CIO yn y ffordd y mae hi/ef yn ei benderfynu gydag ewyllys da fyddai fwyaf tebygol o hyrwyddo'r CIO; a


(b) gweithredu, wrth berfformio'r swyddogaethau hynny, gofal a gallu o'r fath fel sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau gan roi ystyriaeth benodol i:


(i) unrhyw wybodaeth arbenigol neu brofiad sydd ganddo/ganddi neu y mae'n credu sydd ganddo/ganddi; ac


(ii) os ydy ef neu hi yn gwasanaethu fel ymddiriedolwr elusen y CIO yng nghwrs busnes neu broffesiwn, unrhyw wybodaeth arbenigol neu brofiad sy'n rhesymol i'w ddisgwyl gan unigolyn yn gwasanaethu yng nghwrs busnes neu broffesiwn o'r fath. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â bod yn ymddiriedolwr elusen, gweler https://www.gov.uk/guidance/charity-trustee-whats-involved

Sgiliau a Phrofiad

Yn ddelfrydol, bydd yr unigolyn yr ydym yn awyddus i'w recriwtio ar gyfer y swydd hon yn meddu ar:

• Wybodaeth, arbenigedd, dealltwriaeth dda a phrofiad diweddar o bolisïau, arferion a/neu wasanaethau i bobl hŷn a'r sector oedran yng Ngogledd Cymru; • Sgiliau a phrofiad o weithio gydag Elusen, Bwrdd, Pwyllgor neu Grŵp i wella bywydau pobl hŷn; • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig a meddu ar sgiliau TG da • Gallu siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg (Dymunol)

Dylai ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried gyflwyno Datganiad Personol dim mwy na 500 gair a CV yn cynnwys eu holl fanylion cyswllt i Steve Milsom, Cadeirydd COPA milsoms@sky.com erbyn 23.00 ar 13 Mai 2019. Cynhelir y cyfweliadau ym mis Mehefin 2019. Bydd penderfyniad terfynol ar benodiad yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl wedi hynny.


Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr hysbyseb hwn, cysylltwch â Steve Milsom ar milsoms@sky.com neu 07966312672


Am ragor o wybodaeth ynglŷn â COPA a'i nodau ac amcanion, gweler - www.copacharity.com

Archive
Follow us on Instagram.jpg

Join our mailing list

Never miss an update

Registered Charity 1054322                                                                                                                                        Company Limited by Guarantee 3132487

bottom of page