Wellbeing News (3) - BCUHB appoints new Executive Director of Primary Care and Community Services
As part of our service commitment to promoting and supporting individual and community wellbeing in the County, we share the information below with you.If you believe this is a priority area for further discussion at DVSC’s Wellbeing network meetings or Membership Forum do let us know. In the meantime, please read on, and make your views known. If you want to find out more about infoengine, a platform developed by the third sector for the third sector, then visit our infoengine page.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
New Executive Director of Primary Care and Community Services appointed
Denbighshire GP and current Area Medical Director for Conwy and Denbighshire Dr Chris Stockport is to take up the new role of Executive Director of Primary Care and Community Services at Betsi Cadwaladr University Health Board.
Chris has been a GP for almost 20 years and led the development of Healthy Prestatyn Iach, a pioneering new approach to primary care services built around a wide multi-disciplinary team. Before developing a leadership role as Area Medical Director, he was a GP Trainer and GP Specialty Training Programme Director, and remains an honorary Research Fellow at Bangor University.
Chris said: “I am passionate about primary and community care innovation and service redesign and believe that we should develop our services around the needs of patients – not the organisation.
“We have huge challenges due to changing health demands. My role will be to lead the work around how we adapt to deliver modern Primary Care and Community services in a way which is prudent by design, and sustainable and in partnership with our third sector, independent and local authority colleagues.
“I am very much looking forward to playing my part in contributing to the improvements planned across the Health Board.”
Gary Doherty, Chief Executive of Betsi Cadwaladr University Health Board said: “I am delighted that Chris, an experienced GP leader who knows North Wales well, has accepted this crucial post at the Health Board.
“Chris’s experience and insight will be a valuable asset to our Executive Team as we work together to improve and transform services in communities across North Wales.”
Chris will take up his new post on 1st October.
An announcement regarding an appointment to the post of Executive Director of Planning and Performance will follow in the coming days.
Penodi Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymuned newydd
Bydd Dr Chris Stockport, Meddyg Teulu yn Sir Ddinbych a Chyfarwyddwr Meddygol Ardal ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych yn cymryd rôl newydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymuned ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Chris wedi bod yn Feddyg Teulu am bron i 20 mlynedd, ac arweiniodd ddatblygiad Prestatyn Iach, dull newydd ac arloesol at wasanaethau gofal cychwynnol wedi'i adeiladu o amgylch tîm amlddisgyblaethol mawr. Cyn datblygu rôl arweinyddiaeth fel Cyfarwyddwr Meddygol Ardal, roedd yn Hyfforddwr Meddygon Teulu, a Chyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol Meddygon Teulu, ac mae'n parhau yn Gymrawd Ymchwil er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Chris: "Rwy'n angerddol dros ofal cychwynnol a chymuned ac ail-ddylunio gwasanaeth, ac rwy'n credu y dylem ddatblygu ein gwasanaethau o amgylch anghenion cleifion- nid y sefydliad.
“Mae gennym heriau enfawr oherwydd galwadau iechyd sy'n newid. Fy rôl fydd arwain y gwaith o amgylch sut ydym yn addasu i ddarparu gwasanaethau Gofal Cychwynnol a Chymuned modern, mewn ffordd sy'n ddoeth o ran dyluniad, ac yn gynaladwy, ac mewn partneriaeth â'n cydweithwyr y trydydd sector, y sector annibynnol ac awdurdodau lleol.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae fy rhan i gyfrannu at y gwelliannau cynlluniedig ar draws y Bwrdd Iechyd."
Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rwyf wrth fy modd fod Chris, arweinydd profiadol Meddygon Teulu, sy'n adnabod Gogledd Cymru yn dda, wedi derbyn y swydd allweddol hon yn y Bwrdd Iechyd.
“Bydd profiad a gwybodaeth Chris yn gaffaeliad gwerthfawr i'n Tîm Gweithredol, fel y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wella gwasanaethau a’u trawsnewid yn ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru."
Bydd Chris yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Hydref.
Bydd cyhoeddiad ynglŷn â phenodiad Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad yn dilyn yn y diwrnodau nesaf.