top of page

Volunteer Story (14) - Michael

Stori Michael yn gwirfoddoli i Home-Start.


Dwi’n gwirfoddoli i Home-Start gan mod i’n hoffi helpu pobl. Dwi’n cefnogi Steve, tad sydd â dau o feibion anabl, Lyndon a Kieran. Mae Lisa gwraig Steve yn gweithio rhan amser, felly mae mynd allan yn gallu bod yn reit anodd i Steve. Dydi o ddim yn gallu gwthio cadair olwyn a chadair wthio ar yr un pryd.

Fel gwirfoddolwr dwi’n cynnig cefnogaeth ymarferol, fel mynd allan i siopa efo nhw neu mynd i’r parc efo’r hogiau; pethau na fyddai Steve yn medru eu gwneud yn rheolaidd ar ei ben ei hun. Dwi’n trefnu efo Steve pryd mae o angen help; ar hyn o bryd dwi’n gwirfoddoli ar ddiwrnod pan mae o eisiau mynd â’r hogiau i weithgaredd cerddorol ac angen pâr arall o ddwylo. Mae gen i ddigon o oriau yn yr wythnos ac mi fedra i wirfoddoli yn ystod amserau sy’n fy siwtio i a’r teulu dwi’n ei gefnogi.


Dwi’n hoffi gweld y gwahaniaeth dwi’n ei wneud i’r teulu, i Steve ac i Lyndon a Kieran. Mae medru helpu mynd â’r hogiau allan a helpu’r teulu cyfan yn gwneud i mi deimlo’n dda amdanaf fy hun.


Glywes i am Home-Start gan ffrind a hefyd gan fy mam, a hyfforddodd i fod yn wirfoddolwraig ei hun. Roedd ei hyfforddiant hi yn ran o’i llwybr gyrfaol i fod yn weithiwr cymdeithasol. I mi mae dau mantais o fod yn wirfoddolwr. Yn gyntaf, mae’n rhywbeth fedra i ei roi ar fy CV, a thrwy wneud hynny dwi’n gobeithio y gwneith o roi hwb i ‘nghyrfa i. Ond yn bwysicach na hynny, dwi’n hoffi gweithio a bod o gwmpas pobl. Mae Home-Start yn caniatáu i mi wneud hynny.

1 view0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page